Rhwydwaith Dysgu Disgyblion a Gweinidogaethau

Dwy flynedd yn ôl sefydlwyd y Rhwydwaith Dysgu Disgyblion a Gweinidogaethau (DMLN) er mwyn cefnogi’r Eglwys Fethodistaidd ym mhob agwedd o ddysgu a datblygu. Mae’n cynnwys aelodau o staff a gwirfoddolwyr mewn eglwysi, cylchdeithiau, taleithiau ac ar hyd y Cyfundeb.

Sefydlwyd tîm newydd o staff gyda thua 60 o aelodau fel rhan o’r Tîm Cyfundebol i helpu eglwysi lleol, cylchdeithiau a thaleithiau yn eu gwaith. Mae’n cynnwys un ar ddeg tîm rhanbarthol, tri thîm arbenigol a thri chyfarwyddwr, wedi eu lleoli ar draws y Cyfundeb ac yng Ngholeg Cliff, Queen’s Foundation a Swyddfa’r Cyfundeb yn Llundain.

Mae’r Rhwydwaith Dysgu wedi ymrwymo i ofalu ein bod yn…

Datblygu fel Eglwys a Chymuned…gan herio a pharatoi cymunedau i fod â’u bryd ar genhadu

Datblygu a Meithrin Disgyblion…gan alluogi pobl i fod yn ddisgyblion Crist-debyg

Datblygu Gweinidogaeth…sefydlu a pharatoi y rhai sy’n rhannu mewn gweinidogaeth leyg ac ordeiniedig

Hyrwyddo Ysgolheictod, Ymchwil a Datblygiadau Newydd…galluogi ac annog pobl i feddwl yn greadigol yng nghyd-destun ysgolheictod, ymchwil a datblygu pethau newydd.

 

Blaenoriaethau’r Rhwydwaith Dysgu:

Arweinyddiaeth Genhadol…adnabod, galluogi a chynysgaeddu pobl sy’n cael eu galw i fod yn arweinwyr

Cynyddu Cyfranogiad…clywed llais pawb, fel bod pawb yn cael dylanwadu ar yr eglwys

Cymunedau Iach yn yr Eglwys Fethodistaidd…herio a chefnogi twf cymunedau iach yn yr Eglwys Fethodistaidd gyfan a thu hwnt

Bod yn fwy amlwg…codi proffil dysgu a datblygu drwy’r Cyfundeb cyfan

DMLN Cymru Mae’r tîm yng Nghymru yn cynnwys tri aelod o staff. Amy Adams yw Cydlynydd Dysgu a Datblygu Cymru ar gyfer y rhanbarth cyfan. Mae’r swydd Swyddog Dysgu a Datblygu yn y de ar hyn o bryd yn wag ac mae Delyth Wyn Davies yn gweithio fel Swyddog Dysgu a Datblygu yn y gogledd, ac yn genedlaethol gyda’r gwaith cyfrwng Cymraeg.

Eleni bydd Synod Cymru yn canolbwyntio ar y thema addoliad fel rhan o ‘ddatblygu ein galwad’. Bydd hyn yn cynnwys cael cyfle i ddarganfod a phrofi gwahanol arddulliau mewn addoliad, sesiwn hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer arwain addoliad creadigol yn Gymraeg, sesiynau blasu ar gyfer y cwrs newydd Addoliad: arwain a phregethu, erthyglau yn ymwneud ag addoliad yn y Gwyliedydd; digwyddiadau arbennig yn ystod yr Adfent, a bydd eglwysi’n cael eu hannog a’u helpu i ymateb i her y Llywydd sef arwain un person at ffydd, drwy ganolbwyntio’n arbennig ar Sul y Pasg.

Bydd y rhaglen ar gyfer dysgu a datblygu yn Wales Synod yn cynnwys hyfforddi mentoriaid a thiwtoriaid ar gyfer y cwrs newydd Addoliad: arwain a phregethu a chyfleoedd i ddatblygu fel disgyblion drwy’r rhaglen newydd Encounter, y cwrs Step Forward, neu grwpiau Cwmni Gweddi Caru. Cyflwynir cyrsiau newydd ar gyfer goruchwylwyr eglwysi a chylchdeithiau, ynghyd â chyfleoedd pellach i gymryd rhan mewn hyfforddiant Dal D’afal ar gyfer gweithio gyda phlant, gwaith trawsnewid gwrthdrawiad, cymorth ar gyfer gweinidogion lleyg ac ordeiniedig, a digwyddiadau hefyd i ddarganfod mwy am y bywyd ysbrydol a’n treftadaeth fel Methodistiaid.

Gyda’i gilydd mae’r ddau synod yn cefnogi gwaith gyda phobl ifanc drwy Gymru benbaladr ac maent yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer Taith gyfnewid ryngwladol i Jamaica, ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 23 oed yn haf 2016.

Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr felly os oes gennych ddarn o waith neu brosiect yr hoffech ei ddatblygu neu os hoffech dderbyn gwybodaeth ychwanegol cysylltwch â Delyth ar 07799 902576 neu daviesd@methodistchurch.org.uk