Dysgu a Gofalu

Dysgu a Gofalu

Mae Synod Cymru wedi ymrwymo i redeg rhaglen pedair blynedd yn seiliedig ar Ein Galwad. Mae hwn yn gyfle i roi hwb i’r hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr eglwysi ac i’w hannog i ystyried i’w datblygu ymhellach ac efallai i wneud pethau newydd o fewn ffocws y thema.

Dysgu a Gofalu yw’r thema  ar gyfer y flwyddyn gyntaf, thema sy’n rhoi ffocws i’n galwad fel disgyblion i Iesu i helpu ein gilydd i ddatblygu yn ein ffydd ac i ofalu am les a datblygiad ein gilydd fel cydaelodau o Eglwys Iesu Grist. Mae’n cynnwys yr holl elfennau sy’n ymwneud â dyfnhau ffydd, cyfleoedd i ddysgu a derbyn hyfforddiant (beth bynnag ein hoedran), gofal bugeiliol a’r arfer o fod yn deulu Duw, yn datblygu ein bywyd gyda’n gilydd. Dyma restr o syniadau, awgrymiadau ac adnoddau ar y thema Dysgu a Gofalu o dan y penawdau Yr Eglwys Gyfan yn Dysgu, Grwpiau Bychain, Plant ac Ieuenctid a Gofalu.

Yr Eglwys gyfan yn dysgu

ROOTS
Cynllun dysgu ac addoli ar gyfer pob oed yw Roots gyda ffocws bob wythnos ar un o ddarlleniadau’r llithiadur yn cynnwys paratoi at bregethu, gwasanaeth pob oed, ysgol Sul ac astudiaeth Feiblaidd. Mae dau gylchgrawn ar gael: Oedolion a phob oed / Plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnwys mynediad diderfyn at ddeunydd perthnasol ar y wefan. Ceir amrywiaeth o weddïau Cymraeg ar gyfer adegau gwahanol mewn addoliad a thaflen i blant yn Gymraeg. Mewn sefyllfa ddwyieithog gellir defnyddio’r adnoddau hyn ochr yn ochr â’i gilydd.

Gwerslyfrau’r Ysgol Sul
Mae gan Cyngor Ysgolion Sul Cymru banel cydenwadol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i weithio ar ddeunydd gwerslyfrau ar gyfer Ysgolion Sul Cymru. Eleni mae yna ddeunyddiau newydd ar gyfer dosbarthiadau plant ac ieuenctid: y gyfres Beibl Bach Stori a Llun i’r plant ieuengaf, Mosaig i’r plant hŷn ac yna Y Beibl mewn 245 Cam i’r bobl ifanc.
Mae maes llafur yr oedolion yn defnyddio Cyfres Dehongli gan Elfed ap Nefydd – Dehongli’r Bregeth, Dehongli’r Gwyrthiau, Dehongli’r Damhegion a Dehongli Bywyd Iesu. Mae’r llyfrau hyn yn addas ar gyfer grwpiau bychain canol wythnos hefyd.

Llan Llanast
Yn ogystal â’r traddodiadol ceir ffyrdd newydd o ddysgu ar gyfer yr eglwys gyfan. Un o’r ffyrdd cyfoes mwyaf poblogaidd o ddysgu fel eglwys yw Llan Llanast (Messy Church). Trwy weithgareddau hwyliog ar gyfer teuluoedd, wedi eu seilio ar greadigedd, lletygarwch a dathliad mae eglwysi wedi bod yn agor eu drysau i bobl o bob oed i ddysgu ar y cyd. Mae nifer o eglwysi nad oedd ganddynt waith plant wedi denu plant a theuluoedd trwy’r cynllun hwn. Bydd Cyngor Ysgolion Sul yn cyhoeddi dau lyfr Cymraeg yn fuan i helpu pobl i ddeall egwyddorion Llan Llanast ac i rannu syniadau.

Defnyddio celfyddyd
Bydd casgliad yr Eglwys Fethodistaidd o Gelfyddyd Gristnogol Gyfoes yn ymweld â Wrecsam am 10 wythnos gan ddechrau ar Ionawr 19eg  2015. Ceir yma gyfle i eglwysi i gynnal gweithgareddau penodol ar gyfer teulu’r eglwys i archwilio’i ffydd trwy gelf trwy weithgareddau, ymweliadau a gweithdai. Bydd y ddarpariaeth Gymraeg yn yr arddangosfa yn cynnwys taith dywys, cyfarfod Grawys, sesiwn Llan Llanast a sesiwn barddoniaeth gyda’r Prifardd Mererid Hopwood. Cynhyrchir llyfryn dwyieithog newydd yn olrhain hanes a chysylltiad y casgliad nodedig hwn â Chymru.

Grwpiau bychain

CwmniGweddiCaru
Cynllun weddol newydd o’r Eglwys Fethodistaidd yn yr Alban yw CwmniGweddiCaru (MeetPrayLove). Y syniad yw creu grwpiau bychain i ddod at ei gilydd yn rheolaidd i rannu profiadau, i weddïo’n bwrpasol ac i ddangos cariad a gofal at bobl eraill a’n byd. Y bwriad yng Nghymru yw sefydlu grwpiau datblygu disgyblion sy’n rhoi cyfle i grwpiau bychain i gyfarfod a myfyrio ar y Beibl, gan roi pwyslais arbennig ar rannu cariad Duw yn y byd.
Mae MeetPrayLove yn cynhyrchu adnoddau ar gyfer grwpiau bychain mewn cyfres yn dwyn yr enw Living upside down, enw sy’n cydnabod fod y thema o fyw bywyd a’i ben i wared i’w weld yn gyson yn nysgeidiaeth Iesu. Tim y Rhwydwaith yng Nghymru sy’n paratoi’r llyfryn nesaf o bedwar astudiaeth ar gyfer cyfnod yr Adfent a fydd ar gael yn ddwyieithog o dan yr enw Byw ben i waered. Rydym wedi seilio’r astudiaethau ar gyfoeth carolau traddodiadol y plygain. Gellir ei ddefnyddio gan unrhyw grŵp sy’n dod at ei gilydd yn ystod tymor yr Adfent.

Astudiaethau
Ceir dewis helaeth o ddeunydd astudiaethau yn Gymraeg, gan gynnwys adnoddau Grawys Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, adnoddau Adfent Cymorth Cristnogol, cyfresi astudiaethau Beiblaidd a chyfresi myfyrdodau a maes llafur Cyhoeddiadau’r Gair. Ceir astudiaethau ar wahanol themâu ar wefannau Beibl.net ac Undeb Annibynwyr Cymru.

Wrth fy enw
Mae Wrth Fy Enw yn adnodd darllenadwy ar gyfer y sawl sy’n ystyried ymaelodi mewn eglwys Fethodistaidd. Mae’n addas i’w ddefnyddio yn y cartref, gyda grwpiau bychain a chyda grwpiau ieuenctid.

Clonc a sgwrs
Gêm sgwrsio sy’n creu cyfleoedd i archwilio rhai o gwestiynau mawr bywyd gyda chyfeillion yw Table Talk. Cyfres o gemau sydd yma i’w defnyddio dros chwe sesiwn. Ceir amrywiaeth o gemau ar wahanol themau yn Saesneg ac mae Table Talk for Friends ar gael yn Gymraeg gan ddwyn yr enw Clonc a Sgwrs.

Plant ac Ieuenctid

The One programme
Mae gwaith plant ac ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd yn rhoi pwyslais ar gymryd rhan. Mae’r cynllun cyffrous The One Programme yn darparu cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 23 oed gael dysgu a datblygu fel disgyblion i Iesu Grist ac i wneud y gwahaniaeth yn eu cymuned leol. Ar y cynllun hwn, lleolir y bobl ifanc mewn cynllun cenhadol lleol am 15 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda rhai cyfrifoldebau cyfundebol neu genedlaethol. Mae’r bobl ifanc yn derbyn cyflog at eu byw. Mae dau berson wedi eu lleoli yng Nghymru ar hyn o bryd, un yn ardal Casnewydd a’r llall ym Mhorth Tywyn.

3Generate
Cynhelir 3Generate, cynulliad blynyddol plant ac ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd yn Sir Amwythig ar 14 – 16 Tachwedd 2014. Penwythnos yw hwn i blant a phobl ifanc 8-11 oed (Bl 4-6), 11-18 oed (Bl 7-13) a 18-23 oed i archwilio pynciau perthnasol, gwneud ffrindiau, rhannu straeon, cyd-addoli, gweithredu, bod yn greadigol ac i fynegi barn. Mae gan Synod Cymru ddau berson ifanc yn mynd fel ei  chynrychiolwyr.

The Big SleepOver
Rhaglen arall sy’n galluogi pobl ifanc gymryd rhan, i ddysgu ac i ddatblygu yn eu ffydd yw The Big SleepOver, pan ddaw pobl ifanc o’r un dalaith at ei gilydd dros nos a dilyn rhaglen a ddarperir gan yr Eglwys Fethodistaidd. Mae Grŵp Gweithredu Gwaith Ieuenctid Wales Synod yn trefnu’r rhain yn flynyddol a bydd yr un nesaf yn eithaf gwahanol a chyffrous. Cynhelir hwn yn Ebeneser Caernarfon ar Chwefror 7 ac 8 a gwahoddir pobl ifanc o Synod Cymru i gymryd rhan. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru i ddod i adnabod a chefnogi ei gilydd ar draws ffiniau iaith a strwythurau. Bydd Llywydd Ieuenctid Yr Eglwys Fethodistaidd, Megan Thomas sy’n hannu o Geri, Powys yn ymweld â’r Big Sleepover yng Nghaernarfon.

Hyfforddiant Dal d’afal
Mae hwn yn gynllun modiwlaidd yn cynnig hyfforddiant sylfaenol sy’n datblygu ac ymestyn sgiliau allweddol ar gyfer gweinidogaeth plant yn yr eglwysi trwy chwech adran lle mae angen medrusrwydd gan y DfES: datblygiad plant, sgiliau arwain, cynllunio rhaglenni, plant a’r gymuned, ymwybyddiaeth fugeiliol ac ysbrydolrwydd a’r Beibl.

Gofalu
Yr ail ran o thema eleni yw Gofalu – a hynny yng nghyd-destun yr eglwys.

Croeso
Mae estyn croeso yn elfen hanfodol o ofalu o fewn yr eglwys. Gellir datblygu hyn trwy sicrhau fod croeso wrth y drws, sicrhau fod pawb wedi derbyn croeso cael sgwrs, rhywun i gymryd gofal dros ymwelwyr â’r eglwys, trefnu cludo pobl i’r capel, paned wedi’r oedfa a chynnig lletygarwch yn y cartref wedi oedfa.

Cymdeithasu
Mae gofalu am ein gilydd yn fwy effeithiol pan fydd cyfleoedd i gymdeithasu a dod i adnabod ein gilydd yn well. Mae yna bob math o ffyrdd i ddwyn pobl at ei gilydd – Cymdeithas neu Gymdeithas Lenyddol, bore coffi, te pnawn, Panad deg, clwb gwau, clwb darllen, dathliadau arbennig, te parti, trip, taith gerdded, picnic, barbeciw, pryd bwyd, cyngerdd, twmpath, stondinau, ac arwerthiant. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Caredigrwydd
Efallai y bydd eglwys am roi sylw arbennig i garedigrwydd fel ffocws penodol. Gellir defnyddio’r arwyddair cyfarwydd o wneud tro da bob dydd. Gall gweithgarwch syml fel cydnabod penblwyddi arbennig, anfon cardiau a blodau i’r gwael, trefnu rota ymweld, cymorth ymarferol, creu anrhegion syml, wneud y gwahaniaeth i bobl eraill.

Sul Cartrefi Methodistaidd
Mae Sul Cartrefi Methodistaidd yn gyfle i ddathlu gwaith y cartrefi a gwerth pobl hŷn ac i godi arian i wneud y gwahaniaeth i ansawdd bywyd pobl hŷn. Cynhelir y Sul arbennig hwn fel arfer ar yr ail Sul ym Mehefin ond gall unigolion ac eglwysi ei ddathlu ar ba ddyddiad bynnag sy’n gyfleus iddynt. Trwy gynnal gwasanaeth Sul Cartrefi Methodistaidd bydd eich eglwys yn gwneud rhywbeth ymarferol i helpu pobl fregus yn ein plith. Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Gallwch fel capel rannu llawenydd y Nadolig â rhai o breswylwyr Cartrefi Methodistaidd yr Henoed ac aelodau Cynllun Byw Gartref trwy gymryd rhan yn eu cynllun cardiau Nadolig. Y cyfan sydd ei eisiau yw i bawb ysgrifennu un cerdyn Nadolig ychwanegol yr un. Gall MHA ddarparu cardiau Nadolig yn rhad ac am ddim, i aelodau eich capel eu defnyddio i ysgrifennu neges gyfeillgar a dymuno’n dda i bobl. Mae cardiau ar gael i blant eu lliwio hefyd. Wedyn bydd MHA yn eu trosglwyddo i’w holl wasanaethau er mwyn eu rhannu. Ceir mwy o wybodaeth gan Lesley France 01332 296200 lesley.france@mha.org.uk

Gofal bugeiliol
Mae yna ddigon o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant penodol ar ofal bugeiliol. Cynllun yr Eglwys Fethodistaidd ar gyfer Ymwelwyr Bugeiliol yw ‘Encircled with care’ a gellir trefnu cyrsiau Cymraeg lleol.
Gellir prynu llyfrynnau pwrpasol ar gyfer ymweliadau bugeiliol ar achlysuron arbennig gan Gyhoeddiadau’r Gair:
Gair o Gysur mewn Gofid a Galar
Gair o Gysur mewn Gofid a Gwaeledd
Wele, cawsom y Meseia – Nadolig
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw – Pasg

Diogelu
Mae diogelu’n rhywbeth sydd wrth wraidd bopeth a wnawn ac yn rhan hanfodol o’n galwad i ofalu. Anogir yr eglwysi i sicrhau fod yr holl drefniadau angenrheidiol mewn lle a’r bobl allweddol wedi derbyn yr hyfforddiant ‘Creu gofod mwy diogel’ priodol.

Rhannu storïau
Anogir eglwysi ac ardaloedd rannu eu storïau o weithgareddau datblygu Ein Galwad er mwyn annog ac ysbrydoli ein gilydd trwy’r canlynol:
Gwyliedydd
Gwefan Synod Cymru www.synodcymru.org.uk
The Buzz www.methodist.org.uk/news-and-events/the-buzz

Os hoffech rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r awgrymiadau uchod cysylltwch â Delyth Wyn Davies, Swyddog Dysgu a Datblygu’r Eglwys Fethodistaidd ar 07799 902576 neu daviesd@methodistchurch.org.uk