Ymweliad y Casgliad Fethodistiaid o Gelfyddyd Gyfoes â Wrecsam

Nefoedd-a-Daear

Wedi cryn edrych ymlaen a pharatoi daeth diwrnod mawr yr Agoriad Cyhoeddus i’r arddangosfa Nefoedd a Daear yn Wrecsam. Mae’r arddangosfa’n cynnwys celfyddydweithiau o’r Casgliad Fethodistiaid o Gelfyddyd Gyfoes, sydd wedi ei ddisgrifio fel ‘y casgliad enwadol gorau o gelfyddyd gyfoes y tu allan i’r Fatican’ ac mae wedi ei lleoli ar ddau safle, Oriel Sycharth Prifysgol Glyndŵr a’r Eglwys Fethodistaidd yng nghanol y dref. Mae’n cynnwys dros ddeugain o weithiau cyfoes ar themâu Beiblaidd neu grefyddol, pob un wedi ei osod yn bwrpasol yn ei le fel sbardun i’r meddwl ac i drafodaeth.

Roedd Oriel Sycharth dan ei sang ar noson yr agoriad ar 19 Ionawr. Cafwyd rhaglen amrywiol gan gynnwys canu corawl ac anerchiadau gan gynrychiolwyr y partneriaid a fu’n ynghlwm wrth drefniadau’r arddangosfa ynghyd â gwesteion. Yn eu plith yr oedd Mel Gooding, beirniad celf sy’n briod â merch Ceri Richards, arlunydd Y Swper yn Emaus a welir yn holl gyhoeddusrwydd yr arddangosfa, ac er iddo gyfaddef ei fod yn anffyddiwr, llwyddodd i gyfleu naws ysbrydol y darluniau y bu’n cyfeirio atynt – bron na chawsom bregeth ganddo!

Yn ddiweddarach yn yr Eglwys, rhannodd Sarah Middleton, Ymddiriedolwraig y Casgliad, hanes gwreiddiau’r Casgliad yng Nghymru ynghyd â’r llu o gysylltiadau eraill â Chymru wrth lansio’r llyfryn dwyieithog ‘Y Casgliad Methodistaidd o Gelfyddyd Gyfoes yng Nghymru’ a chyflwynwyd copi o’r llyfryn i’r Parch Jennie Hurd ar ran Synod Cymru a Wales Synod.

Taith dywys Casgliad Celf Wrecsam 2

Wythnos yn ddiweddarach cynhaliwyd taith dywys Cymraeg o amgylch yr arddangosfa dan arweiniad Andrew Parry, Pennaeth y Gymraeg a Materion Cymreig, Prifysgol Glyndŵr. Roedd ei wybodaeth o’r gweithiau yn gynhwysfawr a hynod ddiddorol a llwyddodd i dynnu’r ymwelwyr i mewn i fyd y lluniau mewn ffordd real. Nid oedd hyn fawr o syndod gan yr oedd hefyd wedi llwyddo i wneud hyn ar daith dywys trwy gyfrwng y radio ar raglen Dewi Llwyd y bore blaenorol!

Llan Llanast gweithiau'n sychu

Ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror cynhaliwyd Llan Llanast dwyieithog yn seiliedig ar rai o’r lluniau yn yr Eglwys. Trwy’r digwyddiad hwn cyflwynwyd yr arddangosfa i gynulleidfa newydd yn cynnwys pobl o bob oed a chefndir. Arweiniwyd y prynhawn gan Luke Curran a Delyth Wyn Davies. Roedd chwe phrif weithgaredd i alluogi pob i ymateb yn greadigol i’r lluniau wedi eu gosod allan ar fyrddau ac roedd pawb yn rhydd i fynd at unrhyw fwrdd i fwynhau creu rhywbeth ac i sgwrsio ac yna symud at weithgareddau eraill. Cafwyd ystod eang o brofiadau gyda chyfleoedd i fodelu, paentio a chreu colag gan adlewyrchu arddulliau yn ogystal â thestunau’r lluniau. Dilynwyd hyn gydag amser cylch i bawb cael cyfle i rannu gyda’r gweddill beth fuont yn ei wneud ynghyd â’u teimladau. Yna cafodd pawb greu ‘person’ mewn paratoad at yr Addoliad. Yn yr Addoliad yn seiliedig ar y llun ‘Y Pum Mil’, adroddodd Luke stori’r bwydo pum mil ar ddull Chwarae yng Nghwmni Duw (Godly Play) gyda phawb yn cyfrannu eu ‘person’ fel cymeriad yn y dorf. Daeth y Llan Llanast i ben yn y ffordd arferol o gael pryd bwyd gyda’n gilydd gan barhau â thema’r Addoliad gyda bara physgod!

Cyfarfod Grawys

Daeth nifer o bobl yn cynrychioli eglwysi o wahanol enwadau ynghyd i’r cyfarfod Cymraeg yng nghyfres y Grawys ‘Camau’r Daith’. Cafwyd noson fendithiol dan arweiniad Cadeirydd y Synod Parch Jennie Hurd ar y thema dicter gan ddechrau gyda’n profiad ein hunain o’r hyn sy’n ein gwneud yn ddig cyn ystyried dicter Iesu yn hanes Glanhau’r Deml. Cawsom gyfle i  archwilio a thrafod dicter yn y lluniau yn yr eglwys cyn symud ymlaen i ganolbwyntio ar un llun, sef llun Clive Hicks-Jenkins yn portreadu hanes y wraig oedd wedi ei dal mewn godineb. Cawsom ein herio i ystyried pwy yn wir oedd yn cael ei farnu yn y darlun a ble rydym ni yn y llun.

Taith dywys Casgliad Celf Wrecsam 9

Ychwanegwyd taith dywys Cymraeg arall dan arweiniad Andrew Parry i’r arlwy ar nos Fawrth 17 Mawrth ar gais rhai oedd wedi methu dod i’r daith gyntaf. Gwerthfawrogir cyfraniad Andrew i’r digwyddiadau Cymraeg a’i arbenigedd yn y celfyddydau.

Gweithdy Geiriau Celfyddyd 1

Y digwyddiad Cymraeg olaf yn y rhaglen oedd gweithdy ‘Geiriau Celfyddyd: Celfyddyd Geiriau’ yng nghwmni Mererid Hopwood ar brynhawn Sadwrn 21 Mawrth. Cawsom bnawn difyr iawn yn yr Oriel yng nghwmni Mererid wrth iddi rannu ei brwdfrydedd dros farddoniaeth mewn ymateb i gelf a’n rhoi ni ar ben ffordd wrth ddechrau ysgrifennu. Dangosodd ddarlun ‘Tirlun gyda Chwymp Icarus’ gan Pieter Bruegel i ni ac adrodd cerdd W H Auden ‘Musée des Beaux Arts’ gyda’i ymateb iddo. Gofynnwyd i bawb ddewis llun yn yr arddangosfa sydd wedi tynnu ein sylw a bu Andrew Parry’n esbonio rhywfaint o gefndir y lluniau hynny. Rhannodd Mererid rhai awgrymiadau am ysgrifennu barddoniaeth a buom yn edrych ychydig ar acennu mewn cynghanedd. Yna gofynnwyd i ni ysgrifennu ychydig o linellau mewn ymateb i un llun. Cafwyd cyfle i ddarllen ein gwaith o flaen pawb a derbyn awgrymiadau pellach gan Mererid ar gyfer gwella’n gwaith. Diolchodd Jennie Hurd i Mererid am ei harweiniad ac am brynhawn difyr ac ysbrydoledig.

Gweithdy Geiriau Celfyddyd 3

Daw’r arddangosfa i ben ar 26 Mawrth ond y gobaith yw y bydd yr ymweliad hwn wedi symbylu eglwysi i drefnu gweithgareddau sy’n defnyddio’r celfyddydau i estyn allan i’r gymuned ac y bydd rhai’n ystyried estyn gwahoddiad i’r Casgliad gael ei arddangos o fewn  eu hardal.