Dyddiadau Pwysig

1738Troedigaeth John Wesley yn Llundain.
1739Dechreuodd Wesley bregethu yn yr awyr agored.
Ymweliad cenhadol cyntaf John Wesley â Chymru.
1791Marwolaeth John Wesley.
1799Dychwelodd Edward Jones adref i Bathafarn, Rhuthun yn dilyn ei droedigaeth ym Manceinion a llogodd ystafell ar gyfer cyfarfodydd Methodistaidd.
1800Derbyniodd y Gynhadledd Fethodistaidd Wesleaidd Brydeinig gynnig Thomas Coke i anfon cenhadon Cymraeg i Gymru. Anfonwyd Owen Davies a John Hughes. Ychwanegwyd John Bryan ac Edward John yn fuan wedyn.
1804Crëwyd Talaith Cymru gyda 1709 o aelodau.
1809Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Yr Eurgrawn Wesleyaidd, cylchgrawn misol seiliedig ar The Methodist Magazine, a lansiwyd dan y teitl The Arminian Magazine gan John Wesley yn 1778. Sefydlwyd Llyfrfa fel swyddfa cyhoeddi yn Nolgellau. Symudwyd nes ymlaen i Lanfair Caereinion a Llanidloes cyn symud i Fangor yn 1859. Darparwyd adeilad pwrpasol iddi ym Mangor yn 1887.
1829Crëwyd dwy Dalaith – Talaith y Gogledd a Thalaith y Deheudir – gyda chyfanswm o 7947 o aelodau.
1831Cododd anghytundeb ymysg y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg, gyda rhai yn gadael a ffurfio mudiad a elwid y Wesle Bach. Ymunodd â’r Wesleyan Methodist Association yn 1837.
1859Dechreuodd diwygiad yn Nhre’r Ddôl dan arweiniad y pregethwr Wesleaidd Humphrey Jones. Dan ddylanwad y diwygiad cododd cyfanswm aelodaeth y Wesleaid Cymraeg o 13,447 yn 1859 i 16,832 yn 1861.
1877Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Gwyliedydd, papur wythnosol a gyfer y Methodistiaid Wesleaidd.
1899Crëwyd y Gymanfa Gymreig. Cwrddodd yn flynyddol ac roedd yn gyfrifol am waith y Taleithiau Cymraeg ac am ordeinio gweinidogion Cymraeg. Roedd y Gymanfa yn atebol i’r Gynhadledd Brydeinig.
1904Crëwyd tair Talaith – Talaith Gyntaf y Gogledd, Ail Dalaith y Gogledd, a Thalaith y Deheudir – gyda chyfanswm o 22,078 o aelodau.
1905Cofnodwyd cyfanswm o 26,108 o aelodau, y ffigur uchaf erioed, diau oherwydd effaith Diwygiad 1904-05.
1925Cofnodwyd cyfanswm o 25,119 o aelodau, ond gwelwyd lleihad cyson yn yr aelodaeth o hynny ymlaen.
1946Sefydlwyd Cymdeithas Hanes a chyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o’r cychgrawn Bathafarn dan olygiaeth A. H. Williams.
1965Caewyd y Llyfrfa oherwydd pwysau ariannol.
1974Crëwyd un Dalaith gyda 10,774 o aelodau. Daeth y Gymanfa Gymreig i ben.
1983Cyhoeddwyd rhifyn olaf Yr Eurgrawn. Ymunodd yr enwad gydag enwadau eraill i gyhoeddi’r cylchgrawn cyd-enwadol Cristion.
1987Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o fersiwn newydd o’r Gwyliedydd dan olygiaeth Owain Owain. Dechreuodd fel misolyn ond erbyn hyn mae’n ymddangos yn ddau-fisol.
1988Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o fersiwn newydd o’r Gwyliedydd dan olygiaeth Owain Owain. Dechreuodd fel misolyn ond erbyn hyn mae’n ymddangos yn ddau-fisol.
2001Cyhoeddwyd y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd. Mae’r llyfr wedi gwneud llawer i ddod â’r enwadau nes at ei gilydd.