Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru: Datganiad yn Dilyn Cyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru, 16 Tachwedd 2017

Yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf 2017, gofynnodd Pwyllgor Polisi Synod Cymru i aelodau Pwyllgor Gwaith y Synod ddod yn ôl atynt yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd efo cynnig am ffordd ymlaen mewn ymateb i broses Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru. Roedd hynny oherwydd diffyg ymateb i benderfyniad cyfarfod y Synod ym mis Ebrill 2017 i greu chwe grŵp i weithio ar y themâu a ddaeth allan o’r broses ymgynghori fel rhan o’r adolygiad, ac oherwydd methiant y Pwyllgor Polisi i ffurfio ymateb eu hunain i’r sefyllfa yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.

Paratôdd y Pwyllgor Gwaith gynnig efo dau opsiwn, ac anfonodd y cynnig hwn at aelodau’r Pwyllgor Polisi ym mis Hydref efo papurau’r cyfarfod. Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor Polisi rannu’r cynnig efo pobl yn eu Hardaloedd ac i geisio eu barn. Roedd testun y cynnig fel a ganlyn:

Opsiwn 1:Yng ngoleuni’r ymatebion a ddaeth allan o adolygiad bywyd Synod a Chylchdaith Cymru, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cynnig ein bod ni’n ystyriedo ddifrif dod â Synod Cymru i ben, ac ein bod ni’n trafod efo Wales Synod y posibilrwydd o greu un Synod, Synod yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, gan drefnu i Gylchdaith Cymru barhau fel Cylchdaith Gymraeg oddi mewn i’r Synod.

Os na fydd y cynnig hwn yn dderbyniol gan y Pwyllgor Polisi, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig ail opsiwn, sef:

Opsiwn 2: Gan dderbyn pwysigrwydd y chwe thema a ddaeth allan o broses adolygu bywyd Synod/Cylchdaith Cymru, ac yn gresynu at y diffyg gwirfoddolwyr i’r grwpiau a oedd am gael eu ffurfio i weithio ar y themâu yn dilyn Synod 2017, mae Pwyllgor Polisi Synod Cymru yn cytuno:
(i) i estyn y cyfle i bobl wirfoddoli ar gyfer y grwpiau hyd at ddiwedd y flwyddyn calendr 2017;
(ii) i ymrwymo fel aelodau’r Pwyllgor Polisi i annog aelodau’r capeli a’r Ardaloedd i ystyried gwirfoddoli, ac i wirfoddoli ein hunain;
(iii) i gefnogi ac i annog y grwpiau bach yn eu tasg o baratoi argymhellion i gyfarfod y Synod 2018 am sut i ddatblygu bywyd y Synod a’r Gylchdaith o dan y chwe thema;
(iv) i dderbyn os na fydd o leiaf 3-4 o wirfoddolwyr ar gyfer y chwe grŵp erbyn 31 Rhagfyr 2017, bydd proses yr adolygiad wedi dod i ben.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig yng nghyfarfod y Pwyllgor Polisi yn Rhuthun ar 16 Tachwedd 2017. Roedd 18 o bobl yn bresennol, efo 16 yn pleidleisio. Pleidleisiodd 9 o blaid Opsiwn 1 a 7 yn erbyn. Gan gydnabod agosrwydd y niferoedd yma, mae’n bwysig deall natur gychwynnol y penderfyniad: y bwriad ar hyn o bryd yw cysylltu efo swyddogion Wales Synod ac i ofyn am sgyrsiau i ystyried y posibiliadau, a dim byd mwy. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Polisi yn eu cyfarfod ym mis Chwefror 2018, ac wedyn i’r Synod ym mis Ebrill, beth bynnag a ddaw. Yn y cyfamser, bydd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon derbyn sylwadau a chwestiynau gan aelodau Synod Cymru i’w bwydo i mewn i’r sgwrs efo cynrychiolyddion Wales Synod.

Ymwelwyr Taith Gyfnewid Cymru-Jamaica yn Eisteddfod 2017

Braf oedd croesawu 11 o ymwelwyr o Eglwys Fethodistaidd Jamaica i Gymru yn ystod yr haf fel rhan o Daith Gyfnewid Ieuenctid Cymru-Jamaica. Ar ôl treulio amser yn Fferm Amelia yn y de, ac yn gweithio mewn clybiau haf i blant, treuliodd y grŵp benwythnos mewn gwesyll i bobl ifanc Synod Cymru a Wales Synod yng Nghanolfan Abernant, yna ychydig o ddyddiau yn Aberystwyth cyn ddod i Ynys Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol.

photo

Cafodd y grŵp ei croesawu ym Mhabell yr Eglwysi ar y maes gan Owain Morgan a Gruffydd Davies o Synod Cymru. Wedyn, aeth y grŵp ymlaen i dreulio ychydig o amser ym Mangor cyn iddyn nhw fynd i Lundain i ymweld â rhai llefydd hanesyddol John Wesley a’r Eglwys Fethodistaidd, cyn hedfan adref. Diolch i Dduw am daith gyfnewid sydd wedi cyfoethogi bywyd Synod Wales a Synod Cymru, ac yn arbennig bywdau’r bobl ifanc a gymerodd rhan.

Adolygu Bywyd Synod a Chylchdaith Cymru – Y Diwetharaf

Fe gofiwch y cytunwyd yng nghyfarfod y Synod yn Aberystwyth yn 2016 i gynnal adolygiad bywyd Synod a Chylchdaith Cymru o dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith er mwyn ceisio ewyllys a galwad Duw ar ein cyfer ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn proses o gynnal adolygiad yn ceisio barn unigolion, eglwysi ac ardaloedd yn ystod 2016-17, daeth yn amlwg yn y broses dadansoddi bod chwe phrif thema ac cael eu hamlinellu yn yr ymatebion ac mai dyma’r themâu mae Duw yn ein galw i ganolbwyntio arnynt, wrth i ni barhau i geisio ei ffordd ymlaen fel Synod/Cylchdaith Cymru. Derbyniwyd hyn yng nghyfarfod y Synod yn Wrecsam ym mis Ebrill 2017 a chytunwyd i sefydlu chwe grŵp bach i weithio ar y chwe thema er mwyn i’r grwpiau bach ddod yn ôl i gyfarfod y Synod yn 2018 efo argymhellion pellach am sut i ddatblygu bywyd y Synod/Cylchdaith o dan y themâu. Yn y Synod a chyfarfodydd eraill, mewn erthygl yn y Gwyliedydd (Mehefin-Gorffennaf 2017) ac ar wefan y Synod, gofynnwyd i’r rhai oedd â diddordeb mewn un (neu fwy) o’r themâu ac am wirfoddoli i ymuno â grŵp i gysylltu â’r Person Cyswllt priodol erbyn Gorffennaf 10fed i’w cyflwyno i Bwyllgor Polisi Gorffennaf 2017 er mwyn symud ymlaen. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid cael isafswm o 3-4 i bob grŵp ac y buasai’r Pwyllgor Polisi yn penderfynu ar y camau nesaf yn achos y grwpiau lle nad oedd digon o enwau.

I’ch atgoffa dyma’r grwpiau a chynullydd bob un:

Bywyd ysbrydol  (Delyth Wyn Davies)
Gwaith efo plant/teuluoedd (Jon Miller)
Iaith – dwyieithrwydd/dysgwyr (Stephen Roe)
Estyn allan i’r gymuned (Maryl Rees)
Cyfathrebu (Ffion Rowlinson)
Cydweithio (yn ecwmenaidd, Eglwys Fethodistaidd ac fel Synod/Cylchdaith) (Ian Morris)

Canlyniad y broses hon oedd mai un enw yn unig a ddaeth i law yn achos bob un o’r grwpiau hyn. A chymryd y pwynt a wnaed eisoes bod angen isafswm o 3-4 i bob grŵp golyga hyn nad oedd hi’n bosibl sefydlu yr un o’r grwpiau ar y pryd a roedd angen i’r Pwyllgor Polisi ystyried hyn yn ddifrifol yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf gan geisio ewyllys ac arweiniad Duw ynghylch y ffordd ymlaen.

Treuliodd Pwyllgor Polisi mis Gorffennaf amser yn siarad am y mater mewn grwpiau gan ystyried tri cwestiwn:

1 Sut rydych chi’n ymateb i’r hyn rydych newydd ei glywed? (teimladau, rhesymau, goblygiadau)
2 Beth ydych chi’n meddwl y mae Duw yn dweud wrthym am hyn, ac am y chwe thema?
3 Beth yw eich eich barn ar sut ddylem symud ymlaen? Beth yw’r camau nesaf?

Mewn sgwrs hir a dwfn, mynegodd aelodau’r Pwyllgor Polisi nifer o bwyntiau, yn cynnwys eu siom, eu rhwystredigaeth efo problemau cyfathrebu, eu consyrn am ddifaterwch, eu cwestiynau am ddyfodol y Synod a’r Gylchdaith ac os oes ‘na awydd i fynd ymlaen. Yn y diwedd, doedd o ddim yn bosib dod o hyd at gynnig pendant am beth i wneud nesaf. Cynigwyd i’r mater yn mynd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi er mwyn paratoi cynnig am ffordd ymlaen i roi o flaen y Pwyllgor Polisi nesaf ym mis Tachwedd. Cytunwyd â hyn. Boed i Dduw roi doethineb a dewrder i bawb wrth i ni ystyried dyfodol Synod a Chylchdaith Cymru.

Ysgrifennydd y Cyfundeb ym Mhwyllgor Polisi Synod Cymru

Braf oedd croesawu Mr Doug Swanney, Ysgrifennydd y Cyfundeb, i gyfarfod Pwyllgor Polisi Synod Cymru yng Nghapel Horeb, Bae Colwyn ar ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017. Siaradodd Doug am ei rol, a rhannodd ei sylwadau ar sut mae agenda Synod Cymru yn atseinio blaenoriaethau’r Cyfundeb. Mi gafodd pawb eu calonogi gan ei newyddion am y teulu Methodistaidd byd-eang a chan ei ymrwymiad i ymateb i gyd-destun arbennig Synod Cymru, nid o leiaf fel talaith Cymraeg ei iaith. Mynegwyd diolch i Doug am deithio o Lundain yn gynnar yn y bore er mwyn cyfarfod efo ni.

Mr Doug Swanney efo’r Parch Marty Presdee a’r Parch Ian Morris

Doug

Llywio: adnodd newydd ar gyfer grwpiau i archwilio’r Beibl

Mae adnodd newydd Llywio ar gyfer grwpiau i archwilio’r Beibl ar gael ar wefan yr Eglwys Fethodistaidd http://www.methodist.org.uk/navigate. Mae’n addas ar gyfer grwpiau o bob oed ac yn enwedig pobl sydd heb llawer o brofiad o drin a thrafod y Beibl. Mae’n cynnwys dogfen PDF gyda’r holl sesiynau a hefyd dau gyflwyniad PowerPoint sy’n rhan o sesiwn 1. Hefyd ar y wefan ceir adnoddau Saesneg megis animeiddiadau a fideos y gellir eu eu lawrlwytho a’u defnyddio gyda’r sesiynau. Bydd Cyhoeddiadau’r Gair yn cynhyrchu’r testun Cymraeg ar ffurf llyfr yn fuan.Llywio yw cyfraniad Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru i ymgyrch Beibl Byw sydd yn cael ei weithredu ar draws yr holl enwadau Cymraeg ar hyn o bryd.

Adolygu Bywyd Cylchdaith a Synod Cymru 2016-17: Dogfen Drafod

Sefydlwyd Cylchdaith Cymru yn 2009 yn dilyn proses ofalus o ymgynghori a chynllunio. Crëwyd un Gylchdaith allan o ddeuddeg, ynghyd ag Ardaloedd fel rhan o’r Gylchdaith, er mwyn i waith Synod Cymru barhau. Mae Cylchdaith Cymru wedi bodoli, felly, ers saith o flynyddoedd.

Mae adolygu’n rhan o’n bywyd Cristnogol. Byddwn yn archwilio’n hunain o flaen Duw ac yn ystyried beth sydd angen newid ynom ni wrth i ni ddweud ein gweddïau o gyffes. Mae gan bob cynulleidfa gyfrifoldeb i gynnal archwiliad ar ei chapel pob pum mlynedd (“Quinquenniel Inspection”) er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol i gynnal a chadw’r capel. Mi ddylai pob gweinidog yr Eglwys Fethodistaidd gymryd rhan mewn proses adolygu yn flynyddol (“Ministerial Development Review”) er mwyn canfod a gweithio ar agweddau ei (g)weinidogaeth sydd angen eu datblygu. Felly rydyn ni’n gyfarwydd iawn ag adolygu pobl a phethau, er mwyn pwyso a mesur sut mae Duw’n ein galw ni yn ei wasanaeth.

Yn yr un modd, cytunodd y Synod yn ei chyfarfod ym mis Ebrill 2016 i ni ddilyn proses o adolygu ein bywyd efo’n gilydd fel Cylchdaith a Synod Cymru yn ystod y flwyddyn gyfundebol 2016-17. Bydd yr adolygiad yma’n cael eu hwyluso gan Bwyllgor Gwaith y Gylchdaith/Synod, a bydd canlyniadau ac argymhellion o’r adborth yn cael eu cyflwyno i’r Synod ym mis Ebrill 2017. Croesawir adborth gan unigolion, capeli, Ardaloedd ac unrhyw bwyllgor, cyngor neu gyfarfod sy’n bodoli yng Nghylchdaith a Synod Cymru. Dymunir derbyn amrediad mor lawn ac yn eang ag sy’n bosib er llwyddiant yr adolygiad. Trwy ddilyn y broses hon, gobeithio y bydd yn bosib gweld sut mae Duw’n ein galw ni ar gyfer y dyfodol.

Felly, ceisiwn ymatebion gonest, dewr a realistig i’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw ein cryfderau ni? Beth ydyn ni’n gwneud sy’n dda ac yn effeithiol yn ein capeli a’n Hardaloedd, ac fel Cylchdaith a Synod Cymru?
  2. Lle mae’r gwendidau yn ein bywyd efo’n gilydd? Beth sy’n rhwystro ein gwaith yng ngwasanaeth teyrnas Dduw fel capeli, Ardaloedd, Cylchdaith a Synod?
  3. Pa gyfleoedd sy’n bodoli i ni wasanaethu Duw yn well, yn lleol a thrwy’r Gylchdaith a’r Synod i gyd?
  4. Beth sy’n bygwth ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth fel pobl Dduw, boed yn ein capeli a’n Hardaloedd, neu fel Cylchdaith a Synod?

Croesawir unrhyw sylwadau eraill sy’n berthnasol i’r adolygiad, wrth i ni ystyried ein bywyd efo’n gilydd o dan Dduw fel rhan o’r Eglwys Fethodistaidd. Diolch yn fawr i bawb.

Anfonwch eich ymatebion erbyn 31 Ionawr 2017 at:

Y Parch Ddr Jennie Hurd

jennifer.hurd@methodist.org.uk

Galeri Ffoto Taith Gyfnewid Jamaica

Lluniau’r Diacon Jonathan Miller o daith gyfnewid Jamaica pobl ifanc Synod Cymru a Synod Wales 2016.

Gatwick compressedYm maes awyr Gatwick, dydd Sadwrn 16.07.16 (Ar y dde, Parch Cathy Gale)

Gatwick 2 compressedBarod i fynd, dydd Sul 17.07.16

Wedi cyrraedd compressedWedi cyrraedd! Maes Awyr Montego Bay

Ymlacio compressedCyfle i ymlacio ar y traeth, dydd Llun 18.07.16 (Yn gwisgo ei het, y Diacon Jonathan Miller)

Off to camp compressedAr fin mynd i weithio mewn gwersylloedd ieuenctid Eglwys Fethodistaidd Jamaica, dydd Mawrth 19.07.16

Ac yn y gwersylloedd…

Bus compressedTable compressedSea compressedMynd i’r capel, dydd Sul 24.07.16

Capel 1 compressedCapel 2 compressedcapel 3 compressedCinio nos Sul

Cinio nos sul compressedBore olaf yn y gwersyll

bore olaf compressed

Ymlaen wedyn i Kingston, a’r Clwb Gwyliau yng Nghartref Plant Cenedlaethol Jamaica

NCH 2 compressedNCH 1 compressed

Y Gynhadledd Fethodistaidd 2016

Cafodd y Gynhadledd Fethodistaidd ei chynnal yn Methodist Central Hall Westminster yn Llundain eleni rhwng dydd Sadwrn 2ail  a dydd Iau 7fed Gorffennaf.

Cymru reps 2016

Ymunodd pump o gynrychiolwyr o Synod Cymru, gan gynnwys y Cadeirydd, â channoedd o bobl eraill i weddïo, addoli, trafod a phenderfynu am fywyd ein henwad.

2016-SR

Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd ar gael ar www.methodistconference.org.uk

 

Synod 2016

Yn Aberystwyth cynhaliwyd y Synod eleni ar 23 Ebrill. Roedd croeso cynnes yn aros y cynrychiolwyr yno, yn cynnwys ein siaradwr gwadd, y Parchedig Gareth Powell, Ysgrifenydd y Gynhadledd Fethodistaidd.

Ymhlith penderfyniadau eraill, cytunodd y Synod y dylid symud at drydydd thema ar gyfer ein prosiect “Datblygu Ein Galwad” ar gyfer 2016-17, sef Gwasanaethu. Hefyd, cytunodd y Synod wneud adolygiad o’n  bywyd a chenhadaeth fel Synod a Chylchdaith Cymru yn ystod y flwyddyn gyfundebol sydd i ddod.

Diolch yn fawr i gyfeillion Ceredigion am yr holl baratoadau ar gyfer y Synod, ac i bawb am eu gwaith a chyfraniadau mor barod.

001