Y SleepOver Mawr

Big SleepOver Saturday icebreaker 4

Daeth deunaw o bobl ifanc ynghyd  i wersylla dros nos yn Ebeneser Caernarfon ddechrau Chwefror fel rhan o’r SleepOver Mawr, cynllun cyfundebol i gynnal gweithgaredd lleol ar gyfer pobl ifanc. Roedd y criw yn cynnwys pobl ifanc o Wrecsam, Bwcle, Porthaethwy a Chwilog, ynghyd ag arweinydd ion ifanc o Gylchdaith Bwcle. Braint hefyd oedd cael cwmni Megan Thomas, Llywydd Ieuenctid yr Eglwys.

Big SleepOver tour Diolch Bobby

Cafwyd rhaglen amrywiol o weithgareddau ddydd Sadwrn gan gynnwys taith dywys o amgylch Caernarfon, sesiynau gemau, a sesiwn ar wyrthiau.  Arweiniodd Megan sesiwn ar le pobl ifanc yn yr eglwys a phynciau ar gyfer y gynhadledd plant ac ieuenctid 3Generate a gynhelir yn Nhachwedd ac fe lwyddwyd i gynnal trafodaeth tair ffordd dros y we gyda’r ddau grŵp arall yn cynnal y SleepOver Mawr yng Nghymru, y naill yn Llanelli a’r llall yng Nghaerdydd. Cafwyd hefyd sesiwn gwneud bathodynau dan arweiniad Angela Roe ac epilog dan arweiniad Trish, Abby a Vikki ac yna ffilm cyn noswylio.

Big SleepOver craft 2

Fore Sul, braf oedd cael ymuno â chynulleidfa Ebeneser mewn gwasanaeth dwyieithog dan arweiniad Diacon Stephen Roe gyda’r bobl ifanc yn cymryd rhan ac yna cael sgwrsio a dod i adnabod ein gilydd yn well dros baned wedi’r oedfa.

Big SleepOver Service 2

Diolch i bawb a fu’n helpu i wneud y penwythnos yn bosibl, i aelodau Capel Ebeneser am eu croeso cynnes ac i’r rhai fu’n paratoi’r prydau bwyd  neu’n arwain sesiynau.  Cafwyd llawer o hwyl a chyfle i ddatblygu cyfeillgarwch a, coeliwch neu beidio, cawsom rhywfaint o gwsg!

Big SleepOver conga 3

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol 2014

013

Roedd pabell Cytûn (Yr Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) dan ei sang yn aml yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ar ddechrau mis Awst eleni. Mae’r babell yn cael ei gwerthfawrogi fel lle ar faes yr Eisteddfod i gael paned a chyfle i eistedd i lawr, i wrando ar sgyrsiau ysbrydoledig ac i gymryd amser i addoli a myfyrio. Mae’n cael ei staffio gan wirfoddolwyr o’r enwadau ac eglwysi lleol, gan gynnwys nifer o gynrychiolyddion o Synod Cymru, a oedd yn barod i roi croeso i ymwelwyr a ddaeth i’r babell ac i stondin y Synod. Diolch iddyn nhw bob un am eu cymorth, ac yn arbennig i Delyth Wyn Davies, ein Swyddog Dysgu a Datblygu, am baratoi’r stondin.

014

Caplaniaeth Canol Tref Bae Colwyn

Mae Eglwysi Ynghyd / Cytûn Bae Colwyn yn chwilio am bobl sy’n Gristnogion o argyhoeddiad ac yn aelodau selog o eglwys leol, allai gyfrannu ychydig oriau yr un pryd yn wythnosol – yn arferol yn ystod oriau busnes / siopa, i ymuno â thim o gaplaniaid gwirfoddol dan gyfarwyddyd Caplan Ordeiniedig. Dylai fod gennych gariad at bobl, y gallu i wrando ar eraill ac i agosau atynt heb eu barnu.

Am fwy o wybodaeth ewch at www.colwynchaplaincy.org.uk

Sioe Frenhinol Cymru 2014

005

Bu’r Parchedig Ddr Ian Morris, Arweinydd Ardal Morgannwg a Dirprwy Gadeirydd Synod Cymru, yn brysur iawn yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 21 a 24 Gorffennaf 2014. Mae Ian yn aelod o Dîm Caplaniaeth Amaethyddol Ecwmenaidd sy’n gweithio o babell Cytûn yn ystod y Sioe. Mae’r caplaniaid ar gael i gynnig cymorth a chefnogaeth i gystadleuwyr, staff, ymwelwyr ac unrhyw un arall y mae arno angen clust i wrando. Gan fod pwnc ei ddoethuriaeth yn ymwneud â chynhyrchu llaeth gwartheg, mae gan Ian gefndir sy’n ei helpu yn ei waith fel caplan, ac mae hefyd yn mwynhau’r gwaith hwn.

004

Y Parchedig Ddr Ian Morris yn Sioe Frenhinol Cymru 2014

Y Gynhadledd Fethodistaidd 2014

001 003 005Cafodd y Gynhadledd Fethodistaidd ei chynnal yn Birmingham eleni rhwng dydd Sadwrn 28ain Mehefin a dydd Iau 3ydd Gorffennaf. Ymunodd pump o gynrychiolwyr o Synod Cymru, gan gynnwys y Cadeirydd, â channoedd o bobl eraill i weddïo, addoli, trafod a phenderfynu am fywyd ein henwad. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd ar gael ar www.methodistconference.org.uk

Cynllun The One Programme

Ers ei sefydlu yn 2009, mae’r cynllun cyffrous The One Programme wedi darparu cyfle i bobl ifanc i wneud y gwahaniaeth yn eu cymuned leol ac yn yr Eglwys Fethodistaidd yn gyffredinol. Fe’i sefydlwyd fel rhan o Strategaeth Ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd i alluogi cyfraniad gwerthfawr ac unigryw pobl ifanc i fywyd yr Eglwys.

Mae’r cynllun yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 23oed gael dysgu a datblygu fel disgyblion i Iesu Grist. Ar y cynllun hwn, lleolir y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn cynllun cenhadol lleol am 15 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda rhai cyfrifoldebau cyfundebol neu genedlaethol a chyfnodau o hyfforddiant yn ychwanegol. Bydd y bobl ifanc yn derbyn cyflog at eu byw.

Yn aml iawn cyfeirir at flwyddyn gap fel ‘cymryd blwyddyn allan’ ond yn achos y cynllun hwn rhoddir pwyslais ar ‘gymryd blwyddyn ymlaen’ gan ddefnyddio’r flwyddyn i wneud gwahaniaeth. Hyd yma, mae’r cynllun wedi galluogi bron i 70 o bobl ifanc i weithio mewn cynlluniau mewn cymunedau lleol. Trwy’r cynllun mae bywydau nifer o eglwysi ac unigolion wedi eu newid.

Mae person o Gymru yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd. Daw Kat Freeman o’r Tŷ Du ger Casnewydd ac mae hi wedi ei lleoli yn y Caffi Ieuenctid ym Mhorth Tywyn, Cylchdaith Fethodistaidd Llanelli a Chaerfyrddin. Dywed Kat: ‘Mae gweithio ar The One Programme eleni yn hollol drawsffurfiol. Bu’r profiad a’r hyfforddiant yn wych ac mae’n sicr wedi fy mowldio i ar gyfer y dyfodol.’
Gallwch ddarganfod rhagor am y cynllun trwy fynd i wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodist.org.uk/mission/children-and-youth. Gallwch hefyd lawrlwytho’r llyfryn newydd ‘Taking a Year On’ sydd yn adrodd hanesion ysbrydoledig nifer o bobl ifanc yn rhannu eu profiad o fod ar y cynllun.

Recordio ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’

Cododd to Capel Horeb, Bae Colwyn, yn Ardal Dyffryn Conwy, ar nos Lun 19 Mai, wrth i gwmni teledu Avanti recordio deg emyn ar gyfer ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ S4C. Bydd pump o’r emynau yn cael eu darlledu yn rhaglen Sul y Cofio 2014, a phump yn rhaglen Dydd Santes Dwynwen ym mis Ionawr 2015. Cafodd pawb a oedd yno amser da, ac roedd cynhyrchwr y rhaglen yn falch iawn efo’r canu. Diolch i Phil Edwards, aelod yn Horeb, am ei weledigaeth i gynnal ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ ym Mae Colwyn.

Pererindod y Gymdeithas Hanes, 2014

003Y Pererinion yn Nantglyn

Gwenodd yr haul wrth i ryw hanner cant o bobl fwynhau Pererindod Cymdeithas Hanes Synod Cymru 2014 ar ddydd Sadwrn 17 Mai. Ymwelodd y pererinion â Dinbych, Nantglyn, Fferm Bathafarn a Rhuthun. Rhoddodd y Parchedig Martin Evans-Jones ddwy sgwrs, yr un gyntaf am hanes cychwyn yr achos Methodistaidd yn Ninbych a’r ail am Edward Jones, Bathafarn, arloeswr Methodistiaeth Gymraeg. Yn Nantglyn, cafodd y pererinion gyfle i weld “Y Pulpud yn y Goeden” lle, yn ôl traddodiad, y pregethodd y Parchedig John Wesley, sylfaenydd y mudiad Methodistaidd, ac i gynnal gwasanaeth byr yn eglwys y plwyf.

008

Y Pulpud yn y Goeden

Cafwyd lletygarwch hael yn Ninbych a Rhuthun a chymdeithas dda trwy’r dydd, gyda phawb yn dysgu llawer am hanes ein henwad. Roedd yn ddydd i’w gofio. Diolch i bawb, yn enwedig i Robin Jones, Bethel, am y trefniadau.

Eglwys Nantglyn
Eglwys Nantglyn

Delyth ar y Radio

red_logo

Roedd Oedfa Radio Cymru a ddarlledwyd ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, sef dydd Sul 11 Mai 2014, o dan ofal Delyth Wyn Davies, Swyddog Dysgu a Datblygu’r Eglwys Fethodistaidd. Thema’r gwasanaeth oedd ‘Iesu, drws y defaid’. Wrth adrodd dameg corlan y defaid dywedodd Iesu, ‘Myfi yw’r drws, os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw’n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.’ Yn y gwasanaeth cafwyd gyfle i archwilio nid yn unig pwy yw Iesu ond pwy ydym ni fel dilynwyr iddo. Defnyddiwyd darlleniadau o’r llithiadur ar gyfer y Sul, sef Salm 23, Ioan 10:1-10 ac Actau 2:42-47 ynghyd â gweddïau ac ymatebion i’r darlleniadau o wasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol, gweddïau Cymraeg y deunydd addoli a dysgu cydenwadol ‘Roots’ a gweddi Duw’r Gwaredwr o Lyfr Du Caerfyrddin gyda’r byrdwn:
Molaf fi Dduw, a’i drugaredd ar gynnydd.
Bugail cadarn yw Crist, ei anrhydedd ni dderfydd.

 

Digwyddiad Lansio “Datblygu Ein Galwad”

Ar ddydd Sadwrn 10fed Mai 2014 yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, lansiwyd proses “Datblygu Ein Galwad” Synod Cymru. Wedi’i sefydlu ar bedair thema “Ein Galwad” yr Eglwys Fethodistaidd, mae’r broses yn cynnig fframwaith i helpu capeli ac Ardaloedd wrth i ni geisio datblygu ein galwad dros y bedair mlynedd nesaf (gweler “Dysgu” ar fwydlen y wefan hon am ragor o wybodaeth).

Roedd y dydd o dan arweiniad Cadeirydd y Synod, y Parchedig Jennie Hurd, a Mrs Delyth Wyn Davies, Swyddog Dysgu a Datblygu. Dechreuwyd gyda defosiwn agoriadol gan gweinidog St Paul, y Parchedig James Patron Bell. Yna, cyflwynodd Jennie gefndir  “Datblygu Ein Galwad” a’r broses ei hunan, cyn i Delyth gyflwyno rhai o’r adnoddau sydd ar gael i’n helpu ystyried thema’r flwyddyn gyntaf, sef Dysgu a Gofalu. Ar ôl cinio, arweiniodd Delyth sesiwn ymarferol i ddangos posibiliadau defnyddio celf fel un ffordd o ddatblygu’r thema hwn. Gorffennwyd y dydd gyda gwasanaeth byr i gyflwyno’r broses i Dduw.

Diolch i bawb a fynychodd ac a gynorthwyodd gyda’r dydd, yn arbennig gweinidog ac aelodau St Paul. Bydd Delyth a Jennie ar gael i helpu a chefnogi capeli ac Ardaloedd gyda chynllunio ar gyfer “Datblygu Ein Galwad”. Ceir eu manylion cysyllt ar y wefan hon.

003 (2)

Delyth yn arwain sesiwn y prynhawn

004 (2)

Rhai a oedd yn bresenol