Croeso i wefan Synod Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd.
Rhan o’r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru ydym ni ac rydym yn gweithio ac yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Mae gennym un gylchdaith, Cylchdaith Cymru, gyda 75 cynulleidfa mewn 11 Ardal ar gyfer gweinidogaeth a chenhadaeth.
Gobeithio y bydd y wefan hon yn rhoi cyflwyniad i chi i fywyd y Synod a rhai o’i bobl, yn ogystal â rhoi gwybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau a chyfarfodydd.
Yn cydweithio â ni yn yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru y mae Wales Synod, sy’n defnyddio’r iaith Saesneg yn bennaf. Trwy gyfrwng Y Cyngor, cawn gyfle i rannu adnoddau a chydweithio ar faterion sydd o bwys i bawb.
Gallwch fynd i wefan Wales Synod trwy’r ddolen hon: www.methodistwales.org.uk
Ynghyd â Wales Synod, rydym ni’n perthyn i’r Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain, sy’n gweithio yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
Gallwch fynd i brif wefan yr Eglwys Fethodistaidd trwy’r ddolen hon: www.methodist.org.uk