Synod 2015

013

Cynhaliwyd cyfarfod Synod Cymru 2015 yng Nghapel Bathafarn, Rhuthun, ar ddydd Sadwrn 25ain Ebrill. Cafodd aelodau’r Synod groeso cynnes gan Mrs Elizabeth Jones, Arweinydd Ardal Bathafarn, a thîm o aelodau ffyddlon yr Ardal. Arweiniodd Elizabeth y defosiwn agoriadol ar thema ‘cariad’.

Yn dilyn cadarnhau ein cynrychiolwyr i’r Gynhadledd Fethodistaidd eleni a phenodi rhai ar gyfer 2016, cytunodd y Synod i barhau â phroses “Datblygu Ein Galwad”, a ddechreuodd drwy benderfyniad y Synod y llynedd. Yng ngoleuni’r gwaith da sydd wedi cychwyn o dan thema “Dysgu a Gofalu” eleni, y thema ar gyfer 2015-16 fydd “Addoli”.

Wedyn, derbyniwyd adroddiadau o feysydd amrywiol bywyd y Synod, gan gynnwys  adroddiadau ecwmenaidd, Polisi a Chyllid, yr Ymddiriedolwyr, diogelu, eiddo, Gweithredu Dros Blant a Chartrefi’r Henoed, cenhadaeth, Merched Methodistaidd ym Mhrydain a’r Gwyliedydd. Ond uchafbwynt y bore oedd cyflwyniad Megan Thomas, Llywydd Ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd eleni. Yn wreiddiol o Geri ym Mhowys, dywedodd Megan ychydig wrth y Synod amdani ei hun ac am ei chariad tuag at Dduw, yr Eglwys Fethodistaidd a gwaith ieuenctid. Dangosodd ffilm am “3Generate”, digwyddiad cyfundebol yr ieuenctid, a siaradodd am ei gobeithion a’i gweledigaeth i blant a phobl ifanc, yn arbennig i’r rhai sydd efallai ar eu pennau eu hunain yn eu capeli, fel hi ei hun yn ei dyddiau cynnar. Roedd cyflwyniad Megan yn llawn egni a hwyl, ac yn ysbrydoliaeth i bawb a oedd yn gwrando.

014

Yn y prynhawn, ar ôl cinio blasus wedi’i baratoi gan ferched Ardal Bathafarn, cynhaliwyd cyfarfod agored gyda’r Dr Daleep Mukarji, cyn-Is Lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd a chyn-Gyfarwyddwr Cymorth Cristnogol. Yn wreiddiol o India, siaradodd Dr Mukarji, gan dynnu ar ei brofiad eang o wahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol, am “Synod Cymru – Cenhadaeth a Dyfodol”. Roedd ei anerchiad yn her i ni i barchu ein gwahaniaethau, i rannu â’n gilydd ac i gymryd risgiau er mwyn ein ffydd. Unwaith eto, roedd ei sgwrs yn ysbrydoliaeth i’r rhai a oedd yn bresennol.

018

Diolch i bawb a gyfrannodd i lwyddiant y dydd. Dyddiad y synod nesaf yw 23ain Ebrill 2016, yn Aberystwyth.