Swyddog Diogelu Taleithiol ar gyfer Talaith Fethodistaidd Synod Cymru
(Swydd dros dro: 1 Medi 2021 – 31 Awst 2022)
Oes gennych chi brofiad helaeth o ddiogelu?
Ydych chi’n gallu gweithio mewn modd hyblyg ac annibynnol?
Ydych chi’n hapus i weithio yn y sector ffydd?
Os felly, efallai mai dyma’r swydd i chi.
- £15,000-20,000 y flwyddyn (£29-39 yr awr)
- Cyfraniad Pensiwn Priodol
- Gweithio o’ch cartref
- 10 awr yr wythnos
Yr oriau i’w gweithio mewn modd hyblyg, gan gynnwys peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau. Bydd angen teithio i wahanol rannau o Gymru, o Fôn i Gaerdydd.
Oherwydd natur y swydd, mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Manylion llawn:
Ar gael gan Gadeirydd y Dalaith, y Parchg Ddr Jennifer Hurd
jennifer.hurd@methodist.org.uk
Ymholiadau pellach i: jennifer.hurd@methodist.org.uk
Anfonwch gopi o’ch CV i’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.
Dyddiad ac amser cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd ar ddydd Llun, 28 Mehefin 2021.
Cynhelir cyfweliadau brynhawn dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2021.
Bydd y cyfweliadau ar-lein drwy Zoom.
Y swydd yn amodol ar eirdaon boddhaol a gwiriad DBS manylach.