Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru: Datganiad yn Dilyn Cyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru, 16 Tachwedd 2017

Yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017, gofynnodd Pwyllgor Polisi Synod Cymru i aelodau Pwyllgor Gwaith y Synod ddod yn ôl atynt yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd efo cynnig am ffordd ymlaen mewn ymateb i broses Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru. Roedd hynny oherwydd diffyg ymateb i benderfyniad cyfarfod y Synod ym mis Ebrill 2017 i greu chwe grŵp i weithio ar y themâu a ddaeth allan o’r broses ymgynghori fel rhan o’r adolygiad, ac oherwydd methiant y Pwyllgor Polisi i ffurfio ymateb eu hunain i’r sefyllfa yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.

Paratôdd y Pwyllgor Gwaith gynnig efo dau opsiwn, ac anfonodd y cynnig hwn at aelodau’r Pwyllgor Polisi ym mis Hydref efo papurau’r cyfarfod. Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor Polisi rannu’r cynnig efo pobl yn eu Hardaloedd ac i geisio eu barn. Roedd testun y cynnig fel a ganlyn:

Opsiwn 1:Yng ngoleuni’r ymatebion a ddaeth allan o adolygiad bywyd Synod a Chylchdaith Cymru, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cynnig ein bod ni’n ystyriedo ddifrif dod â Synod Cymru i ben, ac ein bod ni’n trafod efo Wales Synod y posibilrwydd o greu un Synod, Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, gan drefnu i Gylchdaith Cymru barhau fel Cylchdaith Gymraeg oddi mewn i’r Synod.

Os na fydd y cynnig hwn yn dderbyniol gan y Pwyllgor Polisi, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig ail opsiwn, sef:

Opsiwn 2: Gan dderbyn pwysigrwydd y chwe thema a ddaeth allan o broses adolygu bywyd Synod/Cylchdaith Cymru, ac yn gresynu at y diffyg gwirfoddolwyr i’r grwpiau a oedd am gael eu ffurfio i weithio ar y themâu yn dilyn Synod 2017, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cytuno:
(i) i estyn y cyfle i bobl wirfoddoli ar gyfer y grwpiau hyd at ddiwedd y flwyddyn calendr 2017;
(ii) i ymrwymo fel aelodau’r Pwyllgor Polisi i annog aelodau’r capeli a’r Ardaloedd i ystyried gwirfoddoli, ac i wirfoddoli ein hunain;
(iii) i gefnogi ac i annog y grwpiau bach yn eu tasg o baratoi argymhellion i gyfarfod y Synod 2018 am sut i ddatblygu bywyd y Synod a’r Gylchdaith o dan y chwe thema;
(iv) i dderbyn os na fydd o leiaf 3-4 o wirfoddolwyr ar gyfer y chwe grŵp erbyn 31 Rhagfyr 2017, bydd proses yr adolygiad wedi dod i ben.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig yng nghyfarfod y Pwyllgor Polisi yn Rhuthun ar 16 Tachwedd 2017. Roedd 18 o bobl yn bresennol, efo 16 yn pleidleisio. Pleidleisiodd 9 o blaid Opsiwn 1 a 7 yn erbyn. Gan gydnabod agosrwydd y niferoedd yma, mae’n bwysig deall natur gychwynnol y penderfyniad: y bwriad ar hyn o bryd yw cysylltu efo swyddogion Wales Synod ac i ofyn am sgyrsiau i ystyried y posibiliadau, a dim byd mwy. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Polisi yn eu cyfarfod ym mis Chwefror 2018, ac wedyn i’r Synod ym mis Ebrill, beth bynnag a ddaw. Yn y cyfamser, bydd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon derbyn sylwadau a chwestiynau gan aelodau Synod Cymru i’w bwydo i mewn i’r sgwrs efo cynrychiolyddion Wales Synod.