Ymateb Cymorth Cristnogol Cymru i’r Argyfwng Ffoaduriaid

Argyfwng Ffoaduriaid Ewrop
Canolbwyntio ar yr Angen, nid y Niferoedd

Mae’r cyfryngau yn ddiweddar wedi bod yn llawn storiâu o ffoaduriaid yn cyrraedd Ewrop, gyda’r wasg yn canolbwyntio’n bennaf ar y cynnydd yn eu niferoedd, yn hytrach na’r gwrthdaro, anghyfiawnder a gormes y meant yn dianc rhagddo. Mewn gwirionedd, mae ymateb nifer ym Mhrydain, ac mewn rhannau eraill o Ewrop wedi bod yn llai na chydymdeimladol, ac mae’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio’r bobl sy’n ceisio mynediad i Ewrop yn rhy aml wedi bod yn druenus; yn bychanu ac yn di-ddynoli.

Bob blwyddyn, yn fyd-eang, caiff miliynau eu gorfodi i ffoi eu cartrefi yn sgìl trais, gwrthdaro neu argyfwng. Mae’r mwyafrif yn aros fel ffoaduriaid o fewn eu gwledydd eu hun, ond bydd eraill yn gorfod ffoi dros ffiniau rhyngwladol i ganfod diogelwch. Mae’r mwyafrif o’r rhain fodd bynnag yn aros yn y byd sy’n datblygu, yn cael eu cynnal gan rai o wledydd tlotaf y byd.

Nid yw’r sefyllfa bresennol yn phenomenon newydd – sefydlwyd Cymorth Cristnogol 70 mlynedd yn ôl i helpu ffoaduriaid a’r digolledi yn Ewrop yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Heddiw rydym yn cefnogi’r sawl a effeithir gan ryfel a thrais mewn nifer o wledydd gan gynnwys Syria, Iraq, Afghanistan, De Sudan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a Colombia, gan gynnig cymorth ymarferol drwy fudiadau lleol wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau.

Yn Ewrop, gweithiwn gyda’n partneriaid yn y Gynghrair ACT i gefnogi gweithredu ymarferol a gwleidyddol i gynorthwyo’r rhai sy’n ffoi, ac i ymateb i’r materion hirdymor. Mae’r gynghrair ACT yn glymblaid o 145 o eglwysi sy’n cyd-weithio ar draws 140 gwlad i greu newid positif a chynaliadwy i fywydau’r tlawd a’r di-bwer, dim ots beth eu cred, rhyw, hil na gwleidyddiaeth. Fel rhan o’r Gynghrair, mae Cymorth Cristnogol yn galw ar bobl:

i fod yn groesawgar “i’r dieithriaid” ac i agor cysegrau addoli i fod yn ofod i drafod materion mudo
i barhau i wrando ar leisiau mudwyr, ymofynwyr noddfa, pobl ddi-wlad a ffoaduriaid, mewn ymgais i ymateb yn addas
i barhau i geisio deall dioddefaint y rhai mewn gwewyr, ac i weddïo gyda hwy, ac amdanynt

I Eglwysi, mudiadau ffydd, a mudiadau cymdeithas sifil yn y gwledydd ar ddechreuad, canol, a diwedd taith ffoaduriaid, i drafod a rhannu profiadau, i oleuo ymateb ei gilydd.

i ddylanwadu gwledydd y byd i gytuno a dilyn cyfreithiau hawliau dynol sy’n amddiffyn hawliau mudwyr, ffoaduriaid, a’u teuluoedd, ac i wledydd i ddilyn eu goblygiadau i gynnig cymorth ac amddiffynfa.

Medrwch hefyd gyfrannu drwy Cymorth Cristnogol i gefnogi gwaith ein partneriaid sydd wrthi yn darparu cymorth i ffoaduriaid yn Ewrop heddiw. Gweler ein gwefan – christianaid.org.uk/emergencies/areas-of-concern/refugee-crisis.aspx