Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Tudalen)

Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru.

Cynnig: i ddwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Synod Cymru a Wales Synod) weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd o dan yr enw Synod Cymru Wales gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gydlyniad i waith Methodistiaeth yng Nghymru a’r gallu i ymateb yn fwy creadigol i gyfleoedd cenhadu yn y ddwy iaith.

Cychwynnwyd y broses hon yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru ym mis Tachwedd 2017 yn dilyn ystyriaeth weddigar o ganlyniad i adolygiad Synod/Cylchdaith Cymru 2016-17. Fel pobl Methodistaidd yng Nghymru mae’n rhaid i ni rannu adnoddau a sgiliau er mwyn cryfhau ein cenhadaeth. Ar hyn o bryd mae yna ranbarthau lle does dim ond Methodistiaeth cyfrwng Cymraeg yn bodoli; rhanbarthau lle does dim ond gwaith Saesneg; rhanbarthau lle mae yna gyfran gref o orgyffwrdd a rhanbarthau lle does dim presenoldeb Methodistaidd o gwbl. Nid yw’r un o’r ddau Synod heb gronfeydd wrth gefn. Serch hynny, mae’r bwriad i gydweithio er mwyn yr efengyl, yn arbennig yn y rhanbarthau hynny sydd angen anogaeth neu fentrau newydd, yn cynrychioli stiwardiaeth dda. Yn y ddau Synod mae nifer o aelodau sydd â’u hiaith gyntaf yn wahanol i iaith broffesedig y Synod: buasai Synod sy’n gweinidogaethu yn y ddwy iaith o fudd iddynt. Yn yr un modd, canfyddwn ddysgwyr Cymraeg yn y ddau Synod ac wrth i gymuned y dysgwyr gynyddu felly y bydd y cyfleoedd i wasanaethu a gweinidogaethu i’r grŵp hwn. Mae gan dystiolaeth un Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru y potensial i ddangos cariad hollgynhwysol Duw yng Nghrist, sy’n uno, ac i gynnig neges gobaith i gymdeithas sydd weithiau’n rhanedig. I’r diben hwn cawn ein gwahodd i fynd i mewn i broses weddigar o ymgynghoriad ac ystyriaeth.

Mae’r Grŵp Llywio’n rhagweld y gallai’r dalaith newydd gynnwys:

  • 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod
  • Cylchdaith Cymru gyda’i Harolygydd ei hunan (na fyddai’n Gadeirydd y Synod) fyddai’n cadw’n llawn ei hunaniaeth, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth Gymraeg
  • 2 gyd-Gadeirydd wedi’u hariannu gan Gronfa’r Eglwys Fethodistaidd
  • O leiaf un Cadeirydd fyddai’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg
  • Un Cadeirydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac un yn byw yn Ne Cymru a’r ddau’n rhannu’n gyfartal yng nghyfrifoldebau’r cyfundeb a’r dalaith ac yn cymryd arweinyddiaeth fugeiliol yn y cylchdeithiau.
  • Un Ysgrifennydd y Synod ac un Ysgrifennydd Cynorthwyol y Synod
  • Tîm Arweinyddiaeth y Synod fyddai’n cynnwys y ddau gyd-Gadeirydd ac Ysgrifenyddion y Synod, Trysorydd y Synod a swyddogion wedi eu diffinio
  • Pwyllgor Polisi’r Synod fyddai’n cynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Synod ynghyd â chynrychiolaeth o bob un o’r 16 cylchdaith (gyda chynrychiolaeth amrywiol fyddai’n adlewyrchu bywyd y Synod)
  • Swyddfa Synod a Gweinyddydd yn Ne Cymru, yn cael ei g/chefnogi mewn darpariaeth deunydd Cymraeg gan Swyddfa Cylchdaith Cymru a’I Gweinyddydd wedi eu lleoli yn y gogledd
  • Gwefan y Synod gyda deunydd a gwybodaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

Buasai’r Synod newydd yn cynnal y cyfarfodydd canlynol:

  • Synod Cynrychioliadol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Synod y Gweinidogion (Presbyters) yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Tîm Arweinyddiaeth y Synod y flwyddyn (gydag un yn gyfarfod dros nos gyda’r Arolygyddion)
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Pwyllgor Polisi’r Synod y flwyddyn
  • Pwyllgorau amrywiol (i adlewyrchu bywyd y Synod)

Buasai angen gwaith pellach ynglŷn â chyfarfodydd y Synod, yn enwedig ynglŷn â

  • Pwrpas, nifer a chyfansoddiad y pwyllgorau amrywiol gan gymryd i ystyriaeth strwythur presennol y ddau Synod, anghenion CPD a chlywed gan Daleithiau eraill sydd wedi uno i greu strwythurau newydd yn ddiweddar
  • Amlder a lleoliad cyfarfodydd gyda rhai yn y cnawd yn cael eu cadw i’r lleiafrif a’r amser a dreulid ynddynt yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosib
  • Gan gydnabod y cyd-destun dwyieithog cynyddol, datblygu polisi iaith Gymraeg fyddai’n ymateb i faterion fel yr angen am i bob corff o’r Synod sy’n gwneud penderfyniadau (e.e. Synod a’r Pwyllgor Polisi) weithio a chyfathrebu’n ddwyieithog gyda chymorth cyfieithu ar y pryd; i bwyllgorau sy’n delio gyda gweinidogaeth (e.e. Ymgeiswyr a Gweinidogion ar Brawf) adlewyrchu iaith y rhai sy’n cymryd rhan; i bwyllgorau sy’n delio â materion arbenigol (e.e. Eiddo a Diogelu) ddefnyddio yn anad dim yr iaith sy’n galluogi i’r cyfraniad arbenigol hwnnw gael ei wneud mor effeithiol â phosib
  • Nad oedd yn rhan o’r trafodaethau cychwynnol a’r cynnig amlinellol gan nad oedd yn ystyriaeth y tu ôl i’r trafodaethau. Fodd bynnag, mae’r Grŵp Llywio’n cydnabod fod cyllid yn fater pwysig ac felly’n cynnig rhai syniadau cychwynol yn awr.

Yr egwyddor gychwynnol yw y byddai unrhyw Synod newydd yn etifeddu’r cronfeydd a ddelir    gan y ddau Synod presennol a’r Cyngor. Mae gan y ddau Synod presennol gronfeydd cyfalafol sylweddol fyddai ar gael i’r Synod newydd i gynnal ei genhadaeth a gweinidogaeth (ac mae’n bwysig y bydd y cronfeydd hyn ar gael i gynnal cenhadaeth a gweinidogaeth y Synod newydd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na’u gweld fel arian yn deillio o’r Synodau blaenorol). Mynegwyd peth gofid am gostau ychwanegol a allai godi o’r angen am ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a chyfieithu yn y Synod newydd a bydd yn bwysig sicrhau bod yr adnoddau hyn wedi eu hariannu’n iawn er mwyn eu gwneud i safon uchel. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd y gall y bydd rhai arbedion wrth uno gan y  bydd rôl y Cyngor yn dod i ben a bydd gan y Synod newydd fynediad i unrhyw gronfeydd a ddelir gan y Cyngor ar hyn o bryd (gan gynnwys y balans hanesyddol o Rwydwaith Hyfforddiant Cymru).

Yng ngoleuni hyn, i gychwyn, bwriedir i gost gweithredu’r Synod newydd fod yn niwtral yn nhermau cyllid gwariant a threthiant o gylchdeithiau gydag unrhyw gynnydd mewn costau gweithredol yn dod o’r cronfeydd cyfalafol sylweddol a chwyddedig a ddelid gan y Synod newydd. Fodd bynnag, dylid  nodi y bydd angen gweithio ar bolisi grantiau’r Synod newydd, gan weithio ar y sail bod cynnal a datblygu cenhadaeth a gweinidogaeth yn yr iaith Gymraeg yn un o brif sylfeini’r Synod newydd. Bydd hefyd yn bwysig, yng ngoleuni’r profiad o uno cylchdeithiau eraill yn ddiweddar, bod y Synod newydd yn symud tuag at system gyffredin o gyllido a dyrannu trethiant cylchdeithiol mor fuan ag sy’n ymarferol bosib.

Cynigir amserlen fel a ganlyn:

  • Wales Synod Cynrychioliadol/Cyfarfod Cylchdaith Cymru – Medi 2018

Bras egwyddorion y trafodaethau a chyfle am gwestiynau a sylwadau

  • Ymgynghori yn y cylchdeithiau – Medi i Dachwedd 2018
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ionawr 2019
    Adroddiad ar yr archwiliad o’r adborth o’r cylchdeithiau
  • Y ddau Bwyllgor Polisi – Chwefror 2019
    Y ddau bwyllgor yn cytuno i’r cynigion manwl ar gyfer y Synod
  • Synodau Cynrychioliadol – Ebrill 2019
    Y Synodau i gyfarfod ar yr un diwrnod, ar amser fydd yn caniatáu i’r Cyngor dderbyn y pleidleisiau er mwyn paratoi ei argymhelliad i’r Gynhadledd
    Bydd y Synodau’n pleidleisio ar y cynnig ffurfiol
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2019
    Yn pleidleisio ar y cynnig ffurfiol, ac yn derbyn y pleidleisiau o’r Synodau
  • Y Gynhadledd Fethodistaidd – Mehefin/Gorffennaf 2019
    Yn derbyn argymhelliad y Cyngor ac yn pleidleisio arno

Aelodau’r Grŵp Llywio yw

Parch Jennie Hurd, Cadeirydd Synod Cymru
Parch Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod
Parch Rosemarie Clarke, Ysgrifennydd Wales Synod
Mr Graham Illingworth, Ysgrifennydd Cynorthwyol Wales Synod
Maryl Rees, Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi Synod Cymru
Mr Arfon Williams, Ysgrifennydd Synod Cymru
Mr Doug Swanney, Ysgrifennydd Cyfundebol

Bydd y Grwp Llywio’n parhau i gyfarfod yn ystod y cyfnod hwn i ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad ac i drafod ymhellach y gwaith a amlinellir yn y papur yng ngoleuni hynny.

Awst 2018