Addoli

Trafod y Ffydd - AddoliAddoli – gan Delyth Wyn Davies

Ychydig yn ôl rhoddwyd sylw i gyhoeddi cryno ddisg gyda thraciau o donau emynau ar gyfer capeli ac eglwysi sydd heb organyddion, a bu’n destun trafod ar y rhaglen Taro’r Post ar Radio Cymru. Roedd yn ymddangos fel eu bod yn chwilio am rywun i wrthwynebu’r syniad o gyhoeddi traciau cefndir i emynau, fel petai’n beth ofnadwy i’w wneud, ond nid felly y bu. Parodd i mi holi fy hunan pam fyddai unrhyw Gristion eisiau gwrthwynebu ffordd a fydd yn helpu pobl i addoli Duw. Yr hyn a gafwyd mewn ymateb i’r pwnc ar y radio oedd nifer o bobl yn ffonio i mewn yn dweud cymaint o organyddion oedd ganddyn nhw yn eu capel neu eglwys, gyda nifer yr organyddion yn cynyddu gyda phob galwad! Aeth un ymlaen i ddweud bod y gynulleidfa yn canu bob tro mewn pedwar llais. Mae’n swnio’n hyfryd iawn imi, yn enwedig o gofio bod canran uchel o gynulleidfa fy nghapel i ddim yn canu am eu bod yn credu na allant ganu. Ond ai dyna beth sy’n bwysig mewn gwirionedd? Ai dyma beth sy’n gwneud addoliad? Wrth bendroni dros gwestiynau bues yn holi fy hunan beth yw addoli mewn gwirionedd.

Y diffiniad a geir am addoli yn ôl y Beibl Canllaw a gyhoeddwyd yn yr haf yw Ymostwng gerbron Duw, cydnabod ei hawliau dwyfol, mynegi’r mawl sy’n ddyledus iddo oherwydd yr hyn ydyw ynddo’i hun a’r hyn y mae wedi ei wneud, ac ymrwymo i’w wasanaethu.

Gwyddom fod addoliad yn y Beibl yn gallu amrywio. Cyn teml Solomon y pwyslais oedd ar addoliad aberthol – aberth gwirioneddol – anifail neu rawn – rhywbeth oedd yn werthfawr i’r rhoddwr ac yn gostus i’w roi. A chredwch chi fi, roedd hyn yn aberth go iawn. Roedden nhw’n rhoi’r pethau mwyaf gwerthfawr – y cyntaf-anedig neu’r blaenffrwyth, gan ddangos eu blaenoriaethau, eu bod nhw’n rhoi Duw yn gyntaf. Roedd yr aberthau hyn yn cynrychioli diolchgarwch i Dduw ond hefyd weithiau roeddent yn offrymau i wneud yn iawn am bechod.

Mae diolchgarwch a’r gri am faddeuant yn parhau yn nes ymlaen yn yr Hen Destament gyda mwy o bwyslais ar ganu mawl, cyhoeddi gweithredoedd rhyfeddol Duw ac ymbil am faddeuant a thrugaredd, yn enwedig yn llyfr y Salmau, llyfr y byddwn yn aml yn troi ato i’n cynorthwyo wrth addoli. Mae adnodau cyntaf Salm 95 yn enghraifft ardderchog o addoliad Iddewig adeg yr Hen Destament:
Dewch, canwn yn llawen i’r Arglwydd,
rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
Down i’w bresenoldeb â diolch,
gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
Oherwydd Duw mawr yw’r Arglwydd,
a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
Yn ei law ef y mae dyfnderau’r ddaear,
ac eiddo ef yw uchelderau’r mynyddoedd.
Eiddo ef yw’r môr, ac ef a’i gwnaeth;
ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
Dewch, addolwn ac ymgrymwn,
plygwn ein gliniau gerbron yr Arglwydd a’n gwnaeth.
Oherwydd ef yw ein Duw,
a ninnau’n bobl iddo a defaid ei borfa.

Yr enghraifft fwyaf amlwg o bobl Dduw’n addoli yn y Testament Newydd yw’r disgrifiad a gawn o addoliad yr Eglwys Fore yn Actau 2:42. Yma darllenwn y geiriau Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Mae’n ddiddorol nodi hefyd nad un ffordd oedd o addoli adeg yr Eglwys Fore. Yn llythyr Paul at y Colosiaid 3:16 cawn ein hannog i addoli mewn amrywiol ffyrdd –  â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.

Un peth sy’n amlwg trwy gydol y Beibl yw bod addoli’n cyffwrdd pob rhan o’n bywyd. Addoliad yw bywyd i gyd, sef offrymu ein holl fywyd i Dduw fel ‘gwasanaeth’. Nid rhywbeth wedi ei gyfyngu i un awr ar y Sul yw addoli. Yr un yw’r ‘gwasanaeth ‘ o fawl a’r ‘gwasanaeth’ a rown i Dduw ac i eraill. Yn Luc 4:8 darllenwn y geiriau Atebodd Iesu ef, “Y mae’n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ” Caiff hyn ei adlewyrchu gan awdur y Llythyr at yr Hebreaid wrth annog pobl yr eglwysi i addoli – Felly, gadewch i ni foli Duw drwy’r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni’n eu cyflwyno iddo ydy’r mawl mae e’n ei haeddu. A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu’ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae’r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn. (Hebreaid 13:15-16, Beibl.net)  Caiff ei ategu ymhellach gan Paul pan mae’n disgrifio beth yw gwir addoliad yn Rhufeiniaid 12:1: Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! (Beibl.net)

Dyma bedwar cwestiwn i’w hystyried ac i ysgogi trafodaeth:

1 Pwy ydan ni’n addoli?
Mae’n debyg bod hwn yn swnio fel cwestiwn twp i’w ofyn. Onid yw’r ateb yn amlwg? Wrth gwrs, Duw yw’r un rydym yn ei addoli trwy Iesu Grist. Ond beth am droi’r cwestiwn ar ei ben a gofyn pwy ydan ni’n trio ei blesio yn ei haddoliad -ai Duw ynteu ein hunain? Efallai bydd hyn yn ein helpu i feddwl a yw ein haddoliad yn adlewyrchu’r math o addoliad a welir yn y Beibl a holi’n hunain pwy sy’n dod yn gyntaf a beth sy’n plesio Duw. Er y sôn am aberthau’r addoli pobl Dduw yn yr Hen Destament, ein hagwedd tuag at yr addoli sy’n cyfrif go iawn. Daw hyn yn amlwg yn Salm 51:17:
Nid aberthau sy’n dy blesio di;
a dydy offrwm i’w losgi ddim yn dy fodloni di.
Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi ei ddryllio,
calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy’n edifar –
Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw. (Beibl.net)

Wrth gwrs, mae agwedd yn bwysig ym mhob rhan o’r gwasanaeth, yn y canu, y darllen, y gweddïo cyhoeddus a’r personol, y gwrando – a hyd yn oed y casgliad! Un o brofiadau mwyaf gwefreiddiol i mi oedd cael treulio mis yn y Congo rhai blynyddoedd yn ôl a mynychu gwasanaethau o addoliad, nid yn unig ar y Sul, ond ar achlysuron eraill a oedd yn fynegiant o ddathliad a diolchgarwch, a hynny mewn gwlad ble roedd y boblogaeth dan orthrwm gwleidyddol a thlodi enbyd. Ym mhob gwasanaeth ystyriwyd y casgliad, neu i ddefnyddio’r term cywir, yr offrwm yn rhan annatod a gwerthfawr o’r addoliad a’r traddodiad oedd i bawb ddod ymlaen yn ei dro i sain cerddoriaeth fywiog i gyflwyno ei offrwm yn y fasged ar y blaen. Rwy’n cofio un gwasanaeth i ddathlu lansio cwch newydd i gludo pobl a nwyddau i ardaloedd pellennig ac anghenus gyda thros ddwy fil o bobl yn mynd ymlaen yn eu tro gan ddawnsio mewn llawenydd am eu bod yn falch o gael cyfrannu at waith yr Arglwydd. Parodd y rhan hwnnw o’r gwasanaeth dros awr a’r gwasanaeth ei hun dros bedair awr!

2 Pwy sy’n cael addoli?
Cwestiwn gwirion arall? Wrth gwrs bod pawb yn cael addoli. Ond efallai dylem ystyried beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, yn ymarferol yn ogystal â mewn egwyddor. Ydyn ni’n ei wneud yn hawdd neu’n anodd i rai? Beth am ystyried ein dulliau addoli? Ydy ein haddoliad yn adlewyrchu’r amrywiaeth y cyfeiriwyd ato yn y Testament Newydd? Tybed a oes yna gysylltiad rhwng ein dulliau a’r dirywiad yn yr eglwysi? Ac a ydym yn cau rhai pobl allan, hyd yn oed heb feddwl? Mae cymaint y gellir ei wneud i gynnwys plant, pobl ifanc, y bobl sydd heb brofiad o gapel, y rhai sy’n ddall, y byddar, y galarus, y bobl hynny sy’n cael bywyd yn anodd. A beth am y person hwnnw sydd wedi bod yn ystyried dod i’r capel ers misoedd ond yn ofni mentro ac ar y Sul pan mae’n mynd mae’r capel wedi cau am nad oedd pregethwr. Wrth ystyried y geiriau yn Salm 95 y cyfeiriwyd atynt yn gynharach Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr Arglwydd a’n gwnaeth, cofiwn mai gwahoddiad sydd yma. Efallai dylem holi ein hunain pryd oedd y tro diwethaf i ni wadd rhywun neu annog rhywun i addoli. Yng Nghynhadledd yr Eglwys Fethodistaidd yn gynharach eleni rhoddodd y Llywydd, Y Parch Steve Wild, her i’r eglwysi ennill un person newydd at Grist. Yn Synod Cymru eleni byddwn ac yn annog eglwysi  i gymryd yr her hon o ddifrif ac i glustnodi Sul y Pasg fel cyfle arbennig i wadd pobl i ddod i wasanaeth o addoliad.

3 Pwy sy’n gyfrifol am yr addoli?
Dros y blynyddoedd deuthum yn fwy ymwybododol o’r pwysigrwydd i bob un gyfranogi mewn addoliad. Mae’r egwyddor yn cael ei hyrwyddo mewn ffordd amlwg gan yr Eglwys Fethodistaidd trwy ei rhaglen Youth Participation Strategy sydd hefyd yn berthnasol i bawb o bob oed.  Yma ceir y pwyslais ar bawb yn cyfrannu at fywyd yr eglwys ac yn wir fod gan bawb gyfraniad i’w wneud i hyrwyddo bywyd yr eglwys. Mae’n ddiddorol sylwi ar eiriau Paul yn 1 Cor 14:26 sy’n awgrymu bod gan bawb ei gyfraniad. Beth dw i’n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda’ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i’w rannu – cân, rhywbeth i’w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi ei ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu’r gallu i esbonio beth sy’n cael ei ddweud. (Beibl.net) Yn y strategaeth gyfranogiad cawn ein hannog i ymgynghori gyda phobl ifanc ynglyn â sut yr hoffent weld pethau’n datblygu yn yr eglwys. Gallwn fynd â hyn ymhellach o fewn y rhaglen Datblygu Ein Galwad eleni trwy ymgynghori gyda phawb o bob oed ynghylch y math o addoli hoffem weld yn ein heglwysi a holi beth fyddai’n denu pobl newydd i addoli. Gellir hefyd annog a rhoi’r cyfle i bobl o bob oed i arwain o’r blaen ac i annog y gynulleidfa i  gymryd rhan weithredol trwy ddefnyddio dulliau creadigol o addoli o fewn gwasanaethau arferol. Gellir hefyd cynnig cyfleoedd hollol newydd i addoli megis eglwys gaffi neu Llan Llanast.

4 Pwy sy’n ysgogi’r addoli?
Heb bresenoldeb a gwaith yr Ysbryd Glân gall ein haddoli fod yn ddipwrpas ac yn llwm. Ef sy’n ein hysbrydoli ac yn ein cymell i addoli, ac ef hefyd sydd yn rhoi’r gallu i addoli, prun ai fyddwn yn teimlo fel addoli neu beidio. Y dimensiwn ysbrydol hwn sydd yn gwneud addoli yn beth anodd ei ddisgrifio i eraill. Ystyriwch eiriau Iesu wrth y wraig ger y ffynnon: Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Ac mae hynny’n fy arwain at un cwestiwn bach arall i’w ystyried neu ei drafod – beth yw ystyr ‘addoli mewn ysbryd a gwirionedd’?