I Eglwysbach, Dyffryn Conwy, lle magwyd un o pregethwyr mwyaf Cymru erioed, y Parchedig John Evans (1840-1897), yr aeth pererindod Cymdeithas Hanes Synod Cymru ar ddydd Sadwrn 16 Mai 2015.
Dechreuwyd yn eglwys y plwyf, Eglwys Martin Sant, efo caneuon gan blant ysgol y pentre.
Wedyn, cyfle i weld cartref John Evans, cyn ymgynnull yn nghapel Ebeneser, lleoliad pulpud coffa John Evans, am anerchiad gan y Ddr Telfryn Pritchard.
Cafodd pawb diwrnod bendithiol a diddorol. Diolch i Robin Jones ac aelodau Capel Ebeneser am y trefniadau a’r croeso.