Adolygu Bywyd Cylchdaith a Synod Cymru 2016-17: Dogfen Drafod

Sefydlwyd Cylchdaith Cymru yn 2009 yn dilyn proses ofalus o ymgynghori a chynllunio. Crëwyd un Gylchdaith allan o ddeuddeg, ynghyd ag Ardaloedd fel rhan o’r Gylchdaith, er mwyn i waith Synod Cymru barhau. Mae Cylchdaith Cymru wedi bodoli, felly, ers saith o flynyddoedd.

Mae adolygu’n rhan o’n bywyd Cristnogol. Byddwn yn archwilio’n hunain o flaen Duw ac yn ystyried beth sydd angen newid ynom ni wrth i ni ddweud ein gweddïau o gyffes. Mae gan bob cynulleidfa gyfrifoldeb i gynnal archwiliad ar ei chapel pob pum mlynedd (“Quinquenniel Inspection”) er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol i gynnal a chadw’r capel. Mi ddylai pob gweinidog yr Eglwys Fethodistaidd gymryd rhan mewn proses adolygu yn flynyddol (“Ministerial Development Review”) er mwyn canfod a gweithio ar agweddau ei (g)weinidogaeth sydd angen eu datblygu. Felly rydyn ni’n gyfarwydd iawn ag adolygu pobl a phethau, er mwyn pwyso a mesur sut mae Duw’n ein galw ni yn ei wasanaeth.

Yn yr un modd, cytunodd y Synod yn ei chyfarfod ym mis Ebrill 2016 i ni ddilyn proses o adolygu ein bywyd efo’n gilydd fel Cylchdaith a Synod Cymru yn ystod y flwyddyn gyfundebol 2016-17. Bydd yr adolygiad yma’n cael eu hwyluso gan Bwyllgor Gwaith y Gylchdaith/Synod, a bydd canlyniadau ac argymhellion o’r adborth yn cael eu cyflwyno i’r Synod ym mis Ebrill 2017. Croesawir adborth gan unigolion, capeli, Ardaloedd ac unrhyw bwyllgor, cyngor neu gyfarfod sy’n bodoli yng Nghylchdaith a Synod Cymru. Dymunir derbyn amrediad mor lawn ac yn eang ag sy’n bosib er llwyddiant yr adolygiad. Trwy ddilyn y broses hon, gobeithio y bydd yn bosib gweld sut mae Duw’n ein galw ni ar gyfer y dyfodol.

Felly, ceisiwn ymatebion gonest, dewr a realistig i’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw ein cryfderau ni? Beth ydyn ni’n gwneud sy’n dda ac yn effeithiol yn ein capeli a’n Hardaloedd, ac fel Cylchdaith a Synod Cymru?
  2. Lle mae’r gwendidau yn ein bywyd efo’n gilydd? Beth sy’n rhwystro ein gwaith yng ngwasanaeth teyrnas Dduw fel capeli, Ardaloedd, Cylchdaith a Synod?
  3. Pa gyfleoedd sy’n bodoli i ni wasanaethu Duw yn well, yn lleol a thrwy’r Gylchdaith a’r Synod i gyd?
  4. Beth sy’n bygwth ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth fel pobl Dduw, boed yn ein capeli a’n Hardaloedd, neu fel Cylchdaith a Synod?

Croesawir unrhyw sylwadau eraill sy’n berthnasol i’r adolygiad, wrth i ni ystyried ein bywyd efo’n gilydd o dan Dduw fel rhan o’r Eglwys Fethodistaidd. Diolch yn fawr i bawb.

Anfonwch eich ymatebion erbyn 31 Ionawr 2017 at:

Y Parch Ddr Jennie Hurd

jennifer.hurd@methodist.org.uk