Thema Bywyd Ysbrydol 2018-19

Thema Bywyd Ysbrydol 2018-19

cropped-Anglesey-Cross-2.png

Dros y pedair blynedd ddiwethaf bu eglwysi ac ardaloedd Synod Cymru yn dilyn rhaglen Datblygu ein Galwad gan ganolbwyntio ar un o’r pedwar prif thema yn eu tro. Yn dilyn adolygiad o’r rhaglen hon yn ystod cyfarfod Synod Cymru yn Ebrill daethpwyd i’r casgliad mai da oedd dilyn rhaglen o’r fath a phenderfynwyd cynnal rhaglen newydd yn cychwyn ym Medi 2018 gan ganolbwyntio ar y chwe phrif thema a gododd yn yr adolygiad ar fywyd a gwaith Synod a Chylchdaith Cymru gan ddechrau gyda’r thema Bywyd Ysbrydol.

 

Yng nghyfarfod y Synod cafwyd adroddiad gan grŵp a fu’n edrych i mewn i’r thema hwn gydag argymhellion am sut i ddatblygu bywyd y Synod/Cylchdaith o dan y thema Bywyd Ysbrydol. Ceir isod rhestr o awgrymiadau a syniadau am adnoddau defnyddiol i helpu eglwysi a grwpiau i ddatblygu eu bywyd ysbrydol o dan chwe blaenoriaeth:

 

  • Beth yw bywyd ysbrydol?

Anogir eglwysi ac ardaloedd i ystyried a thrafod beth yw bywyd ysbrydol ac i bobl fyfyrio a gweddïo am eu profiad o Dduw. Ystyriwch bwysigrwydd diolchgarwch a rhyfeddod bywyd pob dydd a bod Duw yno 24/7. Meddyliwch am y syniad o ddisgwyl am Dduw a’r Ysbryd Glân yn ein profiad o ddydd i ddydd. Anogir myfyrdod/gweddi bersonol ar ddechrau a diwedd y dydd.

 

Adnoddau:

Ar gyfer myfyrdod dyddiol personol A Word in Timewww.methodist.org.uk/our-faith/the-bible/a-word-in-time

The Methodist Prayer Handbook http://www.methodist.org.uk/our-faith/prayer/methodist-prayer-handbook

Gair y Dydd, gol. Pryderi Llwyd Jones, adnodd defosiwn dyddiol Cymraeg, Gwasg y Bwthyn

Blwyddyn gyda Iesu, Selwyn Hughes, addas. Meirion Morris

Agor Y Gair Gyda Mari, 26 darlleniad a myfyrdod yn seiliedig ar daith Mari Jones a rhai awgrymiadau i’ch helpu i wneud cysylltiad rhwng geiriau’r Beibl a’ch bywyd chi heddiw, Christine Daniel, Cymdeithas y Beibl

Adnoddau cyffredinol www.methodist.org.uk/our-faith  – llawer o wybodaeth ac adnoddau o dan y penawdau Life and faith, prayer, the Bible, worship, reflecting on faith

 

  • Pwysigrwydd darllen y Beibl a gweddïo gyda’n gilydd

Grŵp astudiaeth Feiblaidd rheolaidd

Cyfarfod gweddi reolaidd

Cynnal astudiaeth yn lle un oedfa’r mis

Grwpiau tai

Cynnal digwyddiadau gweddi megis gweddi 24-7, gorsafoedd gweddi, labrinth a theithiau cerdded gweddi

 

Adnoddau:

Cwrs Y Ffordd, Undeb yr Annibynwyr www.annibynwyr.org/y-ffordd-3

Cwrs Grawys Exploring spiritual practices gydag adnoddau i’w lawrlwytho o wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodist.org.uk/our-faith/worship/lent-and-easter/exploring-spiritual-practices

50 days to let your life speak – sesiynau yn arwain at y Pasg i’w lawrlwytho http://www.methodist.org.uk/our-faith/worship/lent-and-easter/lent-and-easter-resources/50-days-to-let-your-life-speak

Great 50 day following Jesus llyfryn defosiwn dyddiol/adnodd grŵp bach ar gyfer Pasg, Esgyniad a Phentecost

 

  • Ffordd o fyw/Disgyblaeth Gristnogol

Deled dy deyrnas / Thy Kingdom come www.methodist.org.uk/our-faith/prayer/thy-kingdom-come  mudiad gweddi gyda phwyslais ar weddi rhwng yr Esgyniad a Phentecost Deunydd gweddi ar gyfer teuluoedd a’r llyfryn Naw Diwrnod o Weddi Disgwyl mewn Rhyfeddod.

Dilyn cwrs Holy Habits, Andrew Roberts, yn seiliedig ar y deg arfer a welwyd yn yr Eglwys Fore (Actau 2.42-47)

Meithrin Arweinyddion newydd o fewn yr eglwys

Cynnal pererindod /encil

 

Adnoddau:

Llyfrynnau Holy Habits, cyhoeddwyr BRF

Clonc a sgwrs (Table Talk yn Gymraeg) – gêm sgwrsio sy’n creu cyfleoedd i archwilio rhai o gwestiynau mawr bywyd

Emaus: Ffordd y Ffydd – Tyfu fel Cristion – cynllun hyfforddi cydenwadol i groesawu pobl i’r ffydd Gristnogol

 

  • Teimlad o berthyn

Adfer/dechrau’r syniad o ‘class’ a datblygu arweinwyr ‘class’, cynullydd bugeiliol. Y manteision fyddai disgyblaeth Gristnogol, ymdeimlad o berthyn, gofal bugeiliol, parhad traddodiad Methodistaidd.

Cymdeithas neu Gymdeithas Lenyddol

Creu cyfleoedd i gymdeithasu, e.e. paned wythnosol, clwb gwau (neu ddiddordeb arall) cinio cymunedol, clwb darllen, dathliadau arbennig, te parti, trip, taith gerdded, picnic, barbeciw, pryd bwyd, cyngerdd, twmpath, stondinau, ac arwerthiant.

 

Adnoddau:

Wrth fy enw

Y Gwyliedydd

The Methodist Prayer Handbook

‘Encircled with care’ – cynllun yr Eglwys Fethodistaidd ar gyfer Ymwelwyr Bugeiliol

 

  • Creu brwdfrydedd/oedfaon na ellir eu colli

Disgwyl yr Ysbryd Glân. Llawenhau. Ymdeimlad o Dduw.

Defnyddio’r Llithiadur i sicrhau sylw a phwyslais ar y gwyliau Cristnogol.

Trwytho oedfa mewn gweddi:

Annog aelodau’r gynulleidfa i weddïo cyn dod i oedfa

Argymell gweddi gan stiward/blaenor cyn yr oedfa

Annog pregethwyr, arweinyddion addoli i weddïo ar ddechrau oedfa gan fynegi disgwyliad o bresenoldeb Duw – galwad i addoli, gweddi agoriadol neu ddefnyddio tawelwch

 

Adnoddau:

ROOTS Cynllun dysgu ac addoli ar gyfer pob oed gyda ffocws bob wythnos ar un o ddarlleniadau’r llithiadur yn cynnwys paratoi at bregethu, gwasanaeth pob oed, ysgol Sul ac astudiaeth Feiblaidd. Ceir amrywiaeth o weddïau Cymraeg ar gyfer adegau gwahanol mewn addoliad a thaflen i blant yn Gymraeg.

Ei Orsedd Rasol Ef, casgliad o weddïau gan y Pregethwr Lleol John Birch, addas. Dewi Myrddin Hughes, Cyhoeddiadau’r Gair

Syniadau i eglwysi ar wefan www.beibl.net

 

  • Y gymuned / anghenion lleol

Gweld ein hunain fel rhan o’r gymuned ehangach a phwysigrwydd y ffordd byddwn yn ymddwyn. Bod yn ymwybodol o bethau o’n cwmpas, bod yn effro i angen pobl o’n cwmpas.

Cymryd y cyfle i adeiladu perthynas efo pobl y down ar eu traws bob dydd.

‘Ni ydi’r Beibl y mae pobl y tu allan i’r eglwys yn ei ddarllen’.

Cefnogi Banc Bwyd

Agor y Llyfr

Bugeiliaid y stryd

Mynd i gartrefi gofal – cynnig y cyfle i addoli i rai tu allan i’r eglwys

Gweithgaredd mewn caffi neu dafarn

Cefnogi achosion da lleol

 

Adnoddau:

Gellir prynu llyfrynau pwrpasol ar gyfer ymweliadau bugeiliol ar achlysuron arbennig gan Gyhoeddiadau’r Gair:

Gair o Gysur mewn Gofid a Galar

Gair o Gysur mewn Gofid a Gwaeledd

Wele, cawsom y Meseia – Nadolig

Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw – Pasg

O llawenhawn! Daeth Crist i’n plith – cyfres o adnoddau cenhadol ar gyfer y Nadolig

 

Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Tudalen)

Gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru.

Cynnig: i ddwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Synod Cymru a Wales Synod) weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd o dan yr enw Synod Cymru Wales gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gydlyniad i waith Methodistiaeth yng Nghymru a’r gallu i ymateb yn fwy creadigol i gyfleoedd cenhadu yn y ddwy iaith.

Cychwynnwyd y broses hon yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru ym mis Tachwedd 2017 yn dilyn ystyriaeth weddigar o ganlyniad i adolygiad Synod/Cylchdaith Cymru 2016-17. Fel pobl Methodistaidd yng Nghymru mae’n rhaid i ni rannu adnoddau a sgiliau er mwyn cryfhau ein cenhadaeth. Ar hyn o bryd mae yna ranbarthau lle does dim ond Methodistiaeth cyfrwng Cymraeg yn bodoli; rhanbarthau lle does dim ond gwaith Saesneg; rhanbarthau lle mae yna gyfran gref o orgyffwrdd a rhanbarthau lle does dim presenoldeb Methodistaidd o gwbl. Nid yw’r un o’r ddau Synod heb gronfeydd wrth gefn. Serch hynny, mae’r bwriad i gydweithio er mwyn yr efengyl, yn arbennig yn y rhanbarthau hynny sydd angen anogaeth neu fentrau newydd, yn cynrychioli stiwardiaeth dda. Yn y ddau Synod mae nifer o aelodau sydd â’u hiaith gyntaf yn wahanol i iaith broffesedig y Synod: buasai Synod sy’n gweinidogaethu yn y ddwy iaith o fudd iddynt. Yn yr un modd, canfyddwn ddysgwyr Cymraeg yn y ddau Synod ac wrth i gymuned y dysgwyr gynyddu felly y bydd y cyfleoedd i wasanaethu a gweinidogaethu i’r grŵp hwn. Mae gan dystiolaeth un Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru y potensial i ddangos cariad hollgynhwysol Duw yng Nghrist, sy’n uno, ac i gynnig neges gobaith i gymdeithas sydd weithiau’n rhanedig. I’r diben hwn cawn ein gwahodd i fynd i mewn i broses weddigar o ymgynghoriad ac ystyriaeth.

Mae’r Grŵp Llywio’n rhagweld y gallai’r dalaith newydd gynnwys:

  • 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod
  • Cylchdaith Cymru gyda’i Harolygydd ei hunan (na fyddai’n Gadeirydd y Synod) fyddai’n cadw’n llawn ei hunaniaeth, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth Gymraeg
  • 2 gyd-Gadeirydd wedi’u hariannu gan Gronfa’r Eglwys Fethodistaidd
  • O leiaf un Cadeirydd fyddai’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg
  • Un Cadeirydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac un yn byw yn Ne Cymru a’r ddau’n rhannu’n gyfartal yng nghyfrifoldebau’r cyfundeb a’r dalaith ac yn cymryd arweinyddiaeth fugeiliol yn y cylchdeithiau.
  • Un Ysgrifennydd y Synod ac un Ysgrifennydd Cynorthwyol y Synod
  • Tîm Arweinyddiaeth y Synod fyddai’n cynnwys y ddau gyd-Gadeirydd ac Ysgrifenyddion y Synod, Trysorydd y Synod a swyddogion wedi eu diffinio
  • Pwyllgor Polisi’r Synod fyddai’n cynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Synod ynghyd â chynrychiolaeth o bob un o’r 16 cylchdaith (gyda chynrychiolaeth amrywiol fyddai’n adlewyrchu bywyd y Synod)
  • Swyddfa Synod a Gweinyddydd yn Ne Cymru, yn cael ei g/chefnogi mewn darpariaeth deunydd Cymraeg gan Swyddfa Cylchdaith Cymru a’I Gweinyddydd wedi eu lleoli yn y gogledd
  • Gwefan y Synod gyda deunydd a gwybodaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

Buasai’r Synod newydd yn cynnal y cyfarfodydd canlynol:

  • Synod Cynrychioliadol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Synod y Gweinidogion (Presbyters) yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Tîm Arweinyddiaeth y Synod y flwyddyn (gydag un yn gyfarfod dros nos gyda’r Arolygyddion)
  • X(i’w cadarnhau) cyfarfod Pwyllgor Polisi’r Synod y flwyddyn
  • Pwyllgorau amrywiol (i adlewyrchu bywyd y Synod)

Buasai angen gwaith pellach ynglŷn â chyfarfodydd y Synod, yn enwedig ynglŷn â

  • Pwrpas, nifer a chyfansoddiad y pwyllgorau amrywiol gan gymryd i ystyriaeth strwythur presennol y ddau Synod, anghenion CPD a chlywed gan Daleithiau eraill sydd wedi uno i greu strwythurau newydd yn ddiweddar
  • Amlder a lleoliad cyfarfodydd gyda rhai yn y cnawd yn cael eu cadw i’r lleiafrif a’r amser a dreulid ynddynt yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosib
  • Gan gydnabod y cyd-destun dwyieithog cynyddol, datblygu polisi iaith Gymraeg fyddai’n ymateb i faterion fel yr angen am i bob corff o’r Synod sy’n gwneud penderfyniadau (e.e. Synod a’r Pwyllgor Polisi) weithio a chyfathrebu’n ddwyieithog gyda chymorth cyfieithu ar y pryd; i bwyllgorau sy’n delio gyda gweinidogaeth (e.e. Ymgeiswyr a Gweinidogion ar Brawf) adlewyrchu iaith y rhai sy’n cymryd rhan; i bwyllgorau sy’n delio â materion arbenigol (e.e. Eiddo a Diogelu) ddefnyddio yn anad dim yr iaith sy’n galluogi i’r cyfraniad arbenigol hwnnw gael ei wneud mor effeithiol â phosib
  • Nad oedd yn rhan o’r trafodaethau cychwynnol a’r cynnig amlinellol gan nad oedd yn ystyriaeth y tu ôl i’r trafodaethau. Fodd bynnag, mae’r Grŵp Llywio’n cydnabod fod cyllid yn fater pwysig ac felly’n cynnig rhai syniadau cychwynol yn awr.

Yr egwyddor gychwynnol yw y byddai unrhyw Synod newydd yn etifeddu’r cronfeydd a ddelir    gan y ddau Synod presennol a’r Cyngor. Mae gan y ddau Synod presennol gronfeydd cyfalafol sylweddol fyddai ar gael i’r Synod newydd i gynnal ei genhadaeth a gweinidogaeth (ac mae’n bwysig y bydd y cronfeydd hyn ar gael i gynnal cenhadaeth a gweinidogaeth y Synod newydd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na’u gweld fel arian yn deillio o’r Synodau blaenorol). Mynegwyd peth gofid am gostau ychwanegol a allai godi o’r angen am ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a chyfieithu yn y Synod newydd a bydd yn bwysig sicrhau bod yr adnoddau hyn wedi eu hariannu’n iawn er mwyn eu gwneud i safon uchel. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd y gall y bydd rhai arbedion wrth uno gan y  bydd rôl y Cyngor yn dod i ben a bydd gan y Synod newydd fynediad i unrhyw gronfeydd a ddelir gan y Cyngor ar hyn o bryd (gan gynnwys y balans hanesyddol o Rwydwaith Hyfforddiant Cymru).

Yng ngoleuni hyn, i gychwyn, bwriedir i gost gweithredu’r Synod newydd fod yn niwtral yn nhermau cyllid gwariant a threthiant o gylchdeithiau gydag unrhyw gynnydd mewn costau gweithredol yn dod o’r cronfeydd cyfalafol sylweddol a chwyddedig a ddelid gan y Synod newydd. Fodd bynnag, dylid  nodi y bydd angen gweithio ar bolisi grantiau’r Synod newydd, gan weithio ar y sail bod cynnal a datblygu cenhadaeth a gweinidogaeth yn yr iaith Gymraeg yn un o brif sylfeini’r Synod newydd. Bydd hefyd yn bwysig, yng ngoleuni’r profiad o uno cylchdeithiau eraill yn ddiweddar, bod y Synod newydd yn symud tuag at system gyffredin o gyllido a dyrannu trethiant cylchdeithiol mor fuan ag sy’n ymarferol bosib.

Cynigir amserlen fel a ganlyn:

  • Wales Synod Cynrychioliadol/Cyfarfod Cylchdaith Cymru – Medi 2018

Bras egwyddorion y trafodaethau a chyfle am gwestiynau a sylwadau

  • Ymgynghori yn y cylchdeithiau – Medi i Dachwedd 2018
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ionawr 2019
    Adroddiad ar yr archwiliad o’r adborth o’r cylchdeithiau
  • Y ddau Bwyllgor Polisi – Chwefror 2019
    Y ddau bwyllgor yn cytuno i’r cynigion manwl ar gyfer y Synod
  • Synodau Cynrychioliadol – Ebrill 2019
    Y Synodau i gyfarfod ar yr un diwrnod, ar amser fydd yn caniatáu i’r Cyngor dderbyn y pleidleisiau er mwyn paratoi ei argymhelliad i’r Gynhadledd
    Bydd y Synodau’n pleidleisio ar y cynnig ffurfiol
  • Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2019
    Yn pleidleisio ar y cynnig ffurfiol, ac yn derbyn y pleidleisiau o’r Synodau
  • Y Gynhadledd Fethodistaidd – Mehefin/Gorffennaf 2019
    Yn derbyn argymhelliad y Cyngor ac yn pleidleisio arno

Aelodau’r Grŵp Llywio yw

Parch Jennie Hurd, Cadeirydd Synod Cymru
Parch Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod
Parch Rosemarie Clarke, Ysgrifennydd Wales Synod
Mr Graham Illingworth, Ysgrifennydd Cynorthwyol Wales Synod
Maryl Rees, Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi Synod Cymru
Mr Arfon Williams, Ysgrifennydd Synod Cymru
Mr Doug Swanney, Ysgrifennydd Cyfundebol

Bydd y Grwp Llywio’n parhau i gyfarfod yn ystod y cyfnod hwn i ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad ac i drafod ymhellach y gwaith a amlinellir yn y papur yng ngoleuni hynny.

Awst 2018

Ymgynghoriad gyda Chylchdeithiau (ac Ardaloedd) Synod Cymru a Wales Synod

Ymgynghoriad gyda Chylchdeithiau (ac Ardaloedd) Synod Cymru a Wales Synod

Gwahoddwyd i chi ystyried y cynigion atodedig ac ymateb i’r cwestiynau canlynol. Rhowch eich rhesymau am yr ymatebion, os gwelwch yn dda.

 

  1. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y dylai dwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd?
  2. Os ydych, a ydych chi’n cefnogi’r cynnig i enwi’r dalaith newydd yn Synod Cymru Wales?
  3. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y byddai’r dalaith newydd yn cynnwys 16 cylchdaith bresennol y ddau Synod, gydag un ohonynt yn Gylchdaith Cymru gyda hunaniaeth, cenhadaeth a gweinidogaeth Cymraeg ei hiaith?
  4. A ydych chi’n cefnogi’r cynnig y byddai’r dalaith newydd yn cael ei harwain gan 2 Gyd-gadeirydd (un yn byw yng Ngoledd Cymru ac un yn byw yn ne Cymru), ac o leiaf un ohonynt yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg (neu gydag ymrwymiad i ddysgu’r iaith Gymraeg)?
  5. Darparwch unrhyw sylwadau eraill, os gwelwch yn dda.

Datganiad: Egwyddorion ar gyfer gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru

DATGANIAD GAN SYNOD CYMRU

Egwyddorion ar gyfer gweithio tuag at Synod newydd Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
(Mawrth 2018)
[Mae’r papur hwn yn dilyn penderfyniad cyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru ym mis Tachwedd 2017 i fynd at Wales Synod i drafod y posibilrwydd o greu un Synod newydd yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. Ymatebodd Pwyllgor Polisi Wales Synod yn eu cyfarfod ym Mis Chwefror 2018 yn gadarnhaol i’r cais. Ers hynny, mae grŵp bach yn cynnwys y ddau Gadeirydd Talaith, y ddau Ysgrifennydd Synod a’r ddau Ysgrifennydd Pwyllgor Polisi wedi cyfarfod dwywaith er mwyn ystyried y mater. Yn bresennol yn yr ail gyfarfod oedd Doug Swanney, Ysgrifennydd y Cyfundeb. Mae’r grŵp bellach yn cynnig y canlynol i’w hystyried gan y ddwy Synod.]
Cynnig: i ddwy dalaith yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (Synod Cymru a Wales Synod) weithio tuag at ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio un dalaith newydd o dan yr enw Synod Cymru Wales, gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gydlyniad i waith Methodistiaeth yng Nghymru a’r gallu i ymateb yn fwy creadigol i gyfleoedd cenhadol yn y ddwy iaith.

O fewn i’r broses hon, bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol:

Buasai’r dalaith newydd yn cynnwys:

  • 16 cylchdaith bresennol y ddwy Synod
  • Cylchdaith Cymru gyda’i Harolygydd ei hunan (na fydd yn Gadeirydd y Synod)
  • 2 Cyd-gadeirydd wedi’i hariannu gan Gronfa’r Eglwys Fethodistaidd
  • Un ohonynt yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, neu’n ymrwymedig i ddysgu’r iaith Gymraeg
  • Un yn byw yng ngogledd Cymru ac un yn byw yn ne Cymru a’r ddau yn rhannu’n gyfartal yng nghyfrifoldebau’r cyfundeb a’r dalaith ac yn rhoi arweiniad bugeiliol i’r cylchdeithiau
  • Un Ysgrifennydd y Synod ac un Ysgrifennydd Cynorthwyol y Synod
  • Tîm Arweinyddiaeth y Synod yn cynnwys y ddau Gyd-gadeirydd ac Ysgrifenyddion y Synod, Trysorydd y Synod a swyddogion diffiniedig
  • Pwyllgor Polisi’r Synod yn cynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Synod ynghyd â chynrychiolaeth o bob un o’r 16 cylchdaith (gyda chynrychiolaeth amrywiol yn adlewyrchu bywyd y Synod)
  • Swyddfa Synod a Gweinyddydd yn ne Cymru, yn cael ei chefnogi gyda darpariaeth deunydd iaith Cymraeg gan Swyddfa Cylchdaith Cymru a’i Gweinyddydd, wedi ei lleoli yn y gogledd
  • Gwefan y Synod gyda deunydd a gwybodaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

Buasai’r Synod newydd yn cynnal y cyfarfodydd canlynol:

  • Synod Gynrychiadol yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Synod y Gweinidogion (‘Presbyters’) yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • X (i’w cadarnhau) cyfarfod Tîm Arweinyddiaeth y Synod y flwyddyn (gydag un fel cyfarfod dros nos gyda’r Arolygyddion)
  • X (i’w cadarnhau) cyfarfod Pwyllgor Polisi’r Synod y flwyddyn
  • Pwyllgorau amrywiol (i adlewyrchu bywyd y Synod)

Buasai angen gwaith pellach ynglŷn â chyfarfodydd y Synod, yn arbennig ynglŷn â:

  • Pwrpas, nifer a chyfansoddiad y pwyllgorau amrywiol (a gyfeirir atynt uchod)
  • Amlder a lleoliad cyfarfodydd, gyda chyfarfodydd corfforol yn cael eu cadw at yr isafswm a’r amser a dreulir ynddynt yn cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon
  • Datblygiad polisi iaith Gymraeg a fyddai’n mynd i’r afael â materion megis yr angen i bob corff yn y Synod sy’n gwneud penderfyniadau (e.e. Synod a’r Pwyllgor Polisi) weithio a chyfathrebu yn ddwyieithog gyda chymorth cyfieithu ar y pryd; i bwyllgorau sy’n ymwneud â gweinidogaeth (e.e. Ymgeiswyr a Gweinidogion ar brawf) adlewyrchu iaith y rhai sy’n cymryd rhan; ac i bwyllgorau sy’n ymwneud â materion arbenigol (e.e. Eiddo a Diogelu) ddefnyddio yn bennaf yr iaith sy’n galluogi i’r cyfraniad arbenigol hwnnw i gael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae’r amserlen sy’n cael ei chynnig fel a ganlyn:

  1. Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2018
    Rhoi gwybod bod trafodaethau wedi cychwyn, penodi grŵp craffu a fydd, yn ei bryd, yn gwirio bod adborth y cylchdeithiau’n cael ei gynrychioli’n deg mewn adroddiadau i gyfarfodydd y Synodau.
  2. Synod Cymru – Sesiwn Gynrychiadol – Ebrill 2018
  3. Amserlen, egwyddorion cyffredinol y sgwrs, cyfle ar gyfer cwestiynau a sylwadau
  4. Y ddau Bwyllgor Polisi Mehefin/ Gorffennaf 2018
    Diweddaru ar ddatblygiad y sgwrs hyd yn hyn
  5. Wales Synod – Sesiwn Cynrychiadol – Medi 2018
    Amserlen, egwyddorion cyffredinol y sgwrs, cyfle ar gyfer cwestiynau a sylwadau
  6. Y ddau Bwyllgor Polisi – tymor yr hydref 2018
    Anelu i gael model amlinellol fan bellaf ac i gychwyn proses ymgynghori gyda’r cylchdeithiau
  7. Y Cyngor Methodistaidd – Ionawr 2019
    Adroddiad ar graffu’r adborth o’r cylchdeithiau
  8. Y ddau Bwyllgor Polisi – Chwefror 2019
    Y ddau bwyllgor yn cytuno cynigion i’r Synodau
  9. Y Cyngor Methodistaidd – Ebrill 2019
    Bydd yn pleidleisio ar y cynigion ffurfiol; derbyn pleidleisiau’r Synod tra mae’n cyfarfod
  10. Sesiynau Cynrychiadol y Synod – Ebrill 2019
    Y Synodau’n cyfarfod ar yr un un dydd, ar amser sy’n galluogi’r Cyngor Methodistaidd i dderbyn y pleidleisiau er mwyn cyfarwyddo ei argymhelliad i’r Gynhadledd
    Bydd y Synodau’n pleidleisio ar y cynigion ffurfiol
  11. Y Gynhadledd Fethodistaidd – Mehefin/Gorffennaf 2019
    Bydd yn derbyn argymhelliad y Cyngor Methodistaidd ac yn pleidleisio arno

 

DIWEDD

Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru: Datganiad yn Dilyn Cyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru, 16 Tachwedd 2017

Yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017, gofynnodd Pwyllgor Polisi Synod Cymru i aelodau Pwyllgor Gwaith y Synod ddod yn ôl atynt yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd efo cynnig am ffordd ymlaen mewn ymateb i broses Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru. Roedd hynny oherwydd diffyg ymateb i benderfyniad cyfarfod y Synod ym mis Ebrill 2017 i greu chwe grŵp i weithio ar y themâu a ddaeth allan o’r broses ymgynghori fel rhan o’r adolygiad, ac oherwydd methiant y Pwyllgor Polisi i ffurfio ymateb eu hunain i’r sefyllfa yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.

Paratôdd y Pwyllgor Gwaith gynnig efo dau opsiwn, ac anfonodd y cynnig hwn at aelodau’r Pwyllgor Polisi ym mis Hydref efo papurau’r cyfarfod. Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor Polisi rannu’r cynnig efo pobl yn eu Hardaloedd ac i geisio eu barn. Roedd testun y cynnig fel a ganlyn:

Opsiwn 1:Yng ngoleuni’r ymatebion a ddaeth allan o adolygiad bywyd Synod a Chylchdaith Cymru, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cynnig ein bod ni’n ystyriedo ddifrif dod â Synod Cymru i ben, ac ein bod ni’n trafod efo Wales Synod y posibilrwydd o greu un Synod, Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, gan drefnu i Gylchdaith Cymru barhau fel Cylchdaith Gymraeg oddi mewn i’r Synod.

Os na fydd y cynnig hwn yn dderbyniol gan y Pwyllgor Polisi, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig ail opsiwn, sef:

Opsiwn 2: Gan dderbyn pwysigrwydd y chwe thema a ddaeth allan o broses adolygu bywyd Synod/Cylchdaith Cymru, ac yn gresynu at y diffyg gwirfoddolwyr i’r grwpiau a oedd am gael eu ffurfio i weithio ar y themâu yn dilyn Synod 2017, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cytuno:
(i) i estyn y cyfle i bobl wirfoddoli ar gyfer y grwpiau hyd at ddiwedd y flwyddyn calendr 2017;
(ii) i ymrwymo fel aelodau’r Pwyllgor Polisi i annog aelodau’r capeli a’r Ardaloedd i ystyried gwirfoddoli, ac i wirfoddoli ein hunain;
(iii) i gefnogi ac i annog y grwpiau bach yn eu tasg o baratoi argymhellion i gyfarfod y Synod 2018 am sut i ddatblygu bywyd y Synod a’r Gylchdaith o dan y chwe thema;
(iv) i dderbyn os na fydd o leiaf 3-4 o wirfoddolwyr ar gyfer y chwe grŵp erbyn 31 Rhagfyr 2017, bydd proses yr adolygiad wedi dod i ben.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig yng nghyfarfod y Pwyllgor Polisi yn Rhuthun ar 16 Tachwedd 2017. Roedd 18 o bobl yn bresennol, efo 16 yn pleidleisio. Pleidleisiodd 9 o blaid Opsiwn 1 a 7 yn erbyn. Gan gydnabod agosrwydd y niferoedd yma, mae’n bwysig deall natur gychwynnol y penderfyniad: y bwriad ar hyn o bryd yw cysylltu efo swyddogion Wales Synod ac i ofyn am sgyrsiau i ystyried y posibiliadau, a dim byd mwy. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Polisi yn eu cyfarfod ym mis Chwefror 2018, ac wedyn i’r Synod ym mis Ebrill, beth bynnag a ddaw. Yn y cyfamser, bydd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon derbyn sylwadau a chwestiynau gan aelodau Synod Cymru i’w bwydo i mewn i’r sgwrs efo cynrychiolyddion Wales Synod.

Ymwelwyr Taith Gyfnewid Cymru-Jamaica yn Eisteddfod 2017

Braf oedd croesawu 11 o ymwelwyr o Eglwys Fethodistaidd Jamaica i Gymru yn ystod yr haf fel rhan o Daith Gyfnewid Ieuenctid Cymru-Jamaica. Ar ôl treulio amser yn Fferm Amelia yn y de, ac yn gweithio mewn clybiau haf i blant, treuliodd y grŵp benwythnos mewn gwesyll i bobl ifanc Synod Cymru a Wales Synod yng Nghanolfan Abernant, yna ychydig o ddyddiau yn Aberystwyth cyn ddod i Ynys Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol.

photo

Cafodd y grŵp ei croesawu ym Mhabell yr Eglwysi ar y maes gan Owain Morgan a Gruffydd Davies o Synod Cymru. Wedyn, aeth y grŵp ymlaen i dreulio ychydig o amser ym Mangor cyn iddyn nhw fynd i Lundain i ymweld â rhai llefydd hanesyddol John Wesley a’r Eglwys Fethodistaidd, cyn hedfan adref. Diolch i Dduw am daith gyfnewid sydd wedi cyfoethogi bywyd Synod Wales a Synod Cymru, ac yn arbennig bywdau’r bobl ifanc a gymerodd rhan.