Datganiad: Egwyddorion ar gyfer gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru

DATGANIAD GAN SYNOD CYMRU

Egwyddorion ar gyfer gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
(Mawrth 2018)
[Mae’r papur hwn yn dilyn penderfyniad cyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru ym mis Tachwedd 2017 i fynd at Wales Synod i drafod y posibilrwydd o greu un Synod newydd yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. Ymatebodd Pwyllgor Polisi Wales Synod yn eu cyfarfod ym Mis Chwefror 2018 yn gadarnhaol i’r cais. Ers hynny, mae grŵp bach yn cynnwys y ddau Gadeirydd Talaith, y ddau Ysgrifennydd Synod a’r ddau Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi wedi cyfarfod dwywaith er mwyn ystyried y mater. Yn bresennol yn yr ail gyfarfod oedd Doug Swanney, Ysgrifennydd y Cyfundeb. Mae’r grŵp bellach yn cynnig y canlynol i’w hystyried gan y ddwy Synod.]
Cynnig: i ddwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Synod Cymru a Wales Synod) weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd o dan yr enw Synod Cymru Wales, gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gydlyniad i waith Methodistiaeth yng Nghymru a’r gallu i ymateb yn fwy creadigol i gyfleoedd cenhadol yn y ddwy iaith.

O fewn i’r broses hon, bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol:

Buasai’r dalaith newydd yn cynnwys:

  • 16 cylchdaith bresennol y ddwy Synod
  • Cylchdaith Cymru gyda’i Harolygydd ei hunan (na fydd yn Gadeirydd y Synod)
  • 2 Cyd-gadeirydd wedi’i hariannu gan Gronfa’r Eglwys Fethodistaidd
  • Un ohonynt yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, neu’n ymrwymedig i ddysgu’r iaith Gymraeg
  • Un yn byw yng ngogledd Cymru ac un yn byw yn ne Cymru a’r ddau yn rhannu’n gyfartal yng nghyfrifoldebau’r cyfundeb a’r dalaith ac yn rhoi arweiniad bugeiliol i’r cylchdeithiau
  • Un Ysgrifennydd y Synod ac un Ysgrifennydd Cynorthwyol y Synod
  • Tîm Arweinyddiaeth y Synod yn cynnwys y ddau Gyd-gadeirydd ac Ysgrifenyddion y Synod, Trysorydd y Synod a swyddogion diffiniedig
  • Pwyllgor Polisi’r Synod yn cynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Synod ynghyd â chynrychiolaeth o bob un o’r 16 cylchdaith (gyda chynrychiolaeth amrywiol yn adlewyrchu bywyd y Synod)
  • Swyddfa Synod a Gweinyddydd yn ne Cymru, yn cael ei chefnogi gyda darpariaeth deunydd iaith Cymraeg gan Swyddfa Cylchdaith Cymru a’i Gweinyddydd, wedi ei lleoli yn y gogledd
  • Gwefan y Synod gyda deunydd a gwybodaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

Buasai’r Synod newydd yn cynnal y cyfarfodydd canlynol:

  • Synod Gynrychiadol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Synod y Gweinidogion (‘Presbyters’) yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • X (i’w cadarnhau) cyfarfod Tîm Arweinyddiaeth y Synod y flwyddyn (gydag un fel cyfarfod dros nos gyda’r Arolygyddion)
  • X (i’w cadarnhau) cyfarfod Pwyllgor Polisi’r Synod y flwyddyn
  • Pwyllgorau amrywiol (i adlewyrchu bywyd y Synod)

Buasai angen gwaith pellach ynglŷn â chyfarfodydd y Synod, yn arbennig ynglŷn â:

  • Pwrpas, nifer a chyfansoddiad y pwyllgorau amrywiol (a gyfeirir atynt uchod)
  • Amlder a lleoliad cyfarfodydd, gyda chyfarfodydd corfforol yn cael eu cadw at yr isafswm a’r amser a dreulir ynddynt yn cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon
  • Datblygiad polisi iaith Gymraeg a fyddai’n mynd i’r afael â materion megis yr angen i bob corff yn y Synod sy’n gwneud penderfyniadau (e.e. Synod a’r Pwyllgor Polisi) weithio a chyfathrebu yn ddwyieithog gyda chymorth cyfieithu ar y pryd; i bwyllgorau sy’n ymwneud â gweinidogaeth (e.e. Ymgeiswyr a Gweinidogion ar brawf) adlewyrchu iaith y rhai sy’n cymryd rhan; ac i bwyllgorau sy’n ymwneud â materion arbenigol (e.e. Eiddo a Diogelu) ddefnyddio yn bennaf yr iaith sy’n galluogi i’r cyfraniad arbenigol hwnnw i gael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae’r amserlen sy’n cael ei chynnig fel a ganlyn:

  1. Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2018
    Rhoi gwybod bod trafodaethau wedi cychwyn, penodi grŵp craffu a fydd, yn ei bryd, yn gwirio bod adborth y cylchdeithiau’n cael ei gynrychioli’n deg mewn adroddiadau i gyfarfodydd y Synodau.
  2. Synod Cymru – Sesiwn Gynrychiadol – Ebrill 2018
  3. Amserlen, egwyddorion cyffredinol y sgwrs, cyfle ar gyfer cwestiynau a sylwadau
  4. Y ddau Bwyllgor Polisi Mehefin/ Gorffennaf 2018
    Diweddaru ar ddatblygiad y sgwrs hyd yn hyn
  5. Wales Synod – Sesiwn Cynrychiadol – Medi 2018
    Amserlen, egwyddorion cyffredinol y sgwrs, cyfle ar gyfer cwestiynau a sylwadau
  6. Y ddau Bwyllgor Polisi – tymor yr hydref 2018
    Anelu i gael model amlinellol fan bellaf ac i gychwyn proses ymgynghori gyda’r cylchdeithiau
  7. Y Cyngor Methodistaidd – Ionawr 2019
    Adroddiad ar graffu’r adborth o’r cylchdeithiau
  8. Y ddau Bwyllgor Polisi – Chwefror 2019
    Y ddau bwyllgor yn cytuno cynigion i’r Synodau
  9. Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2019
    Bydd yn pleidleisio ar y cynigion ffurfiol; derbyn pleidleisiau’r Synod tra mae’n cyfarfod
  10. Sesiynau Cynrychiadol y Synod – Ebrill 2019
    Y Synodau’n cyfarfod ar yr un un dydd, ar amser sy’n galluogi’r Cyngor Methodistaidd i dderbyn y pleidleisiau er mwyn cyfarwyddo ei argymhelliad i’r Gynhadledd
    Bydd y Synodau’n pleidleisio ar y cynigion ffurfiol
  11. Y Gynhadledd Fethodistaidd – Mehefin/Gorffennaf 2019
    Bydd yn derbyn argymhelliad y Cyngor Methodistaidd ac yn pleidleisio arno

 

DIWEDD