Ymweliad Llywywdd ac Is-Lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd

139-web

(O’r chwith: Pch Dr Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod; Dr Jill Barber; Pch Sue Lawler, Welshpool and Bro Hafren Circuit; Pch Steve Wild)

Braint a bendith oedd croesawu’r Parchedig Steve Wild a Dr Jill Barber, Llywydd ac Is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd 2015-16, i Synod Cymru a Wales Synod rhwng dydd Iau 17 a dydd Sul 20 Mawrth 2016. Cyraeddasant yr Amwythig ar fore Iau. Ar ôl treulio amser efo aelodau’r ddwy Synod mewn cyfarfod Y Cyngor, aeth Parch Steve Wild ymlaen i Dde Cymru efo’r Parch Dr Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod.

129-web

Treuliodd Dr Jill Barber y prynhawn yn ymweld â Chwm Tanat, Powys, efo Cadeirydd Synod Cymro. Cafodd Jill groeso cynnes, te a sgwrs yng Nghapel Tabernacl, Llanfyllin, cyn mynd ymlaen i gael ei swyno gan harddwch Pennant Melangell. Gorffennwyd y prynhawn efo ymweliad â Chapel Seion, Llanrhaeadr YM, a chroeso cynnes, te a sgwrs unwaith eto gan aelodau’r capel yno. Mawr ddiolch i bawb.

132-web

Prynhawn dydd Gwener, tra roedd yr Is-lywydd yn ymweld ag Aberystwyth (lle bu ei gŵr, Peter, yn weinidog, rhyw ugain mlynedd yn ôl), ymunodd y Llywydd ag aelodau Synod Cymru i ymweld â Byd Mary Jones ger Y Bala. Cafodd y ganolfan, sy’n dweud hanes Mary Jones a’i Beibl, argraff fawr ar Steve, ac roedd o wrth ei fodd yn derbyn copi o beibl.net, y cyfieithiad newydd, gan y Synod fel rhodd. Cyd-digwyddiad yn llwyr oedd ymweliad Beibl Mary Jones ei hun â’r Bala ar yr un un pryd, felly cafodd pawb gyfle i weld y Beibl ym Manc Barclays yn y dref ddiwedd y prynhawn.

133-web

Ar ôl pryd o fwyd ym mans y Parch Sue Lawler (Synod Cymru gynt; erbyn hyn yn Arolygydd Welshpool and Bro Hafren Circuit) ar nos Wener, roedd y Parch Steve Wild a Dr Jill Barber efo’i gilydd ar fore dydd Sadwrn yn St Paul, Abergele. Thema’r cyfarfod oedd eu thema nhw eleni, sef “Treftadaeth a Chenhadaeth”. Yn yr hwyr, ymunodd y Llywydd ag aelodau Buckley and Deeside Circuit am de, cyn treulio’r nos efo’r Parch Phil a Mrs Catherine Barnett. Ar fore Sul, pregethodd y Parch Steve Wild yn Eglwys St John, Llandudno ym mhresenoldeb sawl aelod o Synod Cymru, cyn hedfan i Ynys Manaw ar gyfer yr Wythnos Fawr. Cyfrifoldeb yr Is-lywydd ar ddydd Sul oedd arwain gwasanaeth i gofio am wrthwynebwyr cydwybodol yn Englesea Brook, amgueddfa’r Eglwys Fethodistaidd yn Swydd Stafford, ble mae hi’n rheolwraig. Mae’n flwyddyn prysur iawn i’r ddau ohonyn nhw, felly dymunwn pob bendith i Steve a Jill wrth iddyn nhw deithio ymlaen yn enw’r Cyfundeb a’n Harglwydd.