Bod yn Fethodist

BOD YN Fethodist

Mae 70,000,000 o Fethodistiaid ledled y byd. Beth sy’n eu gwneud yn wahanol i enwadau eraill?

 Tarddiad Methodistiaeth

John a Charles Wesley

Meibion y persondy oedd John a Charles Wesley ac o deuluoedd Anglicanaidd yr hanai eu tad a’u mam, Samuel a Susannah Wesley. Offeiriaid oedd tad a thaid Samuel o’i flaen. Tad Susannah, Dr Annesley, oedd un o’r gweinidogion anghydffurfiol mwyaf blaenllaw yn Llundain yn ei ddydd. Cafodd Samuel a Susannah ill dau addysg dda a dysgasant bob un o’u plant i ddarllen ac ysgrifennu Saesneg, Groeg a Lladin. Roedd gan y ddau riant ddawn greadigol a byddent yn cyfansoddi barddoniaeth a cherddoriaeth. 

Ym Mhrifysgol Rhydychen y cychwynnodd John a Charles Wesley ar y siwrnai a arweiniodd at eni’r eglwys Fethodistaidd. Yno fe sefydlasant y Clwb Sanctaidd. Pobl oedd y rhain a ddymunai gyfarfod yn rheolaidd er mwyn rhannu cymdeithas, gweddïo ac astudio. Byddent yn dilyn trefn ym mhob peth. Ymwelent â’r tlodion a’r cleifion a byddent yn cymuno’n rheolaidd ac ymprydio ddwywaith yr wythnos. 

Ordeiniwyd y ddau frawd maes o law a chawsant eu gwahodd i fynd i Georgia i weinidogaethu yn Savannah ac i’r ‘brodorion’. Ni fu’r daith yn llwyddiant a dychwelyd i Lundain fu eu hanes. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cafodd Charles, a John yntau, brofiad ysbrydol gan deimlo, am y tro cyntaf, sicrwydd fod Duw yn ei garu a’i fod yn gadwedig. Ar ôl treulio peth amser gyda’r eglwys Forafaidd, dechreusant eu cymdeithasau eu hunain. Nid oeddent yn dderbyniol yng ngolwg yr Eglwys Anglicanaidd ac felly aeth John a Charles ac aelodau eu cymdeithasau newydd ati i bregethu yn yr awyr agored ac yn eu hadeiladau eu hunain, gan ennill miloedd o ddychweledigion trwy eu brwdfrydedd a’u hemynau a’u her i fyw’n wahanol. Ysgrifennodd un gwrandäwr, rheithor Anglicanaidd, at John Wesley gan ddweud: “Mae eich meddylfryd mor anghyffredin nes bod eich presenoldeb yn peri parchedig ofn, fel petaech yn perthyn i fyd arall.”  [Whitelamb, rheithor Wroote]

Daeth yr eglwys Fethodistaidd i fod yn sgil yr angen i gael trefn ar y cymdeithasau newydd a’u ffurfioli. Adeiladwyd capeli. Sefydlwyd trefn ar gyfer aelodaeth, gyda thocynnau a gâi eu hadnewyddu bob tri mis (os oeddech yn parhau i fod yn deilwng). Sefydlwyd Seiadau er mwyn galluogi grwpiau bach i gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweddi, astudiaeth a chymdeithas. Er mwyn cyfundrefnu’r eglwys, sefydlwyd Cynhadledd, gyda John Wesley yn gadeirydd arni, a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd.

Sut a phryd y daeth Methodistiaeth i Gymru

Roedd Anghydffurfwyr fel yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr eisoes wedi ymsefydlu yng Nghymru ganrif cyn i John Wesley yntau ddod â Methodistiaeth i’r wlad yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n wir ei fod ef wedi ymweld â Chymru, neu deithio trwyddi, 35 o weithiau, ac fe fu i Charles Wesley briodi gwraig o Bowys, ond yr un a fu’n bennaf gyfrifol am hyrwyddo Methodistiaeth yng Nghymru oedd Hywel Harris. Ar wahoddiad Hywel Harris yn wir y daeth Wesley i bregethu yng Nghymru gyntaf oll. Serch hynny, roedd y ddau yn anghytuno ar un pwynt diwinyddol sylfaenol: roedd Hywel Harris yn coleddu athrawiaeth rhagordeiniad y Calfiniaid, a fynnai mai dros yr etholedig rai yn unig y bu Crist farw, tra roedd Wesley’n gryf o blaid yr athrawiaeth Arminaidd a ddysgai yn hytrach fod iachawdwriaeth yn agored i bawb. Yn y pen draw, pellhau oddi wrth ei gilydd a wnaeth Harris a Wesley. Gan nad oedd Wesley’n gallu siarad Cymraeg, gadawodd Gymru i Hywel Harris a Methodistiaeth Galfinaidd. Er hynny fe gafodd Wesley beth llwyddiant ymhlith y Cymry di-Gymraeg. Ond erbyn adeg marwolaeth Wesley, Calfinaidd oedd Methodistiaeth Cymru i bob pwrpas. Yn 1800 trodd y Gynhadledd Wesleaidd ei sylw at y sefyllfa a phenderfynu anfon cenhadon Wesleaidd Cymraeg eu hiaith i Gymru. Capel Pendref, Dinbych, a godwyd yn 1801, yw canlyniad cyntaf y fenter efengyleiddiol hon.

Er bod Methodistiaeth Wesleaidd bob amser wedi bod yn llai poblogaidd yng Nghymru na Methodistiaeth Galfinaidd (sef y Presbyteriaid), pan ddaeth llawer o bobl Saesneg eu hiaith o rannau eraill o’r DU i Gymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe hyrwyddodd hynny ledaeniad Wesleaeth yng Nghymru.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain yn gweithio trwy gyfrwng dau synod yng Nghymru. Un yw Wales Synod, sydd yn gweithio yn Saesneg yn bennaf, ac mae ynddo 175 o gapeli, mewn 15 cylchdaith a chydag ychydig llai na 6,000 o aelodau. Y llall yw Synod Cymru, sydd yn gweithio yn Gymraeg yn bennaf, gyda 61 capel, i gyd yn perthyn i un gylchdaith, ac ychydig llai na 1,000 o aelodau. Mae trafodaethau ar hyn o bryd yn cael eu cynnal ynglŷn â sut y mae’r ddau synod am gydweithio yng Nghymru at y dyfodol.

Tri ar ddeg o bethau neilltuol ynglŷn â Methodistiaeth

  1. Gall pawb gael ei achub

Yn draddodiadol, dyma sut y crynhoir dysgeidiaeth yr Eglwys Fethodistaidd.

pastedGraphic.png

Nid oes neb yn ddibechod. Nid oes neb y tu hwnt i gyrraedd cariad Duw a bydd unrhyw un sy’n troi at Dduw yn cael ei achub ac yn gallu cael profiad personol o Dduw.

 

  1. Sicrwydd o gariad Duw ac o iachawdwriaeth

Yn dilyn ei brofiad yn Aldersgate Street, lle teimlodd ei galon wedi’i chynhesu’n rhyfeddol gyda’r sicrwydd fod Duw wedi dileu ei bechodau, roedd John Wesley’n sicr fod y fath ymdeimlad o sicrwydd ar gael i bawb. Nid mai’r ymdeimlad oedd yn eich achub, ond y gallech wybod eich bod wedi eich achub – nid dim ond mewn egwyddor.

  1. Byw bywyd sanctaidd

Roedd dysgeidiaeth John Wesley yn cynnwys ‘perffeithrwydd Cristnogol’. Roedd yn credu y gall Cristion aeddfed gyrraedd cyflwr lle mai cariad Duw sydd yn tra-arglwyddiaethu yn y galon. Ac y dylem weithio’n ddi-baid i ymgyrraedd at y cyflwr hwnnw drwy astudiaeth Feiblaidd, gweddi, cymdeithas a gwasanaeth i gyd-ddyn.

Dyna pam y mae Methodistiaid yn treulio amser yn astudio a gweddïo, a pham y maent yn trochi llewys i helpu’r digartref, y di-waith a phobl ddifreintiedig ym Mhrydain a thramor.

  1. Pwysigrwydd lleygwyr 

Aelodau lleol sydd â chyfrifoldeb am gynnal a chadw adeiladu, gofalu am aelodau, pregethu’r efengyl ac yn y blaen. Mae pob Cristion yn ‘weinidog’ oherwydd fod i bawb berthynas bersonol â Duw ac y gall pawb siarad yn uniongyrchol ag Ef a derbyn doethineb ac arweiniad ganddo. Mae aelodau lleol hefyd yn chwarae rhan yn y penderfyniadau a wna’r eglwys gyfan, drwy gyfrwng cyfarfodydd lleol mewn capel ac Ardal a chynrychiolaeth i’r Synod a’r Gynhadledd.

  1. Grwpiau bach  

Yn wreiddiol byddai seiadau’n cyfarfod yn wythnosol er mwyn cadw pobl yn atebol am eu taith yn y ffydd. Rhaid fyddai iddynt ddweud wrth ei gilydd am yr hyn roedd Duw wedi’i wneud yn eu bywydau ers eu cyfarfod diwethaf. Gallai’r aelodau eraill wneud sylwadau a rhoi anogaeth iddynt, neu ddweud y drefn wrthynt! Mae Methodistiaid yn dal i gael eu hannog i gyfarfod ar gyfer gweddi ac astudiaeth Feiblaidd mewn grwpiau bach, lle gallant ddysgu gan ei gilydd ac annog ei gilydd i dyfu yn y ffydd.

  1. Darllen y Beibl 

Anogir pobl i ddarllen y Beibl, yn unigol a chydag eraill, fel modd i ddod i wybod mwy am Dduw a chael eu hysbrydoli a’u harwain. Mae Duw yn ei ddatguddio ei hun drwy ei Air, i bwy bynnag sydd yn ei ddarllen.

  1. Y Pedrochr Methodistaidd 

Er mai’r Beibl yw prif gyfrwng datguddiad stori Duw a’i ewyllys Ef, roedd y Methodistiaid cynnar yn cael eu hannog i geisio goleuni a doethineb mewn pedair ffordd, pan fyddai galw arnynt i farnu unrhyw syniad newydd: 

Yr Ysgrythur: gair ysbrydoledig Duw a phrif ffynhonnell ein dealltwriaeth.

Traddodiad: beth mae Duw wedi ei wneud a’i ddweud yn yr Eglwys yn y gorffennol, yn arbennig yn yr eglwysi y mae eu hanes yn mynd yn ôl ymhell.

Rheswm: defnyddio’r deall a roddwyd i ni gan Dduw er mwyn profi rhesymoledd unrhyw syniad.

Profiad: holi a oes tystiolaeth o’r syniad newydd ym mywydau Cristnogion. 

  1. Gwasanaeth Adnewyddu’r Cyfamod 

Mae eglwysi Methodistaidd yn cynnal gwasanaeth blynyddol i Adnewyddu’r Cyfamod, lle mae’r aelodau yn cofio beth mae Duw wedi’i wneud yn eu bywydau yn ystod y flwyddyn ac yn adnewyddu eu hymrwymiad iddo Ef ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Dyma eiriau gweddi’r Cyfamod:

 

“Nid wyf mwyach yn eiddo i mi fy hun, ond i ti. Dyro imi’r dasg a fynni. Gosod fi mewn gwasanaeth drosot neu tro fi heibio er dy fwyn. Gwna fi’n gyfoethog, gwna fi’n dlawd. Dyro imi bopeth, gad fi heb ddim. Yn ddiatal ac o’r galon yr wyf yn ildio popeth oll i’th ewyllys a’th orchymyn di. Yr wyt yn eiddof fi a minnau’n eiddot ti.”

  1. Ganed ar gân

Ysgrifennodd Charles Wesley tua 6,000 o emynau ac mae llawer ohonynt yn parhau i gael eu canu drwy’r byd, mewn llawer o ieithoedd, yn ein dyddiau ni. Sylweddolid o’r cychwyn cyntaf fod canu’n ffordd bwerus o ledaenu’r efengyl, egluro’r ffydd a chysylltu pobl â’i gilydd. Roedd gan John Wesley farn gref am y modd y dylai pobl ganu. Dyma’r cyfarwyddyd a ysgrifennodd ar gyfer y llyfr emynau ffurfiol cyntaf:

…Canwch yr union eiriau sydd wedi eu hargraffu yma, heb eu newid na’u diwygio o gwbl; 

Pawb i ganu. Gofalwch eich bod yn ymuno â’r gynulleidfa mor aml ag y gallwch.

Peidiwch â gadael i unrhyw wendid neu flinder eich rhwystro.

Canwch yn nerthol a chalonnog. Gochelwch rhag canu fel petaech yn hanner marw, neu ynghwsg; ond codwch eich llais yn nerthol.

Amserwch yn gywir. Beth bynnag yw’r amseriad, gofalwch eich bod yn cadw ato. 

Yn anad dim, canwch mewn modd ysbrydol. Boed eich meddwl ar Dduw gyda phob gair y byddwch yn ei ganu. 

Hyd heddiw, mae’n brofiad gwefreiddiol bod yn rhan o gynulleidfa Fethodistaidd sydd yn canu gyda brwdfrydedd.

 

  1. Cyfundeb

Fel Methodistiaid byddwn yn perthyn i gynulleidfa leol sydd yn rhan o fudiad ehangach, yn genedlaethol a rhyngwladol. Dywedodd Wesley, “Peidiwch byth ag ystyried ymwahanu oddi wrth eich brodyr a’ch chwiorydd, boed eu barn hwy yn unol â’ch barn chi neu beidio.”

  1. Bod yn deithiol 

Dechreuodd y drefn deithiol yn y lle cyntaf am fod angen i’r cymdeithasau Methodistaidd newydd gael pregethwyr da. Byddai Mr Wesley yn symud ei bregethwyr o fan i fan mewn gwahanol gylchdeithiau yn flynyddol i ddechrau. Un rheswm am hyn oedd er mwyn gofalu na fyddent yn mynd yn farwaidd; hefyd roedd dymuniad i gynnal y cysylltiadau rhwng y cylchdeithiau a’r mudiad (y Cyfundeb) yn genedlaethol. Dros y blynyddoedd fe gynyddodd hyd yr arhosiad o un flwyddyn i bump, deg neu ragor.

  1. Cymdeithas

Roedd John a Charles Wesley yn credu ym mhwysigrwydd gweithredoedd yn ogystal â ffydd yn y bywyd Cristnogol. Ystyrid bod gwneud daioni yn rhan o daith ffydd. Roedd dau fath o waith i’w wneud: darllen y Beibl a mynychu’r eglwys, a gweithio er mwyn dilyn esiampl a gorchmynion Iesu Grist i iacháu’r cleifion a gofalu am y gwan. Yn y dyddiau cynnar byddai Methodistiaid yn gofalu am yr anghenus drwy helpu’r tlodion a charcharorion. Mae Methodistiaid hefyd wedi chwarae eu rhan mewn ymgyrchoedd i wella bywydau pobl dlawd a difreintiedig trwy hyrwyddo dirwest a brwydro yn erbyn caethwasiaeth a hiliaeth. Mae’r pwyslais hwn yn dal i’w weld heddiw.

Er nad union ddyfyniad, efallai, o eiriau John Wesley yw: “Gwnewch hynny o ddaioni y gallwch chi. Trwy bob modd y gallwch chi. Ym mhob ffordd y gallwch chi. Ym mhob lle y gallwch chi. Ar bob adeg y gallwch chi. I’r holl bobl y gallwch chi. Cyhyd ag y gallwch chi.” Ond dyna yn sicr fyddai ei fwriad. Mae Ail Reol Gyffredinol y Cymdeithasau Unedig, 1739, yn darllen: Trwy wneud daioni; trwy fod ym mhob ffordd yn drugarog yn ôl eu gallu; fel y bo iddynt gyfle, gwneud daioni o bob math posibl, a hyd y mae hynny’n bosibl, i bawb. 

 Ac fe heriodd John Wesley bobl i holi: “Nid, faint o’m harian i a roddaf i Dduw, ond faint o arian Duw y byddaf yn ei gadw i mi fy hun?”

  1. Efengylu

Dywedodd John Wesley, “Rwy’n ystyried mai’r byd i gyd yw fy mhlwyf; sef yw hynny, ym mha ran bynnag o’r byd y byddaf, barnaf ei bod yn addas, yn gyfiawn a’m rhwymedig ddyled i ddatgan wrth bawb sydd yn fodlon gwrando, y newyddion da am iachawdwriaeth.” (Dyddlyfr, Mehefin 11 1739) ac “Un gorchwyl sydd gennych ar y ddaear, sef achub eneidiau.” Yr un neges a gawn ni heddiw gan Gyngor Methodistaidd y Byd. “Credwn mai Comisiwn yr Arglwydd Iesu Grist i’w eglwys, i bregethu’r Efengyl a gwneud Disgyblion, yw prif orchwyl yr Eglwys.”

 

John Wesley yn pregethu i eglwys lawn.

Beth mae hyn oll yn ei olygu i ni heddiw? 

Mae’r bobl a elwir yn Fethodistiaid yn olrhain eu hanes yn ôl at griw o Gristnogion brwdfrydig a ysbrydolwyd gan yr Ysbryd Glân i fynd allan at eu cydwladwyr a phregethu’r newyddion da, gan weddnewid bywydau ac ar ôl hynny feithrin y dychweledigion. Safwn ninnau yn eu cysgod ac i ni y mae’r dasg o wneud yr un peth yn ein hoes ninnau wedi’i hymddiried.

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwilio ein calonnau er mwyn canfod yr un ymdeimlad o frwdfrydedd, ymroddiad a ffydd os ydym am gadw’n fyw waith yr eneidiau mawr hynny a aeth o’n blaenau.Bod