Swyddi ar Gael – Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn recriwtio am ddwy swydd wedi’u leoli yn
ein swyddfa yng Nghaerdydd. Maent yn swyddi newydd a chyffrous, a bydd
yr unigolion a benodir yn gweithio’n agos iawn â’ch eglwysi! Mae yna un
roll lawn amser ac un rol rhan amser.

Cydlynydd Ymrwymiad Cefnogwyr Cymru [rhan amser]

https://jobs.christianaid.org.uk/vacancy/cydlynydd-ymrwymiad-cefnogwyr-cymru—wales-central-supporter-engagement-coordinator-2927-cardiff/2945/description/

Swyddog Ymrwymiad Cefnogwyr Cymru  [llawn amser]

https://jobs.christianaid.org.uk/vacancy/swyddog-ymrwymiad-cefnogwyr-cymru—wales-central-supporter-engagement-officer-2928-cardiff/2946/description/

Trysorydd Newydd i’r Gylchdaith

Annwyl Gyfeillion,

Rwy’n ysgrifennu atoch heddiw ar fater pwysig.
Ers mis Medi rydym wedi bod yn chwilio am drysorydd newydd ar gyfer y
gylchdaith. Roeddem wedi gobeithio penodi rhywun erbyn mis Chwefror er
mwyn gweithio ochr yn ochr â’r trysorydd presennol. Er gwaethaf ein
hymdrechion, nid ydym wedi gallu gwneud hynny.

Heb drysorydd na allwn barhau fel cylchdaith.

Fel y gwyddoch, rydym yn mynd i wneud penderfyniad pwysig yn ein cyfarfod
synod nesaf ynghylch ein dyfodol. Rhaid i ni wneud dewis rhwng opsiwn 1 ac
opsiwn 2 (Gweler Gwyliedydd Rhifyn Ebrill-Mai tudalen 8-9). Mae opsiwn 1 yn
ddewis i aros yn gylchdaith annibynnol o fewn synod dwyieithog newydd.
Opsiwn 2 yw cau ein cylchdaith a cheisio ymuno â’n capeli Cymreig â’r
cylchdeithiau Methodistaidd Saesneg.
Os na fyddwn yn dod o hyd i drysorydd newydd ni fyddwn yn gallu dewis
opsiwn 1 – ein hunig ddewis fydd opsiwn 2.
Mae’r llythyr hwn wedi’i anfon at yr arweinwyr Ardal sydd wedi ei anfon i bob
capel y gylchdaith. Er gwaethaf y ‘lockdown’, rhannwch y llythyr a’r disgrifiad
swydd hwn gyda chymaint o aelodau â phosibl, os gwelwch yn dda.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn y rôl, dylent roi gwybod imi erbyn
diwedd mis Mehefin: Cyfeiriad e-bost – tcahoggard@yahoo.co.uk
Boed i ni gyda’n gilydd mewn gweddi ddod o hyd i’r ffordd ymlaen y byddai
Duw yn dymuno inni ei chymryd.
Parch Ddr Trevor Hoggard
Arolygydd Cylchdaith Cymru

 

Trysorydd Disgrifiad Swydd Trysorydd y Gylchdaith (1)

Adroddiad Adborth – Gweithio tuag at Synod newydd

Gweithio Tuag at Synod Newydd i’r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru

Ymateb Cylchdeithiau’r ddau Synod i’r Broses Ymgynghori

Annwyl Gyfeillion

Ar ran y Grŵp Llywio sydd yn cynrychioli dau Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru a hefyd y Cyfundeb Methodistaidd ym Mhrydain, hoffem ddiolch i’n holl Gylchdeithiau, Ardaloedd, eglwysi ac aelodau a gymerodd ran yn y broses ymgynghori ynglŷn â’r ddogfenGweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. Cynhaliwyd y broses ymgynghori hon rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2018, ac mae’r papur sydd ynghlwm yn rhoi crynodeb o’r adborth a dderbyniwyd. Roedd yr ymgynghoriad yn gam pwysig iawn o fewn yr holl broses o ganfod ffordd ymlaen.

Cyfarfu’r Grŵp Llywio ar 14 Rhagfyr 2018 er mwyn ystyried yr adborth a beth oedd yn cael ei ddweud drwyddo. Er bod cryn dipyn o gefnogaeth i’r cynigion mewn egwyddor, nodwyd bod llawer o gwestiynau yn parhau i fod ynghylch y manylion. Cytunwyd hefyd, er bod yr adborth yn codi llawer o gwestiynau pwysig ac yn gwneud nifer o bwyntiau dilys, nad oedd y cwestiynau a’r pwyntiau hyn yngyfystyr â dadl dros beidio â pharhau â’r brosesyn gyffredinol. Roedd y Grŵp Llywio’n ddiolchgarfod y sgyrsiau sy’n cael eu cynnal wedi cael eu hategu, yn ochelgar ond yn gadarnhaol.

Er mwyn helpu i fynd â’r broses yn ei blaen, mae’r Grŵp Llywio ar hyn o bryd yn ceisio ymateb i’r pwyntiau cryfaf a wnaed yn yr adborth. Dyma beth sy’n cael ei wneud:

  • Mae swyddogion y ddau Synod yn gweithio ar drefniadau a modelau posibl ar gyfer materion cyllid mewn Synod newydd;
  • Mae’r Grŵp Llywio wedi dechrau ar y gwaith o ystyried patrymau ac aelodaeth y gwahanol gynghorau a phwyllgorau a chyfarfodydd eraill a all fod yn angenrheidiol mewn Synod newydd;
  • Mae Polisi Iaith drafft yn cael ei baratoi, gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau gwerthfawr a wnaed gan aelodau’r ddau Synod fel rhan o’r adborth;
  • Mae’r amserlen yn cael ei hystyried ar gyfer y broses sydd yn parhau i fynd yn ei blaen, er mwyn sicrhau bod y pryderon a’r cwestiynau a godwyd yn yr adborth yn cael sylw dyledus.

Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ymateb i’r adborth wrth i’r sgyrsiau fynd yn eu blaenau.

Bydd y Grŵp Llywio’n cyfarfod eto ar 22 Ionawr 2019 a bydd y Cyngor Methodistaidd yn derbyn adroddiad ar y broses ymgynghori, yn unol â’r hyn a gymeradwywyd gan Grŵp Craffu’r Cyngor, pan fydd yn cyfarfod ar 30 a 31 Ionawr.

Unwaith eto, diolch yn fawr am eich holl ymatebion i’r cais am adborth. Mae croeso i chi gysylltu ag un ohonom ni neu unrhyw aelod o’r Grŵp Llywio wrth inni barhau i weithio a gweddïo gyda’n gilydd.

Pob bendith,

Y Parchg Ddr Stephen Wigley (Cadeirydd Wales Synod)

Y Parchg Ddr Jennie Hurd (Cadeirydd Synod Cymru)

 

 

     

Tuag at Synod Newydd i’r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru –

Ymateb Cylchdeithiau’r ddau Synod i’r Broses Ymgynghori

 

 

Cymru

Derbyniwyd atebion ysgrifenedig gan 10 o’r 11 Ardal. Roedd pob un o’r Ardaloedd hynny wedi cynnal trafodaethau mewn Cyfarfod Ardal neu gyfarfod ychwanegol. Cafwyd ymateb anffurfiol ar lafar gan un o Oruchwylwyr yr Ardal arall.Derbyniwyd nifer fach o ymatebion ysgrifenedig gan eglwysi ac unigolion (y rhan fwyaf yn mynegi gwrthwynebiad).

 

Wales

Derbyniwyd ymatebion gan Gylchdeithiau Wales Synod yn bennaf (cafwyd ateb gan 15 cylchdaith). Fe atebodd rhai eglwysi ac aelodau unigol o’r Eglwys Fethodistaidd.

 

Cwestiwn 1 A ydych chin cefnogi’r cynnig y dylai dwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd?

 

Cymru

  • Roedd 9 Ardal yn cefnogi’r cynnig at ei gilydd; roedd 1 yn rhanedig; roedd 1 yn gryf yn erbyn.
  • Yn gyffredinol, mae ar bobl eisiau mwy o wybodaeth am bopeth ac yn enwedig sicrwydd am le’r iaith Gymraeg, y trefniadau ariannol a chynrychiolaeth ar gynghorau, y Synod, pwyllgorau.

 

Wales

Atebodd 10 eu bod yn ei gefnogi.

Sylwadau:

  • Mynegwyd pryder ynghylch diffyg gwybodaeth am niferoedd yr eglwysi/aelodau – teimlid mai da o beth fyddai cael gwell amcan am y sefyllfa.
  • Mae Cymru’n rhy fawr ar gyfer un Synod – cynigir dwy Dalaith, ill dwy yn ddwyieithog.
  • Roedd ein Cylchdaith ni yn rhanedig iawn ac nid oedd mwyafrif o blaid nac yn erbyn.

 

Cwestiwn 2Os ydych, a ydych chin cefnogir cynnig i enwir dalaith newydd yn Synod Cymru Wales?

 

Cymru

  • Cefnogwyd y cynnig hwn gan 3 Ardal; ni fynegwyd unrhyw farn gan 6; cynigiwyd yr enw ‘Synod Cymru’ gan 2.
  • Soniwyd bod y gair ‘Synod’ yn cael ei ddefnyddio yn y ddwy iaith (yn wahanol i ‘Talaith’/‘District’), er bod yr enw ‘Talaith Cymru/Wales District’ hefyd wedi cael ei awgrymu.
  • Awgrymwyd yr enw ‘YrEglwysFethodistaiddyngNghymru/The Methodist Church in Wales’ hefyd.
  • Nodwyd bod Synod Cymru Wales yn ailadrodd yr un enw: mae Synod Cymru’n enw hawdd i’w ddeall ac mae llawer o sefydliadau dwyieithog yng Nghymru yn mynd wrth enw Cymraeg yn unig.

 

Wales

Dyma’r cynigion a gafwyd:

Cymru Wales Synod                   4                      Wales Cymru District    1

Cymru District                             1                      Wales Synod Cymru      4

District Cymru Synod Wales    1                      Wales Synod                    1

Wales Cymru Synod                  1                      Dim barn am yr enw       3

Cymru/Wales District               1

Sylwadau:

  • Beth yw’r gofynion cyfreithiol o ran trefn y Gymraeg a’r Saesneg yn yr enw?
  • Nid yw Cymru Wales Synod yn gwneud unrhyw synnwyr.
  • Nid yw’r enw yn broblem.
  • A ddylai Synod Cymru ddod yn rhan o Wales Synod?
  • Beth sy’n bod ar ‘Talaith’ a pham rydym ni wedi cael cymaint o obsesiwn gyda Synod – mae’n drysu rhwng y ‘corff’ a’r ‘cyfarfod’.

 

Cwestiwn 3 A ydych chin cefnogir cynnig y byddai’r dalaith newydd yn cynnwys 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod, gydag un ohonynt yn Gylchdaith Cymru gyda hunaniaeth, cenhadaeth a gweinidogaeth Cymraeg ei hiaith?

 

Cymru

  • Roedd 7 Ardal yn cefnogi’r cynnig at ei gilydd; roedd 1 yn gryf yn erbyn; mynegodd 2 bryder ynghylch bod yn y lleiafrif ar lefel Synod; dywedodd 1 y dylai pob cylchdaith fod yn ddwyieithog.
  • Roedd yr ymatebion yn gymysg iawn, gyda llawer o bryder oherwydd y byddai Cylchdaith Cymru yn y lleiafrif.

 

Wales

Atebodd 9 eu bod yn cefnogi.

Sylwadau:

  • Byddai 15 Cylchdaith ddwyieithog yn well.
  • Pob Cylchdaith yn ddwyieithog.
  • Byddai angen adfer swyddogaeth Cadeiryddion Cynorthwyol fel rhan o’r model.

 

Cwestiwn 4 A ydych chin cefnogir cynnig y byddair dalaith newydd yn cael ei harwain gan 2 Gyd-gadeirydd (un yn byw yng Ngoledd Cymru ac un yn byw yn ne Cymru), ac o leiaf un ohonynt yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg (neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg?

 

Cymru

Dywedodd 4 Ardal y dylai o leiaf un Cadeirydd fod yn rhugl yn y Gymraeg o’r cychwyn; dywedodd 3 Ardal y dylai’r ddau Gadeirydd fod yn rhugl; ni roddwyd unrhyw ymateb penodol mewn 2 Ardal; roedd 2 Ardal yn cefnogi’r cynnig at ei gilydd.

 

Wales

Atebodd 10 eu bod yn cefnogi’r cynnig.

Sylwadau:

  • Pryder y byddai’r dewis o gyd-gadeiryddion efallai yn cael ei gyfyngu – gofynion ieithyddol.
  • Ni wnaeth y model cyd-gadeiryddion weithio pan ffurfiwyd Wales Synod felly pam yn awr?
  • A fydd yr arian ar gyfer dau gyd-gadeirydd yn parhau? Pa mor sicr ydyw?
  • Os un Cadeirydd yn unig ryw dro yn y dyfodol, byddai’r unigolyn hwnnw’n gorfod bod yn ddwyieithog – y nifer o bobl fyddai ar gael yn fach iawn.
  • Pwy fyddai’n delio ag unrhyw fater o bwys os na fyddai Cadeirydd arweiniol?
  • Model gwell fyddai un Cadeirydd ac un Is-gadeirydd – y ddau unigolyn i gyflawni’r swyddogaethau bob yn ail, un flwyddyn ar y tro.
  • Un Cadeirydd, dau Ddirprwy, un yn y gogledd a’r llall yn y de.

 

Cwestiwn 5 Sylwadau Eraill

 

Cymru

  • Nid yw’r papur trafod yn sôn am ecwmeniaeth. Byddai ar y Synod newydd angen Swyddog Ecwmenaidd sy’n siarad Cymraeg, i gysylltu â’r enwadau Cymraeg.
  • Mae’n hanfodol gwarchod a pharchu’r iaith Gymraeg.
  • Mae angen inni gofio bod gennym eisoes berthynas â’n gilydd fel Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, gyda dau Synod.
  • Mae’r cynnig yn rhoi cyfle inni godi ymwybyddiaeth ymhlith aelodau Wales Synod o’r iaith Gymraeg/Cymru fel cenedl ddwyieithog. Mae potensial ar gyfer cyfleoedd cenhadol.
  • Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai perthnasau ecwmenaidd lleol barhau.

Duw biau’r eglwys, nid ni!

  • Mynegodd llawer o bobl bryder am y goblygiadau ariannol posibl, yn enwedig unrhyw gynnydd yn y trethiant.
  • Mae angen polisi iaith cadarn – hollol hanfodol. Mae’n rhaid wrth ymrwymiad llwyr i ddwyieithrwydd ac i’r iaith Gymraeg a rhaid i’r Gymraeg barhau i fod yn iaith Cylchdaith Cymru.
  • Fe wnaeth rhai rannu profiadau cadarnhaol o addoliad dwyieithog – ac eraill brofiadau negyddol!
  • Efallai bod goblygiadau cadarnhaol o safbwynt ymarferol – peidio â dyblygu rhai cyfarfodydd; cydnabod pobl sy’n siarad Cymraeg ac sydd yn eglwysi Wales Synod; cyfleoedd ar gyfer addoliad dwyieithog.
  • Mae’n fodd i barhau’r gwaith Cymraeg ar ôl ein dydd ni!
  • Roedd pryder/ofn gwirioneddoly caem ein llyncu/gormesu gan y Cylchdeithiau Saesneg yn y Synod, o fod yn ddim ond un o 16.
  • Mae angen cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd.
  • Mewn undod y mae nerth; rydym yn gryfach gyda’n gilydd.
  • Mae’n rhaid i arian o’r Synod fod ar gael i gefnogi Cylchdaith Cymru, fel ar hyn o bryd.
  • Mae hyn yn rhoi cyfle i ailfeddwl/ailwampio sut y gosodir trethiant Cylchdaith Cymru; mae’n cynnig posibilrwydd i symud o drethiant fesul aelod i drethiant fesul eglwys.
  • Mae’n rhaid i’r polisi iaith fod i’r safon a fabwysiadwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.
  • Roedd ambell un yn meddwl bod y ddogfen drafod yn gymhleth a bod gormod o waith darllen arni.
  • Mae’r math hwn o drefniant eisoes yn gweithio’n dda gydag EBC.

 

Wales

  • Dylai pobl gael hawl i addoli yn eu hiaith eu hunain.
  • Pryder ynglŷn â theithio mewn Synod Cymru Gyfan.
  • Nid oedd y canlyniadau o ran cenhadaeth yn Wales Synod yn effeithiol iawn yn dilyn yr integreiddio – os bydd y cynllun hwn yn mynd rhagddo, mae angen gwell canlyniad.
  • Pryder mawr am gostau argraffu dwyieithog.
  • Pryder na ddylai trethiant Cylchdeithiau gael ei gynyddu yn sgil ffurfio Synod newydd.
  • Atgasedd cryf o ran defnyddio clustffonau i ymdopi â chyfieithu.
  • Sut mae pobl sydd â chymorth clyw yn dod i ben gyda chlustffonau?
  • Pwerau staffio Cadeiryddion wrth symud pobl o fewn talaith – efallai y byddai’r pwerau’n fwy mewn Talaith integredig.
  • Beth yw manteision Synod newydd?
  • A fyddai angen llyfr emynau a llyfr gwasanaeth dwyieithog?
  • Byddai cael cyd-Gadeirydd yn fodel da.
  • Byddai Synod newydd yn creu sail dda ar gyfer llais Methodistiaeth yng Nghymru.
  • Byddai cyfarfodydd Synod dwyieithog yn anodd ac mae’n bosib iawn y byddai’r presenoldeb yn mynd i lawr oherwydd yr angen i ddefnyddio clustffonau.
  • Beth fyddai’r goblygiadau ar gyfer y Synod, y Cylchdeithiau a’r eglwysi unigol?
  • Nid oedd yn holiadur da – wedi ei ysgrifennu fel bod ymatebion cadarnhaol ar gyfer cydsynio â’r cynnig.
  • Yr amserlen ar gyfer ymateb yn rhy fyr ar gyfer ymgynghori’n iawn.
  • Dim digon o wybodaeth am y goblygiadau i wneud penderfyniadau goleuedig. Cyn i unrhyw benderfyniad ffurfiol gael ei wneud, mae’n rhaid i’r Cylchdeithiau gael llawer mwy o wybodaeth fanwl ac yn ddi-os bydd hyn yn golygu bod yn rhaid ymestyn yr amserlen.
  • Mae’r wybodaeth a dderbyniwyd yn awgrymu mai ar y lefel ‘uchaf’ yn unig y byddai’r Synod newydd yn cael effaith.
  • Mae’r rhaniad pŵer yn edrych yn anghytbwys – gan awgrymu rhaniad 50-50 pryd y dylai efallai, oherwydd aelodaeth, fod yn 94-6.
  • Pa effaith fydd hyn yn ei gael ar staff sy’n dod o’r tu allan i Gymru? Tasg anodd ar hyn o bryd ac a fyddai’r model arfaethedig hwn yn gwneud pethau’n waeth?
  • Heb fod yn glir sut y byddai baich gwaith y ddau Gadeirydd yn cael ei rannu.
  • A yw’r cynnig yn mynd i gadw nifer o eglwysi bach iawn yn agored am ychydig yn rhagor?
  • Gallwn gydweithio heb uno.
  • Bydd gweithio fel un Synod yn agor cyfleoedd newydd i weithio ar draws ffiniau Cylchdeithiau a chydrhwng gwaith sydd yn draddodiadol yn digwydd naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg.
  • Mae angen bod yn ofalus na fyddwn yn creu dau Synod – pob un dan arweiniad cyd-Gadeirydd.
  • Byddai angen i’r ddau Gadeirydd chwarae rhan yn y broses sefydlu gweinidogion.
  • Mynegwyd pryder nid yn unig ynglŷn ag iaith ond hefyd ynglŷn â diwylliant a ‘bod â gwreiddiau’ yn y diwylliant Cymraeg.
  • Mae’n rhaid i agweddau cenhadol arwain trafodaethau ar fater strwythur yn y manylion.
  • 9 yn unig o bobl a ddenwyd i’r cyfarfod yn ein Cylchdaith ni.
  • Daeth 33 o bobl i’n cyfarfod ni – mewn pleidlais anffurfiol roedd mwyafrif llethol o blaid y cynigion, gydag ambell un yn unig yn atal ei bleidlais ac un yn erbyn.
  • Mae angen gweledigaeth leol ar gyfer y dyfodol – pwysig iawn uchafu’r un Synod mewn ardal ddaearyddol leol.
  • Pryder ynglŷn â gallu denu gweinidogion i Gymru.
  • Sut y gall ardaloedd Seisnigedig annog defnyddio’r iaith Gymraeg?
  • Mae angen mwy o adnoddau dwyieithog.
  • Yn y gogledd, mae’n creu cyfle i bregethwyr lleol ac arweinwyr addoli o eglwysi Cymraeg a Saesneg gefnogi ei gilydd.
  • Pwysig bod y ddogfen sy’n cynnig un Synod yn cael ei rhoi at ei gilydd yn y fath fodd fel y bydd yn adlewyrchu’r farn mai proses raddol fydd datblygu cenhadaeth mewn amgylchedd amlieithog, a bod angen i ni ddilyn arweiniad Duw.
  • Mae gobaith y byddwn cyn bo hir yn gweld angen i rai Cylchdeithiau mewn gwahanol rannau o Gymru integreiddio a gweithio’n ddwyieithog.

________________________________

DIWEDD

 

Thema Bywyd Ysbrydol 2018-19

Thema Bywyd Ysbrydol 2018-19

cropped-Anglesey-Cross-2.png

Dros y pedair blynedd ddiwethaf bu eglwysi ac ardaloedd Synod Cymru yn dilyn rhaglen Datblygu ein Galwad gan ganolbwyntio ar un o’r pedwar prif thema yn eu tro. Yn dilyn adolygiad o’r rhaglen hon yn ystod cyfarfod Synod Cymru yn Ebrill daethpwyd i’r casgliad mai da oedd dilyn rhaglen o’r fath a phenderfynwyd cynnal rhaglen newydd yn cychwyn ym Medi 2018 gan ganolbwyntio ar y chwe phrif thema a gododd yn yr adolygiad ar fywyd a gwaith Synod a Chylchdaith Cymru gan ddechrau gyda’r thema Bywyd Ysbrydol.

 

Yng nghyfarfod y Synod cafwyd adroddiad gan grŵp a fu’n edrych i mewn i’r thema hwn gydag argymhellion am sut i ddatblygu bywyd y Synod/Cylchdaith o dan y thema Bywyd Ysbrydol. Ceir isod rhestr o awgrymiadau a syniadau am adnoddau defnyddiol i helpu eglwysi a grwpiau i ddatblygu eu bywyd ysbrydol o dan chwe blaenoriaeth:

 

  • Beth yw bywyd ysbrydol?

Anogir eglwysi ac ardaloedd i ystyried a thrafod beth yw bywyd ysbrydol ac i bobl fyfyrio a gweddïo am eu profiad o Dduw. Ystyriwch bwysigrwydd diolchgarwch a rhyfeddod bywyd pob dydd a bod Duw yno 24/7. Meddyliwch am y syniad o ddisgwyl am Dduw a’r Ysbryd Glân yn ein profiad o ddydd i ddydd. Anogir myfyrdod/gweddi bersonol ar ddechrau a diwedd y dydd.

 

Adnoddau:

Ar gyfer myfyrdod dyddiol personol A Word in Timewww.methodist.org.uk/our-faith/the-bible/a-word-in-time

The Methodist Prayer Handbook http://www.methodist.org.uk/our-faith/prayer/methodist-prayer-handbook

Gair y Dydd, gol. Pryderi Llwyd Jones, adnodd defosiwn dyddiol Cymraeg, Gwasg y Bwthyn

Blwyddyn gyda Iesu, Selwyn Hughes, addas. Meirion Morris

Agor Y Gair Gyda Mari, 26 darlleniad a myfyrdod yn seiliedig ar daith Mari Jones a rhai awgrymiadau i’ch helpu i wneud cysylltiad rhwng geiriau’r Beibl a’ch bywyd chi heddiw, Christine Daniel, Cymdeithas y Beibl

Adnoddau cyffredinol www.methodist.org.uk/our-faith  – llawer o wybodaeth ac adnoddau o dan y penawdau Life and faith, prayer, the Bible, worship, reflecting on faith

 

  • Pwysigrwydd darllen y Beibl a gweddïo gyda’n gilydd

Grŵp astudiaeth Feiblaidd rheolaidd

Cyfarfod gweddi reolaidd

Cynnal astudiaeth yn lle un oedfa’r mis

Grwpiau tai

Cynnal digwyddiadau gweddi megis gweddi 24-7, gorsafoedd gweddi, labrinth a theithiau cerdded gweddi

 

Adnoddau:

Cwrs Y Ffordd, Undeb yr Annibynwyr www.annibynwyr.org/y-ffordd-3

Cwrs Grawys Exploring spiritual practices gydag adnoddau i’w lawrlwytho o wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodist.org.uk/our-faith/worship/lent-and-easter/exploring-spiritual-practices

50 days to let your life speak – sesiynau yn arwain at y Pasg i’w lawrlwytho http://www.methodist.org.uk/our-faith/worship/lent-and-easter/lent-and-easter-resources/50-days-to-let-your-life-speak

Great 50 day following Jesus llyfryn defosiwn dyddiol/adnodd grŵp bach ar gyfer Pasg, Esgyniad a Phentecost

 

  • Ffordd o fyw/Disgyblaeth Gristnogol

Deled dy deyrnas / Thy Kingdom come www.methodist.org.uk/our-faith/prayer/thy-kingdom-come  mudiad gweddi gyda phwyslais ar weddi rhwng yr Esgyniad a Phentecost Deunydd gweddi ar gyfer teuluoedd a’r llyfryn Naw Diwrnod o Weddi Disgwyl mewn Rhyfeddod.

Dilyn cwrs Holy Habits, Andrew Roberts, yn seiliedig ar y deg arfer a welwyd yn yr Eglwys Fore (Actau 2.42-47)

Meithrin Arweinyddion newydd o fewn yr eglwys

Cynnal pererindod /encil

 

Adnoddau:

Llyfrynnau Holy Habits, cyhoeddwyr BRF

Clonc a sgwrs (Table Talk yn Gymraeg) – gêm sgwrsio sy’n creu cyfleoedd i archwilio rhai o gwestiynau mawr bywyd

Emaus: Ffordd y Ffydd – Tyfu fel Cristion – cynllun hyfforddi cydenwadol i groesawu pobl i’r ffydd Gristnogol

 

  • Teimlad o berthyn

Adfer/dechrau’r syniad o ‘class’ a datblygu arweinwyr ‘class’, cynullydd bugeiliol. Y manteision fyddai disgyblaeth Gristnogol, ymdeimlad o berthyn, gofal bugeiliol, parhad traddodiad Methodistaidd.

Cymdeithas neu Gymdeithas Lenyddol

Creu cyfleoedd i gymdeithasu, e.e. paned wythnosol, clwb gwau (neu ddiddordeb arall) cinio cymunedol, clwb darllen, dathliadau arbennig, te parti, trip, taith gerdded, picnic, barbeciw, pryd bwyd, cyngerdd, twmpath, stondinau, ac arwerthiant.

 

Adnoddau:

Wrth fy enw

Y Gwyliedydd

The Methodist Prayer Handbook

‘Encircled with care’ – cynllun yr Eglwys Fethodistaidd ar gyfer Ymwelwyr Bugeiliol

 

  • Creu brwdfrydedd/oedfaon na ellir eu colli

Disgwyl yr Ysbryd Glân. Llawenhau. Ymdeimlad o Dduw.

Defnyddio’r Llithiadur i sicrhau sylw a phwyslais ar y gwyliau Cristnogol.

Trwytho oedfa mewn gweddi:

Annog aelodau’r gynulleidfa i weddïo cyn dod i oedfa

Argymell gweddi gan stiward/blaenor cyn yr oedfa

Annog pregethwyr, arweinyddion addoli i weddïo ar ddechrau oedfa gan fynegi disgwyliad o bresenoldeb Duw – galwad i addoli, gweddi agoriadol neu ddefnyddio tawelwch

 

Adnoddau:

ROOTS Cynllun dysgu ac addoli ar gyfer pob oed gyda ffocws bob wythnos ar un o ddarlleniadau’r llithiadur yn cynnwys paratoi at bregethu, gwasanaeth pob oed, ysgol Sul ac astudiaeth Feiblaidd. Ceir amrywiaeth o weddïau Cymraeg ar gyfer adegau gwahanol mewn addoliad a thaflen i blant yn Gymraeg.

Ei Orsedd Rasol Ef, casgliad o weddïau gan y Pregethwr Lleol John Birch, addas. Dewi Myrddin Hughes, Cyhoeddiadau’r Gair

Syniadau i eglwysi ar wefan www.beibl.net

 

  • Y gymuned / anghenion lleol

Gweld ein hunain fel rhan o’r gymuned ehangach a phwysigrwydd y ffordd byddwn yn ymddwyn. Bod yn ymwybodol o bethau o’n cwmpas, bod yn effro i angen pobl o’n cwmpas.

Cymryd y cyfle i adeiladu perthynas efo pobl y down ar eu traws bob dydd.

‘Ni ydi’r Beibl y mae pobl y tu allan i’r eglwys yn ei ddarllen’.

Cefnogi Banc Bwyd

Agor y Llyfr

Bugeiliaid y stryd

Mynd i gartrefi gofal – cynnig y cyfle i addoli i rai tu allan i’r eglwys

Gweithgaredd mewn caffi neu dafarn

Cefnogi achosion da lleol

 

Adnoddau:

Gellir prynu llyfrynau pwrpasol ar gyfer ymweliadau bugeiliol ar achlysuron arbennig gan Gyhoeddiadau’r Gair:

Gair o Gysur mewn Gofid a Galar

Gair o Gysur mewn Gofid a Gwaeledd

Wele, cawsom y Meseia – Nadolig

Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw – Pasg

O llawenhawn! Daeth Crist i’n plith – cyfres o adnoddau cenhadol ar gyfer y Nadolig

 

Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Tudalen)

Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru.

Cynnig: i ddwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Synod Cymru a Wales Synod) weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd o dan yr enw Synod Cymru Wales gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gydlyniad i waith Methodistiaeth yng Nghymru a’r gallu i ymateb yn fwy creadigol i gyfleoedd cenhadu yn y ddwy iaith.

Cychwynnwyd y broses hon yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru ym mis Tachwedd 2017 yn dilyn ystyriaeth weddigar o ganlyniad i adolygiad Synod/Cylchdaith Cymru 2016-17. Fel pobl Methodistaidd yng Nghymru mae’n rhaid i ni rannu adnoddau a sgiliau er mwyn cryfhau ein cenhadaeth. Ar hyn o bryd mae yna ranbarthau lle does dim ond Methodistiaeth cyfrwng Cymraeg yn bodoli; rhanbarthau lle does dim ond gwaith Saesneg; rhanbarthau lle mae yna gyfran gref o orgyffwrdd a rhanbarthau lle does dim presenoldeb Methodistaidd o gwbl. Nid yw’r un o’r ddau Synod heb gronfeydd wrth gefn. Serch hynny, mae’r bwriad i gydweithio er mwyn yr efengyl, yn arbennig yn y rhanbarthau hynny sydd angen anogaeth neu fentrau newydd, yn cynrychioli stiwardiaeth dda. Yn y ddau Synod mae nifer o aelodau sydd â’u hiaith gyntaf yn wahanol i iaith broffesedig y Synod: buasai Synod sy’n gweinidogaethu yn y ddwy iaith o fudd iddynt. Yn yr un modd, canfyddwn ddysgwyr Cymraeg yn y ddau Synod ac wrth i gymuned y dysgwyr gynyddu felly y bydd y cyfleoedd i wasanaethu a gweinidogaethu i’r grŵp hwn. Mae gan dystiolaeth un Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru y potensial i ddangos cariad hollgynhwysol Duw yng Nghrist, sy’n uno, ac i gynnig neges gobaith i gymdeithas sydd weithiau’n rhanedig. I’r diben hwn cawn ein gwahodd i fynd i mewn i broses weddigar o ymgynghoriad ac ystyriaeth.

Mae’r Grŵp Llywio’n rhagweld y gallai’r dalaith newydd gynnwys:

  • 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod
  • Cylchdaith Cymru gyda’i Harolygydd ei hunan (na fyddai’n Gadeirydd y Synod) fyddai’n cadw’n llawn ei hunaniaeth, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth Gymraeg
  • 2 gyd-Gadeirydd wedi’u hariannu gan Gronfa’r Eglwys Fethodistaidd
  • O leiaf un Cadeirydd fyddai’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg
  • Un Cadeirydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac un yn byw yn Ne Cymru a’r ddau’n rhannu’n gyfartal yng nghyfrifoldebau’r cyfundeb a’r dalaith ac yn cymryd arweinyddiaeth fugeiliol yn y cylchdeithiau.
  • Un Ysgrifennydd y Synod ac un Ysgrifennydd Cynorthwyol y Synod
  • Tîm Arweinyddiaeth y Synod fyddai’n cynnwys y ddau gyd-Gadeirydd ac Ysgrifenyddion y Synod, Trysorydd y Synod a swyddogion wedi eu diffinio
  • Pwyllgor Polisi’r Synod fyddai’n cynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Synod ynghyd â chynrychiolaeth o bob un o’r 16 cylchdaith (gyda chynrychiolaeth amrywiol fyddai’n adlewyrchu bywyd y Synod)
  • Swyddfa Synod a Gweinyddydd yn Ne Cymru, yn cael ei g/chefnogi mewn darpariaeth deunydd Cymraeg gan Swyddfa Cylchdaith Cymru a’I Gweinyddydd wedi eu lleoli yn y gogledd
  • Gwefan y Synod gyda deunydd a gwybodaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

Buasai’r Synod newydd yn cynnal y cyfarfodydd canlynol:

  • Synod Cynrychioliadol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Synod y Gweinidogion (Presbyters) yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Tîm Arweinyddiaeth y Synod y flwyddyn (gydag un yn gyfarfod dros nos gyda’r Arolygyddion)
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Pwyllgor Polisi’r Synod y flwyddyn
  • Pwyllgorau amrywiol (i adlewyrchu bywyd y Synod)

Buasai angen gwaith pellach ynglŷn â chyfarfodydd y Synod, yn enwedig ynglŷn â

  • Pwrpas, nifer a chyfansoddiad y pwyllgorau amrywiol gan gymryd i ystyriaeth strwythur presennol y ddau Synod, anghenion CPD a chlywed gan Daleithiau eraill sydd wedi uno i greu strwythurau newydd yn ddiweddar
  • Amlder a lleoliad cyfarfodydd gyda rhai yn y cnawd yn cael eu cadw i’r lleiafrif a’r amser a dreulid ynddynt yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosib
  • Gan gydnabod y cyd-destun dwyieithog cynyddol, datblygu polisi iaith Gymraeg fyddai’n ymateb i faterion fel yr angen am i bob corff o’r Synod sy’n gwneud penderfyniadau (e.e. Synod a’r Pwyllgor Polisi) weithio a chyfathrebu’n ddwyieithog gyda chymorth cyfieithu ar y pryd; i bwyllgorau sy’n delio gyda gweinidogaeth (e.e. Ymgeiswyr a Gweinidogion ar Brawf) adlewyrchu iaith y rhai sy’n cymryd rhan; i bwyllgorau sy’n delio â materion arbenigol (e.e. Eiddo a Diogelu) ddefnyddio yn anad dim yr iaith sy’n galluogi i’r cyfraniad arbenigol hwnnw gael ei wneud mor effeithiol â phosib
  • Nad oedd yn rhan o’r trafodaethau cychwynnol a’r cynnig amlinellol gan nad oedd yn ystyriaeth y tu ôl i’r trafodaethau. Fodd bynnag, mae’r Grŵp Llywio’n cydnabod fod cyllid yn fater pwysig ac felly’n cynnig rhai syniadau cychwynol yn awr.

Yr egwyddor gychwynnol yw y byddai unrhyw Synod newydd yn etifeddu’r cronfeydd a ddelir    gan y ddau Synod presennol a’r Cyngor. Mae gan y ddau Synod presennol gronfeydd cyfalafol sylweddol fyddai ar gael i’r Synod newydd i gynnal ei genhadaeth a gweinidogaeth (ac mae’n bwysig y bydd y cronfeydd hyn ar gael i gynnal cenhadaeth a gweinidogaeth y Synod newydd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na’u gweld fel arian yn deillio o’r Synodau blaenorol). Mynegwyd peth gofid am gostau ychwanegol a allai godi o’r angen am ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a chyfieithu yn y Synod newydd a bydd yn bwysig sicrhau bod yr adnoddau hyn wedi eu hariannu’n iawn er mwyn eu gwneud i safon uchel. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd y gall y bydd rhai arbedion wrth uno gan y  bydd rôl y Cyngor yn dod i ben a bydd gan y Synod newydd fynediad i unrhyw gronfeydd a ddelir gan y Cyngor ar hyn o bryd (gan gynnwys y balans hanesyddol o Rwydwaith Hyfforddiant Cymru).

Yng ngoleuni hyn, i gychwyn, bwriedir i gost gweithredu’r Synod newydd fod yn niwtral yn nhermau cyllid gwariant a threthiant o gylchdeithiau gydag unrhyw gynnydd mewn costau gweithredol yn dod o’r cronfeydd cyfalafol sylweddol a chwyddedig a ddelid gan y Synod newydd. Fodd bynnag, dylid  nodi y bydd angen gweithio ar bolisi grantiau’r Synod newydd, gan weithio ar y sail bod cynnal a datblygu cenhadaeth a gweinidogaeth yn yr iaith Gymraeg yn un o brif sylfeini’r Synod newydd. Bydd hefyd yn bwysig, yng ngoleuni’r profiad o uno cylchdeithiau eraill yn ddiweddar, bod y Synod newydd yn symud tuag at system gyffredin o gyllido a dyrannu trethiant cylchdeithiol mor fuan ag sy’n ymarferol bosib.

Cynigir amserlen fel a ganlyn:

  • Wales Synod Cynrychioliadol/Cyfarfod Cylchdaith Cymru – Medi 2018

Bras egwyddorion y trafodaethau a chyfle am gwestiynau a sylwadau

  • Ymgynghori yn y cylchdeithiau – Medi i Dachwedd 2018
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ionawr 2019
    Adroddiad ar yr archwiliad o’r adborth o’r cylchdeithiau
  • Y ddau Bwyllgor Polisi – Chwefror 2019
    Y ddau bwyllgor yn cytuno i’r cynigion manwl ar gyfer y Synod
  • Synodau Cynrychioliadol – Ebrill 2019
    Y Synodau i gyfarfod ar yr un diwrnod, ar amser fydd yn caniatáu i’r Cyngor dderbyn y pleidleisiau er mwyn paratoi ei argymhelliad i’r Gynhadledd
    Bydd y Synodau’n pleidleisio ar y cynnig ffurfiol
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2019
    Yn pleidleisio ar y cynnig ffurfiol, ac yn derbyn y pleidleisiau o’r Synodau
  • Y Gynhadledd Fethodistaidd – Mehefin/Gorffennaf 2019
    Yn derbyn argymhelliad y Cyngor ac yn pleidleisio arno

Aelodau’r Grŵp Llywio yw

Parch Jennie Hurd, Cadeirydd Synod Cymru
Parch Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod
Parch Rosemarie Clarke, Ysgrifennydd Wales Synod
Mr Graham Illingworth, Ysgrifennydd Cynorthwyol Wales Synod
Maryl Rees, Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi Synod Cymru
Mr Arfon Williams, Ysgrifennydd Synod Cymru
Mr Doug Swanney, Ysgrifennydd Cyfundebol

Bydd y Grwp Llywio’n parhau i gyfarfod yn ystod y cyfnod hwn i ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad ac i drafod ymhellach y gwaith a amlinellir yn y papur yng ngoleuni hynny.

Awst 2018

Ymgynghoriad gyda Chylchdeithiau (ac Ardaloedd) Synod Cymru a Wales Synod

Ymgynghoriad gyda Chylchdeithiau (ac Ardaloedd) Synod Cymru a Wales Synod

Gwahoddwyd i chi ystyried y cynigion atodedig ac ymateb i’r cwestiynau canlynol. Rhowch eich rhesymau am yr ymatebion, os gwelwch yn dda.

 

  1. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y dylai dwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd?
  2. Os ydych, a ydych chi’n cefnogi’r cynnig i enwi’r dalaith newydd yn Synod Cymru Wales?
  3. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y byddai’r dalaith newydd yn cynnwys 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod, gydag un ohonynt yn Gylchdaith Cymru gyda hunaniaeth, cenhadaeth a gweinidogaeth Cymraeg ei hiaith?
  4. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y byddai’r dalaith newydd yn cael ei harwain gan 2 Gyd-gadeirydd (un yn byw yng Ngoledd Cymru ac un yn byw yn ne Cymru), ac o leiaf un ohonynt yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg (neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg)?
  5. Darparwch unrhyw sylwadau eraill, os gwelwch yn dda.