Datblygu Ein Galwad

Ein Galwad
Ein Galwad

Ers 2000, mae’r Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain wedi disgrifio ein galwad o dan pedwar thema, sef gwasanaeth, dysgu a gofalu, efengylu ac addoliad: cynllun “Ein Galwad”. Mae’r pedwar thema yn ymddangos ar bob tocyn aelodaeth, ac maen nhw tu ôl i bob polisi a gweithgaredd yr eglwys.

Yn Synod Cymru, rydyn ni wedi trafod ein galwad unwaith eto yn ddiwethaf yn y Pwyllgor Polisi a Chyfarfod y Gylchdaith, ymhlith llefydd eraill. Mae’n dda trafod, ond mae’n rhaid gweithredu hefyd. Gyda chefnogaeth y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Polisi, mae’r Synod wedi mabwysiadu proses i ni ddilyn wrth i ni edrych tuag at ddatblygu ein galwad.

Mae gan “Ein Galwad” bedwar thema. Dros y bedair mlynedd nesaf o fis Medi 2014 ymlaen, mae’r Synod wedi penderfynu dewis un o’r themáu, ar gyfer pob blwyddyn eglwysig, i ganolbwyntio arno ym mywydau ein capeli a’n hardaloedd, i roi fframwaith i’n helpu datblygu ein galwad. Bydd y thema yn cael ei dewis ym mhob Synod yn ystod y flwyddyn cynt. Wedyn, yn ystod y misoedd cyn y mis Medi canlynol, bydd y capeli a’r ardaloedd yn cael eu gwadd i’w drafod er mwyn ystyried dewis gweithgaredd(au) perthnasol i ddatblygu yn eu bywydau fel cymunedau Cristnogol yn ystod y deuddeg mis sy’n dilyn. Bydd o’n hollol bosib i’w wneud yn ecwmenaidd, dros ffiniau enwad neu iaith, fel grŵp o gapeli neu ardal, neu mewn unrhyw modd sy’n addas i’r cyd-destun. Does dim rhaid i’r gweithgareddau bod yn gymhleth – yn aml, mae rhywbeth syml yn gweithio’n well. Does dim rhaid, hyd yn oed, i unrhyw gapel neu ardal gymryd rhan: mae hyn i fyny iddyn nhw. Hyblygrwydd yw’r gair allweddol – mae capeli ac ardaloedd yn rhydd i ddewis gwneud beth bynnag sy’n addas i’w cyd-destun nhw. Yn dilyn digwyddiad i’w lansio, gyda chyfle i ddod at ein gilydd i chwilio am weithgareddau posib, mae Delyth Wyn Davies, ein Swyddog Dysgu a Datblygu, a’r Parchedig Jennie Hurd, fel Cadeirydd, ar gael i helpu ac i gefnogi.

Ar ddechrau’r flwyddyn eglwysig newydd ym mis Medi, dyn ni’n dod at ein gilydd (e.e yng Nghyfarfod y Gylchdaith). Bydd hynny yn gyfle i ni ddweud wrth ein gilydd, fel ardaloedd, beth sy wedi cael ei ddewis fel gweithgaredd(au) ar gyfer y ddeuddeg mis sy’n dilyn. Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfleoedd yn codi mewn cyfarfodydd o’r Synod a’r Gylchdaith i rannu storïau am sut mae pethau’n mynd ac i ysbrydoli ein gilydd. Wedyn, tuag at ddiwedd y flwyddyn, bydd y broses yn ailddechrau efo thema newydd. Na fydd rhaid rhoi’r gorau i unrhyw weithgaredd sy’n digwydd eisoes – os mae’r gweithgaredd o’r flwyddyn gynt yn gweithio, mae’n bosib i weithgaredd newydd o dan y thema newydd weithio ochr yn ochr ag o.

Tuag at ddiwedd y cyfnod o bedair blynedd, bydd o’n bosib adolygu’r holl broses ac i feddwl am beth i wneud nesaf er mwyn symud ymlaen at barhau i ddatblygu ein galwad yn y dyfodol.

Ar gyfer y flwyddyn 2014-2015, dewisodd y Synod thema Dysgu a Gofalu, er mwyn i ni ganolbwyntio ar dyfu yn ein ffydd a pharatoi ar gyfer ymarfer y themáu eraill. Ar gyfer y flwyddyn 2015-2016, mae’r Synod wedi dewis thema Addoli, ac ar gyfer 2016-17, Gwasanaethu yw’r thema. Mae’r gwahoddiad yn cael ei estyn i bob capel ac Ardal wrth i ni geisio datblygu ein galwad ac edrych tuag at y dyfodol.