Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru – Y Diwetharaf

Fe gofiwch y cytunwyd yng nghyfarfod y Synod yn Aberystwyth yn 2016 i gynnal adolygiad bywyd Synod a Chylchdaith Cymru o dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith er mwyn ceisio ewyllys a galwad Duw ar ein cyfer ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn proses o gynnal adolygiad yn ceisio barn unigolion, eglwysi ac ardaloedd yn ystod 2016-17, daeth yn amlwg yn y broses dadansoddi bod chwe phrif thema ac cael eu hamlinellu yn yr ymatebion ac mai dyma’r themâu mae Duw yn ein galw i ganolbwyntio arnynt, wrth i ni barhau i geisio ei ffordd ymlaen fel Synod/Cylchdaith Cymru. Derbyniwyd hyn yng nghyfarfod y Synod yn Wrecsam ym mis Ebrill 2017 a chytunwyd i sefydlu chwe grŵp bach i weithio ar y chwe thema er mwyn i’r grwpiau bach ddod yn ôl i gyfarfod y Synod yn 2018 efo argymhellion pellach am sut i ddatblygu bywyd y Synod/Cylchdaith o dan y themâu. Yn y Synod a chyfarfodydd eraill, mewn erthygl yn y Gwyliedydd (Mehefin-Gorffennaf 2017) ac ar wefan y Synod, gofynnwyd i’r rhai oedd â diddordeb mewn un (neu fwy) o’r themâu ac am wirfoddoli i ymuno â grŵp i gysylltu â’r Person Cyswllt priodol erbyn Gorffennaf 10fed i’w cyflwyno i Bwyllgor Polisi Gorffennaf 2017 er mwyn symud ymlaen. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid cael isafswm o 3-4 i bob grŵp ac y buasai’r Pwyllgor Polisi yn penderfynu ar y camau nesaf yn achos y grwpiau lle nad oedd digon o enwau.

I’ch atgoffa dyma’r grwpiau a chynullydd bob un:

Bywyd ysbrydol  (Delyth Wyn Davies)
Gwaith efo plant/teuluoedd (Jon Miller)
Iaith – dwyieithrwydd/dysgwyr (Stephen Roe)
Estyn allan i’r gymuned (Maryl Rees)
Cyfathrebu (Ffion Rowlinson)
Cydweithio (yn ecwmenaidd, Eglwys Fethodistaidd ac fel Synod/Cylchdaith) (Ian Morris)

Canlyniad y broses hon oedd mai un enw yn unig a ddaeth i law yn achos bob un o’r grwpiau hyn. A chymryd y pwynt a wnaed eisoes bod angen isafswm o 3-4 i bob grŵp golyga hyn nad oedd hi’n bosibl sefydlu yr un o’r grwpiau ar y pryd a roedd angen i’r Pwyllgor Polisi ystyried hyn yn ddifrifol yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf gan geisio ewyllys ac arweiniad Duw ynghylch y ffordd ymlaen.

Treuliodd Pwyllgor Polisi mis Gorffennaf amser yn siarad am y mater mewn grwpiau gan ystyried tri cwestiwn:

1 Sut rydych chi’n ymateb i’r hyn rydych newydd ei glywed? (teimladau, rhesymau, goblygiadau)
2 Beth ydych chi’n meddwl y mae Duw yn dweud wrthym am hyn, ac am y chwe thema?
3 Beth yw eich eich barn ar sut ddylem symud ymlaen? Beth yw’r camau nesaf?

Mewn sgwrs hir a dwfn, mynegodd aelodau’r Pwyllgor Polisi nifer o bwyntiau, yn cynnwys eu siom, eu rhwystredigaeth efo problemau cyfathrebu, eu consyrn am ddifaterwch, eu cwestiynau am ddyfodol y Synod a’r Gylchdaith ac os oes ‘na awydd i fynd ymlaen. Yn y diwedd, doedd o ddim yn bosib dod o hyd at gynnig pendant am beth i wneud nesaf. Cynigwyd i’r mater yn mynd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi er mwyn paratoi cynnig am ffordd ymlaen i roi o flaen y Pwyllgor Polisi nesaf ym mis Tachwedd. Cytunwyd â hyn. Boed i Dduw roi doethineb a dewrder i bawb wrth i ni ystyried dyfodol Synod a Chylchdaith Cymru.