Y Gynhadledd Fethodistaidd 2014

001 003 005Cafodd y Gynhadledd Fethodistaidd ei chynnal yn Birmingham eleni rhwng dydd Sadwrn 28ain Mehefin a dydd Iau 3ydd Gorffennaf. Ymunodd pump o gynrychiolwyr o Synod Cymru, gan gynnwys y Cadeirydd, â channoedd o bobl eraill i weddïo, addoli, trafod a phenderfynu am fywyd ein henwad. Mae rhagor o wybodaeth am y Gynhadledd ar gael ar www.methodistconference.org.uk

Helpwch blant y stryd i gael gwell bywyd

Helpwch blant y stryd i gael gwell bywyd

SCWC 2014Cafodd plant y stryd o Nicaragwa’r cyfle i gystadlu yng Nghwpan y Byd Plant y Stryd eleni yn Rio gyda chefnogaeth yr Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain. Mae plant a phobl ifanc yn parhau i annog eglwysi lleol ar draws y cyfundeb i helpu codi £30,000 trwy drefnu digwyddiadau codi arian eu hunain. Un ohonynt yw Kat Freeman, gweithwraig The One Programme yng Nghylchdaith Fethodistaidd Llanelli a Chaerfyrddin, a gododd tua £2,000 trwy daith feicio noddedig o Gasnewydd i Gaerfyrddin. Bydd yr holl arian o godir yn helpu rhagor o blant y stryd i gael gwell bywyd.
Mae Cwpan y Byd Plant y Stryd yn fudiad byd-eang yn cynnig amddiffyniad a’r cyfleoedd y mae pob plentyn â’r hawl iddynt i blant y stryd. Cyn pob gornest Cwpan y Byd a drefnir gan FIFA, bydd Cwpan y Byd Plant y Stryd yn uno plant y stryd o bum cyfandir i chwarae pêl-droed. Trwy bêl-droed, celf ac ymgyrchu, mae’r mudiad yn ceisio herio’r camsyniadau a thriniaeth negyddol o blant y stryd ar draws y byd. Ar Fawrth 28 2014, dechreuodd yr ornest a chynhadledd 10 diwrnod yn Rio de Janeiro, Brasil gydag 19 tîm yn cymryd rhan.
Dywedodd Tamara Wray, Llywydd Ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd, “Mae cefnogi timau Nicaragwa yng Nghwpan y Byd Plant y Stryd yn rhoi cyfle i Fethodistiaid i weld y gall eu gweithredoedd newid bywydau pobl er gwell. Ni ddylai unrhyw blentyn fyth orfod byw neu weithio ar y strydoedd ac felly mae’n fraint i ni gael cefnogi’r achos hwn gan ei fod yn fwy na gêm yn unig.”
Gallwch gyfrannu at yr achos da hwn trwy anfon sieciau’n daladwy i ‘Amos Trust’ i Methodist Church House gan nodi ar y cefn ‘fundraising – Street Child World Cup – Nicaragua team’ gyda’ch enw, neu trwy ddefnyddio cerdyn ar www.methodist.org.uk/mission/street-child-world-cup a chlicio’r botwm ‘donate now’. Diolch am bob cefnogaeth.

Cynllun The One Programme

Ers ei sefydlu yn 2009, mae’r cynllun cyffrous The One Programme wedi darparu cyfle i bobl ifanc i wneud y gwahaniaeth yn eu cymuned leol ac yn yr Eglwys Fethodistaidd yn gyffredinol. Fe’i sefydlwyd fel rhan o Strategaeth Ieuenctid yr Eglwys Fethodistaidd i alluogi cyfraniad gwerthfawr ac unigryw pobl ifanc i fywyd yr Eglwys.

Mae’r cynllun yn gyfle gwych i bobl ifanc rhwng 16 a 23oed gael dysgu a datblygu fel disgyblion i Iesu Grist. Ar y cynllun hwn, lleolir y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn cynllun cenhadol lleol am 15 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda rhai cyfrifoldebau cyfundebol neu genedlaethol a chyfnodau o hyfforddiant yn ychwanegol. Bydd y bobl ifanc yn derbyn cyflog at eu byw.

Yn aml iawn cyfeirir at flwyddyn gap fel ‘cymryd blwyddyn allan’ ond yn achos y cynllun hwn rhoddir pwyslais ar ‘gymryd blwyddyn ymlaen’ gan ddefnyddio’r flwyddyn i wneud gwahaniaeth. Hyd yma, mae’r cynllun wedi galluogi bron i 70 o bobl ifanc i weithio mewn cynlluniau mewn cymunedau lleol. Trwy’r cynllun mae bywydau nifer o eglwysi ac unigolion wedi eu newid.

Mae person o Gymru yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd. Daw Kat Freeman o’r Tŷ Du ger Casnewydd ac mae hi wedi ei lleoli yn y Caffi Ieuenctid ym Mhorth Tywyn, Cylchdaith Fethodistaidd Llanelli a Chaerfyrddin. Dywed Kat: ‘Mae gweithio ar The One Programme eleni yn hollol drawsffurfiol. Bu’r profiad a’r hyfforddiant yn wych ac mae’n sicr wedi fy mowldio i ar gyfer y dyfodol.’
Gallwch ddarganfod rhagor am y cynllun trwy fynd i wefan yr Eglwys Fethodistaidd www.methodist.org.uk/mission/children-and-youth. Gallwch hefyd lawrlwytho’r llyfryn newydd ‘Taking a Year On’ sydd yn adrodd hanesion ysbrydoledig nifer o bobl ifanc yn rhannu eu profiad o fod ar y cynllun.

Recordio ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’

Cododd to Capel Horeb, Bae Colwyn, yn Ardal Dyffryn Conwy, ar nos Lun 19 Mai, wrth i gwmni teledu Avanti recordio deg emyn ar gyfer ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ S4C. Bydd pump o’r emynau yn cael eu darlledu yn rhaglen Sul y Cofio 2014, a phump yn rhaglen Dydd Santes Dwynwen ym mis Ionawr 2015. Cafodd pawb a oedd yno amser da, ac roedd cynhyrchwr y rhaglen yn falch iawn efo’r canu. Diolch i Phil Edwards, aelod yn Horeb, am ei weledigaeth i gynnal ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ ym Mae Colwyn.

Pererindod y Gymdeithas Hanes, 2014

003Y Pererinion yn Nantglyn

Gwenodd yr haul wrth i ryw hanner cant o bobl fwynhau Pererindod Cymdeithas Hanes Synod Cymru 2014 ar ddydd Sadwrn 17 Mai. Ymwelodd y pererinion â Dinbych, Nantglyn, Fferm Bathafarn a Rhuthun. Rhoddodd y Parchedig Martin Evans-Jones ddwy sgwrs, yr un gyntaf am hanes cychwyn yr achos Methodistaidd yn Ninbych a’r ail am Edward Jones, Bathafarn, arloeswr Methodistiaeth Gymraeg. Yn Nantglyn, cafodd y pererinion gyfle i weld “Y Pulpud yn y Goeden” lle, yn ôl traddodiad, y pregethodd y Parchedig John Wesley, sylfaenydd y mudiad Methodistaidd, ac i gynnal gwasanaeth byr yn eglwys y plwyf.

008

Y Pulpud yn y Goeden

Cafwyd lletygarwch hael yn Ninbych a Rhuthun a chymdeithas dda trwy’r dydd, gyda phawb yn dysgu llawer am hanes ein henwad. Roedd yn ddydd i’w gofio. Diolch i bawb, yn enwedig i Robin Jones, Bethel, am y trefniadau.

Eglwys Nantglyn
Eglwys Nantglyn

Delyth ar y Radio

red_logo

Roedd Oedfa Radio Cymru a ddarlledwyd ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, sef dydd Sul 11 Mai 2014, o dan ofal Delyth Wyn Davies, Swyddog Dysgu a Datblygu’r Eglwys Fethodistaidd. Thema’r gwasanaeth oedd ‘Iesu, drws y defaid’. Wrth adrodd dameg corlan y defaid dywedodd Iesu, ‘Myfi yw’r drws, os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw’n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.’ Yn y gwasanaeth cafwyd gyfle i archwilio nid yn unig pwy yw Iesu ond pwy ydym ni fel dilynwyr iddo. Defnyddiwyd darlleniadau o’r llithiadur ar gyfer y Sul, sef Salm 23, Ioan 10:1-10 ac Actau 2:42-47 ynghyd â gweddïau ac ymatebion i’r darlleniadau o wasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol, gweddïau Cymraeg y deunydd addoli a dysgu cydenwadol ‘Roots’ a gweddi Duw’r Gwaredwr o Lyfr Du Caerfyrddin gyda’r byrdwn:
Molaf fi Dduw, a’i drugaredd ar gynnydd.
Bugail cadarn yw Crist, ei anrhydedd ni dderfydd.

 

Gwasanaeth Olaf Capel Salem, Eryrys

Daeth nifer da o aelodau a ffrindiau Capel Salem, Eryrys (Ardal Glannau Maelor) i’r gwasanaeth olaf yn y capel ar brynhawn Sul y Pasg. Er gwaethaf tristwch yr achlysur, roedd yna deimlad o obaith y Pasg ac ymddiried yn addewid Duw o fywyd newydd. Arweiniwyd y gwasanaeth a phregethwyd gan y gweinidog, y Parchedig Marc Morgan, gyda Mr Gron Ellis, y Parchedig Bryn Jones a’r Parchedig Jennie Hurd yn cynorthwyo. Roedd Mrs Bronwen Gough wrth yr allweddell. Yn dilyn y gwasanaeth, cafwyd cyfle i sgwrsio a hel atgofion dros baned.

Cyfarfod Pregethwyr yn Aberystwyth

Cyfarfu pregethwyr lleyg ac ordeiniedig  Synod/Cylchdaith Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 12fed Ebrill 2014. Yn dilyn amser o addoliad cyfoes o dan arweiniad y Parchedig James Patron Bell, cafwyd cyflwyniad gan James a Delyth Wyn Davies ynglŷn â chwrs hyfforddi newydd yr Eglwys Fethodistaidd ar gyfer Arweinwyr Addoliad a Phregethwyr Lleyg. Bydd y cwrs hwn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg o fis Medi 2015 ymlaen. Wedyn, cafodd y pregethwyr gyfle i gymdeithasu dros ginio. Bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Sadwrn 18fed Hydref 2014 am 11 yb yng Nghapel Bathafarn, Rhuthun.

Amser cinio
Amser cinio