Dathlu’r Parchedig Thomas Coke

 

Roedd Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn llawn ar brynhawn Sadwrn 3 Mai 2014 ar gyfer digwyddiad cofio daucanmlwyddiant marwolaeth y Parchedig Thomas Coke, “Tad Cenhadaeth Fethodistaidd” a fu’n gyfrifol am anfon pregethwyr Cymraeg eu hiaith o draddodiad Wesley i Gymru am y tro cyntaf yn 1800. Croesawyd y gynulleidfa gan y Gwir Barchedig Geoffrey Marshall, Deon yr Eglwys Gadeiriol. Canwyd nifer o emynau Charles Wesley; darllenwyd hanes Thomas Coke gan gynrychiolwyr yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, Lloegr, yr Unol Daleithiau, y Caribî a Sri Lanka; a chafwyd anerchiad gan y Parchedig Arglwydd Leslie Griffiths.

Tan 16 Mai, bydd arddangosfa am fywyd Thomas Coke yn Amgueddfa Brycheiniog, Aberhonddu, o 10 yb – 4 yp bob dydd. Mynediad am ddim.
002 003Cynrychiolwyr yr Eglwys Fethodistaidd, yn cynnwys Y Parchedig Jennie Hurd, Cadeirydd Synod Cymru, a’r Parchedig Ddr Stephen Wigley, Cadeirydd Wales Synod, efo Maer Aberhonddu ar Fai 3ydd.